You are here

Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2013

2 August 2013
Matt Johnson and Sian Lloyd

Bydd Seremoni Wobrwyo Academi Prydeinig Cymru yn digwydd yn Medi 2013 yng Nghaerdydd (manylion llawn i ddilyn yn fuan)...

Matt Johnson a Sian Lloyd yn cyflwyno 22ain Seremoni Wobrwyo Academi Brydeinig Cymru. Drama deledu yn arwain yr enwebiadau. Stella ar y blaen gyda DEG enwebiad, The Indian Doctor yn cael PUM enwebiad.

Mae BAFTA yng Nghymru wedi cyhoeddi'r enwebiadau ar gyfer y 22ain Gwobrau blynyddol noddedig gan Academi Brydeinig Cymru. Mae 26 o gategorïau ar gyfer rhaglenni, crefft a pherfformiad i'w ddyfarnu eleni i anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu mewn Ffilm a Theledu yng Nghymru rhwng 1 Ionawr 2012 a 31 Mawrth 2013.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni arbennig a gaiff ei chyflwyno gan y cyflwynydd teledu Matt Johnson a’r cyflwynydd newyddion Sian Lloyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar ddydd Sul, 29 Medi 2013.

Meddai Matt Johnson: "Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu gwobrau BAFTA Cymru, gwobrau Crefft Teledu BAFTA a Gwobrau Teledu a Ffilm BAFTA ar sawl achlysur, a chael gweld cymaint o enillwyr haeddiannol o'r safon ryngwladol uchaf yn cerdded i ffwrdd â'r mwgwd BAFTA mawreddog. Felly mae'n bleser o'r mwyaf i mi ac yn anrhydedd i gael fy ngwahodd i gyd-gyflwyno gwobrau BAFTA Cymru eleni gyda'r hyfryd Sian Lloyd sy'n wych. Mae'n mynd i fod yn llawer o hwyl, yn gymysg a digoned o gyfaredd Cymru. Diolch BAFTA".

Meddai Sian Lloyd: "Rwy'n falch iawn o gael cyflwyno seremoni Wobrwyo BAFTA Cymru eleni ochr yn ochr â Matt. Mae bob amser yn ddigwyddiad gwych ac, ar ôl gweithio yn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt am nifer o flynyddoedd, rwyf yn ymwybodol iawn faint mae'r gydnabyddiaeth y mae'n darparu yn ei olygu i'r rhai sy'n gweithio yn y maes”.

Drama deledu sy’n dominyddu eleni gyda Stella, a gynhyrchir gan Tidy Productions ar gyfer Sky 1, yn derbyn deg enwebiad, gan gynnwys dau enwebiad unigol ar gyfer Ruth Jones am Awdur Gorau ac Actores Gorau. Eleni yw'r tro cyntaf i'r ddrama rhwydwaith y BBC, The Indian Doctor, a gynhyrchir gan Rondo Media, ymddangos ac mae wedi ei enwebu pum gwaith. Mae’r ddrama Sherlock, gynhyrchir gan Hartswood Films ar gyfer y BBC, yn derbyn pedwar enwebiad tra bod Alys, gynhyrchir gan Apollo i S4C - yn cael ei enwebu tair gwaith. Mae drama newydd Russell T Davies i blant hyn, Wizards vs Aliens, gynhyrchir gan BBC Cymru Wales ar gyfer CBBC yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y gwobrau hefyd, gan dderbyn tri enwebiad ar gyfer Rhaglen Blant Orau, Dylunio Gwisgoedd a Dylunio Cynhyrchiad.

Mae'r enwebiadau ar gyfer Actor Gorau yn cynnwys y seren Hollywood, Michael Sheen, am ei berfformiad yn y ffilm am Bort Talbot -The Gospel of Us, Mark Lewis Jones am ei rôl fel cariad hir-goll Ruth Jones yn Stella a Rhodri Meilir am ei berfformiad fel y gyrrwr tacsi Trefor yn Gwlad yr Astra Gwyn ar S4C. Yn ymuno â Ruth Jones ar y rhestr enwebiadau ar gyfer yr Actores Orau mae Mali Harries am ei pherfformiad fel Megan Evans yn nrama BBC The Indian Doctor a Sara Lloyd-Gregory am ei pherfformiad yn y brif rôl yn Alys ar S4C.

Mae'r cerddor a'r cyfansoddwr byd-enwog Karl Jenkins wedi ei enwebu ar gyfer Cerddoriaeth Wreiddiol Orau am ei waith ar ddogfen hanes Green Bay i BBC Cymru Wales, The Story of Wales, sy'n derbyn tri enwebiad pellach ar gyfer Cyfres Ffeithiol Orau, Golygu Gorau a'r Cyflwynydd Gorau (Huw Edwards).

Bydd cyflwyniadau arbennig hefyd yn cael eu gwneud ar y noson ar gyfer Gwobr Siân Phillips a Gwobr am Gyfraniad Eithriadol i Deledu. Yn y seremoni hefyd bydd Gwobr Torri Drwodd eleni eto sy'n cydnabod rhai sydd wedi dod i'r amlwg gan gael effaith sylweddol ar deledu neu ffilm yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r enwebiadau ar gyfer y wobr hon yn cynnwys yr actor ifanc Justin Davies am ei rôl fel y mab Ben yn Stella, Gwion Lewis am gyflwyno Cymdeithas yr Iaith yn 50 - stori 50 mlynedd gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Meinir Gwilym, am gynhyrchu'r rhaglen ddogfen S4C O'r Galon: Karen.

Er bod y rhan fwyaf o enwebiadau eleni yn gysylltiedig â drama deledu, bydd llwyddiant o fewn y diwydiant ffilm yng Nghymru yn cael ei gydnabod hefyd gyda Gwobr Llwyddiant Arbennig ar gyfer Ffilm a chyhoeddir yr enillydd ar y noson.

Dywed Allison Dowzell, Cyfarwyddwr BAFTA yng Nghymru: "Eleni fe gawsom fwy o geisiadau nag erioed o'r blaen ac yn ôl ein beirniaid roedd safon yr enwebiadau yn arbennig o uchel. Rydym yn falch i fedru dwyn ynghyd y cynrychiolwyr gorau o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru er mwyn i ni gydnabod yr amser, egni, penderfyniad a'r gwaith caled sy'n mynd i mewn i wneud a chynhyrchu cyfryngau creadigol, teledu a rhaglenni ffilm yma. Rydym yn siŵr o weld rhai enillwyr teilwng iawn yn cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion ar y noson. Unwaith eto, rydym wedi cael cefnogaeth ffyddlon gan ein noddwyr ac rydym wrth ein bodd yn cael croesawu cefnogwyr newydd i'r digwyddiad eleni”.

Mae BAFTA yng Nghymru yn falch hefyd o gyhoeddi mai'r Prif Noddwr y Digwyddiad ar gyfer gwobrau eleni eto bydd y cwmni cyfleusterau OB a stiwdio deledu NEP Cymru, a gefnogir gan gwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau Gorilla fel Noddwr Allweddol y Digwyddiad.


TocynnauBAFTA Cymru Awards

Mae’n bosib i archebu tocynnau o Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru – Rhif:029 2063 6464 / www.wmc.org.uk