You are here

Gwobrau BAFTA Cymru 2014: Ar agor i gyflwyno cynigion

3 March 2014
Presenters Matt Johnson & Sian Lloyd co-hosted the 2013 Awards cermonyBAFTA Cymru/ Huw John

Mae Gwobrau BAFTA Cymru 2014 ar agor i gyflwyno cynigion.

Yn unol â blynyddoedd blaenorol, rydym yn gofyn i ddosbarthwyr, cwmnïau cynhyrchu, cynhyrchwyr ac aelodau gyflwyno gwaith yr hoffent gael ei ystyried.

Cyflwynir Gwobrau BAFTA Cymru yn flynyddol i gydnabod, anrhydeddu a gwobrwyo unigolion am gyflawniadau eithriadol yng Nghymru. Mae categorïau’r gwobrau yn adlewyrchu’r cyfoeth a’r amrywiaeth ym maes teledu, ffilm a chreadigrwydd digidol yng Nghymru.

Ffioedd ar gyfer ceisiadau: £50 + TAW.

Lawrlwythwch y llyfr rheolau i gael yr holl wybodaeth ynglŷn â chyflwyno cynnig, cymhwyster a beirniadu.

Cyflwynir pob cynnig trwy safle Gwobrau BAFTA ar-lein ar: http

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chyflwyno cynnig, anfonwch neges e-bost at [email protected]

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 18:00 dydd Iau 17 Ebrill 2014.

Darllenwch y rheolau’n ofalus gan fod rhai newidiadau i reolau’r blynyddoedd blaenorol.

British Academy Cymru Awards 2014 Rulebook (322.2 KB)
BAFTA Cymru Awards Entry Guide 2014 (707.7 KB)
Bafta Recognised Festival List 2013-2014 (185.7 KB)