CYHOEDDI’R ENWEBIADAU AR GYFER
30FED GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU 2021
Mae’r seremoni BAFTA sy’n dathlu’r gorau ym myd ffilm a theledu o Gymru wedi datgelu ei henwebiadau.
Dyma’r rhaglenni a gafodd y nifer fwyaf o enwebiadau:
- Gangs of London sy’n arwain y ffordd gydag wyth enwebiad
- Saith enwebiad i The Pembrokeshire Murders
- Pum enwebiad i His Dark Materials
Bydd y cyflwynydd teledu Alex Jones yn dychwelyd i gyflwyno’r seremoni ddigidol ddydd Sul 24 Hydref, 19.00 GMT ar draws sianeli cymdeithasol BAFTA
7 Medi 2021: Heddiw, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer 30fed Gwobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth ym maes darlledu a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu yng Nghymru.
Cyflwynir Gwobrau eleni ar draws 22 o gategorïau crefft, perfformio a chynhyrchu ym maes ffilm a theledu mewn seremoni a fydd yn cael ei ffrydio ar draws sianeli cymdeithasol BAFTA am 19.00 GMT ddydd Sul 24 Hydref, 2021.
Yr uchafbwyntiau ymhlith enwebiadau heddiw yw:
- Wyth enwebiad ar gyfer Gangs of London
- Saith enwebiad ar gyfer The Pembrokeshire Murders
- Pum enwebiad ar gyfer His Dark Materials
- Pedwar enwebiad ar gyfer Critical: Coronavirus in Intensive Care a Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse
- Tri enwebiad ar gyfer Black & Welsh ac It’s A Sin
Mae BAFTA hefyd wedi cadarnhau y bydd Alex Jones yn dychwelyd i gyflwyno’r seremoni. Alex yw un o’r cyflwynwyr teledu mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi cydgyflwyno prif sioe gylchgrawn BBC One, The One Show, am 11 mlynedd. Dechreuodd Alex ei gyrfa fel ymchwilydd teledu yng Nghymru, ei gwlad enedigol, cyn symud i ochr arall y camera gyda’i swydd gyflwyno gyntaf ar BBC Choice. Yna, ymunodd Alex ag S4C fel cyflwynydd ar y rhaglen ganu Cân i Gymru ac aeth ymlaen i gyflwyno amrywiaeth o raglenni plant, chwaraeon a theithio.
Bydd cyflwynwyr gwobrau sy’n cynrychioli’r gorau o dalent greadigol y sector yn ymuno ag Alex Jones i gyhoeddi’r enillwyr ar y noson.
Mae’r noddwyr digwyddiad a phartneriaid canlynol wedi cael eu cadarnhau: Acqua Panna, BBC Cymru Wales, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Cuebox, Cywain, Mentor a Busnes, Decade 10, Deloitte, Eric James Transport Services, Facilities by ADF, Gorilla, IJPR, S4C, S.Pellegrino, Sugar Creative, Trosol, Urban Myth Films, Villa Maria a chyllid a chymorth gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol.
Gweler isod am y rhestr lawn o enwebiadau
Ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â’r enwebiadau a’r seremoni, cysylltwch â: Mark Boustead, IJPR
T: 07825 932 931
Mae’r enwebiadau’n gywir ar yr adeg argraffu. Mae BAFTA yn cadw’r hawl i newid yr enwau a restrir ar unrhyw adeg hyd at 24 Hydref 2021.
Y prif enwebeion
Gangs of London (8) - Actor, Cyfarwyddwr: Ffuglen, Golygu, Colur a Gwallt, Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen, Dylunio Cynhyrchu, Sain, Awdur.
The Pembrokeshire Murders (7) – Actor, Actores, Dylunio Gwisgoedd, Cyfarwyddwr: Ffuglen, Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen, Sain, Drama Deledu.
His Dark Materials (5) – Dylunio Gwisgoedd, Golygu, Colur a Gwallt, Sain, Drama Deledu.
Critical: Coronavirus in Intensive Care (4) – Cyfarwyddwr: Ffeithiol, Golygu, Rhaglen Ddogfen Unigol, Ffotograffiaeth: Ffeithiol
Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse (4) – Colur a Gwallt, Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen, Dylunio Cynhyrchu, Sain
Black & Welsh (3) – Cyfarwyddwr: Ffeithiol, Ffotograffiaeth: Ffeithiol, Rhaglen Ddogfen Unigol
It’s a Sin (3) - Actor, Actores, Awdur
FFOTOGRAFFIAETH BAFTA
Bydd BAFTA yn darparu detholiad o ddelweddau i’r wasg sydd ar gael i’w defnyddio am ddim ddydd Sul 24 Hydref o 19.00 GMT ymlaen trwy https://bafta.thirdlight.com/link/BAFTAPressImages/ (mae telerau ac amodau defnyddio wedi’u cynnwys yn y ddolen).
