You are here

Cyhoeddi Enwebiadau Gwobr yr Academi Brydeinig yng Nghymru ar gyfer Gemau

18 June 2013

Heddiw cyhoeddodd yr Academi enwebiadau Gwobr yr Academi Brydeinig yng Nghymru ar gyfer Gemau sydd yn cael ei noddi gan Cyfle.

Enwebaidau’r rhestr fer yw:

  • Cirkits: Toy Robot Racing (Cohort Studios)
  • Go Candy (Wales Interactive)
  • Vectrex (Rantmedia Games)

Yn y seremoni flwyddyn hon mi fydd pedwar canmoliaethau yn cael ei gyflwyno yng nghategoriau Dylunio Gêm, Cyflawniad Artistig, Cyflawniad Technegol a Sain a Cherddoriaeth. Fe fydd yr enwebiadau ac ennillwyr y canmoliaethau yma yng nghyd a enwebiadau ac ennillydd Gwobr yr Academi Brydienig yng Nghymru ar gyfer Gemau yn cael eu cyhoeddi yn ystod y seremoni a chynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar ddydd Mercher 26ain Mehefin.

Mae’r digwyddiad yn cyd rhedeg gyda Wythnos Digidol Caerdydd ac mae’n ffurfio rhan o’r Sioe Datblygiad Gemau Cymru sydd yn cael ei gefnogi gan y Llwyodraeth a MEDIA Antenna Cymru. Fe fydd BAFTA Cymru hefyd yn cynnal diwrnod o sesiynnau panel gyda pobl o’r diwydiant gemau fel y BBC, UK Interactive Entertainment a Creative Skillset. Mi fydd dros 50 o gwmniau yn arddangos eu gemau a prosiectau rhyngweithiol mwyaf diweddar.

Mae tocynnau ar gyfer cynrychiolwyr y diwydiant ar werth nawr am £20.00. Mae’r tocyn yn cynnwys mynediad i’r holl ardaloedd arddangos, holl seminarau’r diwydiant a mynediad i gyflwyniad Gwobr yr Academi Brydeinig yng Nghymru ar gyfer Gemau a’r dderbynfa diodydd.