You are here

In memoriam: Dewi Vaughan Owen (1954-2015)

2 June 2015

Dewi Vaughan Owen - Cadeirydd BAFTA Cymru 2009-2013

Gyda tristwch mawr, rydym yn rhannu'r newyddion gyda chi o farwolaeth sydyn aelod o Bwyllgor BAFTA Cymru - Dewi Vaughan Owen.

Roedd Dewi yn aelod tymor hir cefnogol o bwyllgor rheoli BAFTA Cymru a gwasanaethodd fel Cadeirydd rhwng 2009 a 2013.

Yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd trawsnewidiodd Dewi ffawd BAFTA Cymru, drwy hyrwyddo ein hamcanion elusennol ac adeiladu perthynas gref, ymddiriedol gyda BAFTA yn ganolog a'r Bwrdd yn Llundain, a fu'n sail ar gyfer y datblygiad sefydlog tymor hir i waith yr Academi yng Nghymru.

Roedd ei arweinyddiaeth gref, doethineb, ffraethineb, angerdd a chefnogaeth parhaeol i’r diwydiant cyfryngau creadigol yn cael ei barchu a'i gefnogi gan y pwyllgor cyfan.

Yn dilyn gyrfa tri deg dau mlynedd yn y BBC, yn cychwyn fel cyfarwyddwr stiwdio deledu a chyfarwyddwr darlledu ar gyfer Newyddion a Materion Cyfoes, ac yn fwy diweddar gan ddefnyddio ei sgiliau cyfreithiol proffesiynol yn arwain yr adran Materion Busnes yn BBC Cymru ble oedd yn rheoli'r holl agweddau cyfreithiol cynhyrchu, ymunodd Dewi gyda’i ffrind da, y diweddar Emyr Byron Hughes, yn y cwmni Ymgynghorwyr yn y Cyfryngau fel uwch ymgynghorydd yn gweithio gydag ystod o fusnesau ledled y DU.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i wraig Dewi, Anne, a'r teulu.

Bydd angladd Dewi yn cael ei gynnal ar Fehefin 5 ac i'r rhai sydd ddim yn gallu mynychu fydd ar gael arlein i'w wylio am 7 diwrnod drwy wefan Wesley Media : username is: 22779 / password is: wmcgwyzu