Bydd ffotograffiaeth ychwanegol ar gael trwy Rex/Shutterstock
Rhestr lawn o Enwebeion Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2021
ACTOR
CALLUM SCOTT HOWELLS It's A Sin - Red Production Company / Channel 4
KEITH ALLEN The Pembrokeshire Murders - World Productions in association with Severn Screen/ ITV
MARK LEWIS JONES Gangs of London - Pulse Films, SISTER / Sky Atlantic
MICHAEL SHEEN Quiz - Left Bank Pictures / ITV
ACTORES noddir gan Urban Myth Films
ALEXANDRIA RILEY The Pembrokeshire Murders - World Productions in association with Severn Screen / ITV
ANDRIA DOHERTY It's A Sin - Red Production Company / Channel 4
JUDI DENCH Six Minutes to Midnight - Mad as Birds/ Reliance Entertainment Productions 6 / Ella Communications / Lionsgate / Sky Cinema
MORFYDD CLARK Saint Maud - Escape Plan Productions / Film4 / BFI Film Fund
GWOBR TORRI DRWODD noddir gan Llywodraeth Cymru
ENLLI FYCHAN OWAIN (Cynhyrchydd) The Welshman - Ebb in Joy Pictures
JAMES PONTIN (Cyfarwyddwr) The Merthyr Mermaid - BBC Cymru Wales / BBC One Wales
MICHAEL KENDRICK WILLIAMS (Cynhyrchydd) Britannia's Burning: Fire on the Bridge /
/ Britannia: Tân ar y Bont - Rondo Media / BBC One Wales / S4C
RHAGLEN BLANT
DEIAN A LOLI - Cwmni Da / S4C
JAMIE JOHNSON OUTSIDE THE BOX - Short Form Film Company / iPlayer
MABINOGI-OGI A MWY - Boom Cymru / S4C
DYLUNIO GWISGOEDD
CAROLINE MCCALL His Dark Materials - Bad Wolf/ BBC Studios / HBO / BBC ONE
DAWN THOMAS-MONDO The Pembrokeshire Murders - World Productions in association with Severn Screen / ITV
LUCINDA WRIGHT Six Minutes to Midnight- Mad as Birds / Reliance Entertainment Productions 6 / Ella Communications / Lionsgate / Sky Cinema
SARAH ARTHUR A Discovery of Witches - Bad Wolf / Sky One
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL noddir gan Gyngor Caerdydd
HANNAH BERRYMAN Rockfield: The Studio on the Farm – ie ie productions ltd / BBC Four
LIANA STEWART Black and Welsh – ie ie Productions ltd / BBC One Wales
LUKE PAVEY Critical: Coronavirus in Intensive Care - Frank Films / BBC One Wales
NIA DRYHURST DRYCH: Chwaer Fach Chwaer Fawr - Dogma / S4C
CYFARWYDDWR: FFUGLEN noddir gan Champagne Taittinger
ASHLEY WAY White Lines - Left Bank Pictures / Vancouver Media / Netflix
GARETH EVANS Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
JON JONES We Hunt Together - BBC Studios / Alibi
MARC EVANS The Pembrokeshire Murders - World Productions in association with Severn Screen / ITV
GOLYGU noddir gan Gorilla
AL EDWARDS Critical: Coronavirus in Intensive Care - Frank Films / BBC One Wales
ELEN PIERCE LEWIS White Lines - Left Bank Pictures / Vancouver Media / Netflix
SARA JONES Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
SARA JONES His Dark Materials - Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC ONE
RHAGLEN ADLONIANT noddir gan Cywain, Menter a Busnes
AM DRO! - Cardiff Productions / S4C
DOLIG YSGOL NI: MAESINCLA - Darlun / S4C
PRIODAS PUM MIL - Boom Cymru / S4C
SGWRS DAN Y LLOER - KRISTOFFER HUGHES - Teledu Tinopolis / S4C
CYFRES FFEITHIOL noddir gan Channel 4
A SPECIAL SCHOOL - Slam Media / BBC One Wales
CORNWALL: THIS FISHING LIFE - Frank Films / BBC Two
CRITICAL: INSIDE INTENSIVE CARE - Frank Films / BBC One Wales
RHOD GILBERT’S WORK EXPEREIENCE - Zipline Media Limited / BBC One Wales
FFILM NODWEDD/DELEDU
ETERNAL BEAUTY - Cliff Edge Pictures, British Film Institute, Welsh Government / Ffilm Cymru Wales / The Wellcome Trust
NUCLEAR - Yellow Nuclear
ROCKFIELD: THE STUDIO ON THE FARM - ie ie productions ltd / BBC Four
COLUR A GWALLT
CLAIRE WILLIAMS Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
CLAIRE PRITCHARD-JONES Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse - Hartswood Films / Sky One
JACQUELINE FOWLER His Dark Materials - Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC ONE
NEWYDDION A MATERION CYFOES noddir gan IJPR
CHANNEL 4 NEWS - WALES & THE COVID-19 PANDEMIC ITN Channel 4 News Wales Bureau / Channel 4
LLOFRUDDIAETH MIKE O'LEARY - ITV Cymru Wales / S4C
PAWB A’I FARN- BLACK LIVES MATTER - Teledu Tinopolis / S4C
FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL
