You are here

Cynulleidfa gyda Michael Sheen

5 March 2015
BAFTA CYMRU, CARDIFF,  29/09/2013HUW JOHN

Actor arobryn o Gymru i drafod ei yrfa a diwydiannau creadigol Cymru mewn digwyddiad yn BAFTA 195 Piccadilly

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, BAFTA Cymru, heddiw wedi cyhoeddi Cynulleidfa gyda Michael Sheen, sef digwyddiad lle bydd yr actor o Gymru sydd wedi cael ei enwebu am BAFTA, yn cynnig cipolwg ar ei yrfa hyd yn hyn. Cynhelir y digwyddiad yn BAFTA 195 Piccadilly yn Llundain, ar 11 Mawrth 2015, ac mae’n enghraifft o’r mathau o ddigwyddiadau y mae BAFTA Cymru yn eu trefnu ar gyfer cynulleidfaoedd y diwydiant a chynulleidfaoedd cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae’n bleser gan BAFTA Cymru ddathlu gwaith un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru a chefnogwr brwd dros ddoniau newydd, yn y digwyddiad arbennig hwn. Mae gyrfa Michael, a gydnabyddir yn rhyngwladol, wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r rheiny ag uchelgais i weithio yn y diwydiant ffilm a theledu, a thrwy gynnal y digwyddiad hwn, gobeithiwn godi proffil y doniau creadigol yng Nghymru, yn ogystal â thrafod ein cynnig i gynorthwyo pobl sy’n dechrau eu gyrfa yn y diwydiant, gyda’n partneriaid allweddol, enillwyr gwobrau BAFTA Cymru a chefnogwyr eraill a fydd yn mynychu’r noson.”

Mae Michael Sheen, sy’n hanu o Gasnewydd yn wreiddiol ac a gofiodd ei fagu ym Mhort Talbot, de Cymru, yn adnabyddus am ei waith ar dros 60 o brosiectau sgrin o’r radd flaenaf, yn y DU a’r UD.

Mae Sheen wedi derbyn enwebiadau am ei waith gan BAFTA ar gyfer ei rolau yn The Queen, Kenneth Williams: Fantabulosa! a Dirty Filthy Love, Gwobrau Emmy Primetime a’r Golden Globes ar gyfer ei rol yn Masters of Sex.  

Yn 2013, enillodd Wobr Actor Gorau’r Academig Brydeinig yng Nghymru ar gyfer The Gospel of Us, sef ailadroddiad cyfoes o stori Dioddefaint, a gynhaliwyd ledled Port Talbot, gyda’r cyhoedd fel cast, criw ac arwyr.

Dywedodd Michael Sheen, “Mae’n anrhydedd ac rwy’n edrych ymlaen y fawr at allu rhannu noson yn BAFTA. Mae bob amser yn bleser bod yn gysylltiedig â sefydliad sy’n gwneud cymaint dros y diwydiant ffilm a theledu gartref a thramor."

Mae Michael Sheen yn cael ei adnabod hefyd fel llysgennad gweithgar dros UNICEF, yn gefnogwr brwd dros hawliau plant a mentrau amrywiol sy’n annog pobl ifanc o bob cefndir yn eu huchelgeisiau i weithio yn y diwydiant ffilm a theledu.

Bydd BAFTA Cymru: Cynulleidfa gyda Michael Sheen, dan arweiniad Boyd HIlton. Yn ystod y digwyddiad, bydd Jeroboam o siampên Taittinger yn cael ei gyflwyno i Sheen, wedi’i lofnodi gan enillwyr BAFTA Cymru'r llynedd, i’w arwerthu gan y Clwb Gweithgareddau Anghenion Arbennig ym Mhort Talbot.

Bydd y digwyddiad, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, Menter a Busnes, a Siampên Taittinger, yn cynnwys derbyniad rhwydweithio ar gyfer gwesteion pwysig hefyd, a fydd yn cynnig y gorau o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth , Ken Skates; "Mae Michael Sheen yn enghraifft ddisglair o'r dalent sy'n bodoli yng Nghymru ac rwyf wrth fy modd bod ein sector diwydiannau creadigol llewyrchus yn caniatáu i dalent Cymreig o flaen a thu ôl i'r camera i ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu eu gyrfaoedd yng Nghymru tra'n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.

Mae'r Diwydiannau Creadigol yn ffynnu yng Nghymru. Nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau, fodd bynnag, ac rydym yn denu hyd yn oed mwy o gynyhyrchiadau teledu a ffilm o ansawdd uchel i Gymru fel rhan hanfodol o'n strategaeth i dyfu'r diwydiant. Rydym wedi cael nifer o lwyddiannau rhyngwladol gyda Da Vinci’s Demons, Atlantis, Doctor Who a Sherlock, i enwi dim ond rhai , ac mae'r rhain yn cadarnhau enw da Cymru fel chwaraewr o bwys ar gyfer diwydiannau creadigol."

Dywedodd Myrddin Davies, Rheolwr prosiect Cywain ym Menter a Busnes, sy’n cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu cynhyrchion newydd a marchnadoedd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a physgod, “Mae’n bleser gennym fod yn rhan o’r digwyddiad hwn a fydd, nid yn unig yn llwyfan ar gyfer ein diwydiannau creadigol, ond hefyd yn gyfle i arddangos cynhyrchion bwyd a diod o Gymru.”

Mae pob tocyn ar gyfer y cyhoedd i’r digwyddiad wedi’u gwerthu, ond bydd podlediad ar gael yn ddiweddarach yn y mis ar sianel ddysgu ar-lein BAFTA Guru (www.bafta.org/guru).