Ddydd Mawrth 10 Medi yng Nghanolfan S4C Yr Egin, fe wnaethom gynnal dathliad o gyfresi Keeping Faith a Un Bore Mercher.
Cawsom gyfle i glywed mwy am wneud y gyfres gan bobl greadigol a chast allweddol.
Ar y panel Holi ac Ateb roedd gennym Maggie Russell (Cynhyrchydd Gweithredol), Nick Andrews (BBC), Gwenllian Gravelle (S4C), Laurence Love Greed (Cyfansoddwr), Matthew Hall (Awdur) ac Aneirin Hughes (Actor) gyda Mari Grug yn holi.
Noddwyd y derbyniad diodydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.