CAMERA TEAM Critical: Coronavirus in Intensive Care - Frank Films / BBC One Wales
EMILY ALMOND BARR Black and Welsh - ie ie Productions ltd / BBC One Wales
NATHAN MACKINTOSH Hidden Wales with Will Millard - Lazerbeam / Frank Films / BBC One Wales
TUDOR EVANS The Story of Welsh Art - Wildflame Productions / BBC Two Wales
FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN
BAZ IRVINE The Pembrokeshire Murders - World Productions in association with Severn Screen / ITV
JOHN CONROY Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse - Hartswood Films / Sky One
MATT FLANNERY Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
MILOS MOORE Industry - Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC Two
CYFLWYNYDD noddir gan Deloitte
ELIN FFLUR yn Sgwrs Dan y Lloer - Kristoffer Hughes - Teledu Tinopolis / S4C
NATHAN BLAKE yn Wales' Black Miners - Cardiff Productions / BBC One Wales
RHOD GILBERT yn Rhod Gilbert's Work Experience - Zipline Media Limited / BBC One Wales
RICHARD PARKS yn Richard Parks: Can I Be Welsh & Black? - Hello Deer Productions / Silver Star Productions / ITV Cymru Wales
DYLUNIO CYNHYRCHIAD noddir gan Sugar Creative
JAMES NORTH A Discovery of Witches - Bad Wolf / Sky One
TOM PEARCE Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
TOM PEARCE Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse - Hartswood Films / Sky One
FFILM FER
FATHER OF THE BRIDE - Deivos Films
I CHOOSE – ie ie Productions / BBC Two Wales
THE NEST - It's My Shout / BBC Two Wales
THE WELSHMAN - Ebb in Joy Pictures
RHAGLEN DDOGFEN SENGL
BLACK AND WELSH - ie ie Productions / BBC One Wales
CRITICAL: CORONAVIRUS IN INTENSIVE CARE - Frank Films / BBC One Wales
RHOD GILBERT: STAND UP TO INFERTILITY - Wales & Co Media / Llanbobl Vision / BBC One Wales
STRICTLY AMY: CROHN’S AND ME - Wildflame Productions / BBC One Wales
SAIN
Y TÎM CYNHYRCHU Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
Y TÎM CYNHYRCHU His Dark Materials - Bad Wolf / BBC Studios/ HBO / BBC ONE
Y TÎM CYNHYRCHU The Pembrokeshire Murders - World Productions in association with Severn Screen / ITV
Y TÎM CYNHYRCHU Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse - Hartswood Films / Sky One
DRAMA DELEDU noddir gan Facilities by ADF
HIS DARK MATERIALS - Bad Wolf, BBC Studios / HBO / BBC ONE
INDUSTRY- Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC Two
THE PEMBROKESHIRE MURDERS - World Productions in association with Severn Screen / ITV
UN BORE MERCHER/KEEPING FAITH - Vox Pictures / S4C / BBC One Wales
AWDUR noddir gan Decade 10
BARRY JONES Rybish - Cwmni Da / S4C
GARETH EVANS, MATT FLANNERY Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
RUSSELL T DAVIES It's A Sin - Red Production Company / Channel 4
7 Medi 2021
Mae’r enwebiadau yn gywir wrth fynd i brint. Mae BAFTA yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r enwau a restrir ar unrhyw adeg hyd at Hydref 24ain 2021
Ynglŷn â BAFTA
Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yn elusen gelfyddydau annibynnol o’r radd flaenaf sy’n dod â’r gwaith gorau ym myd ffilmiau, gemau a theledu i sylw’r cyhoedd ac yn cefnogi twf doniau creadigol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Trwy ei seremonïau gwobrwyo a’i rhaglen o ddigwyddiadau a mentrau dysgu drwy gydol y flwyddyn – sy’n cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau, darlithiau a chynlluniau mentora yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America ac Asia – mae BAFTA yn amlygu a dathlu
rhagoriaeth, yn darganfod, ysbrydoli a meithrin doniau newydd, ac yn galluogi dysgu a chydweithredu creadigol. I gael cyngor ac ysbrydoliaeth gan y meddyliau creadigol gorau sy’n gweithio ym myd ffilm, teledu a gemau, ewch i www.bafta.org/guru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bafta.org
Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol yr Academi ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw seremoni flynyddol Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sef llwyfan annibynnol sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau, teledu a gemau, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio. www.bafta.org/wales