You are here

MAE’R CYFNOD YMGEISIO AR GYFER 31AIN GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU AR AGOR

28 February 2022
  • Meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer Gwobr Torri Trwodd Cymru
  • Cyflwyno categori newydd ‘Newyddion, Materion Cyfoes a Phynciol’
  • Categori Golygu i gydnabod Ffuglen a Ffeithiol

Caerdydd, 28 Chwefror: Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi’r rheolau, y meini prawf cymhwysedd a’r llinell amser ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn 2022. O 1 Mawrth ymlaen, bydd y cyfnod ymgeisio’n agor gyda newidiadau i’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Gwobr Torri Trwodd Cymru, sydd ar agor i unigolion o Gymru yn unig; ychwanegu categori newydd ‘Newyddion, Materion Cyfoes a Phynciol’ a newid i’r categori ‘Golygu’ blaenorol, a fydd yn cael ei rannu’n ‘Ffuglen’ a ‘Ffeithiol’.

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru a Chyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis: "Wrth i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru barhau i ffynnu, rydym wedi gwneud newidiadau i’n rheolau a’n meini prawf cymhwysedd i ymateb i’r twf yn ogystal ag ystyried yr adborth a gawsom gan ein haelodau a’n cydweithwyr yn y diwydiant. Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn dathlu’r enghreifftiau gorau o ffilm a theledu a wnaed yng Nghymru a chan unigolion o Gymru, ac eleni mae BAFTA Cymru yn awyddus i gydnabod a chroesawu popeth sydd gan ein gwlad i’w gynnig.”

Gwobr Torri Trwodd Cymru

Bydd Gwobr Torri Trwodd Cymru, sef y Wobr Torri Trwodd gynt, ar agor i unigolion o Gymru yn unig bellach. Gwnaed y newid i gydnabod talent o Gymru a thaflu goleuni ar eu gwaith nhw yn unig. Roedd Pwyllgor Rheoli BAFTA Cymru eisiau sicrhau bod y wobr hon yn gwbl ar wahân i wobrau a chategorïau Torri Trwodd eraill BAFTA sydd ar gael.

Ystyrir bod unigolion yn dod o Gymru o dan un o’r meini prawf canlynol:

Wedi cael eu geni yng Nghymru
Yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd ac wedi bod yn byw yma am bum mlynedd o leiaf pan wnaed y cais
Yn ystyried eu bod yn dod o Gymru ar ôl treulio cyfnod sylweddol o amser yma; gall hyn gynnwys blynyddoedd ffurfiannol. (Gofynnir i ymgeiswyr roi rhagor o wybodaeth ar yr adeg ymgeisio)

Newyddion, Materion Cyfoes a Phynciol

Ar gyfer rhaglen unigol neu raglen mewn cyfres sy’n ymwneud yn bennaf â materion cyfoes neu faterion pynciol. Bydd rhaglenni’n dangos ymrwymiad i newyddiaduriaeth o’r safon uchaf ac yn ceisio datguddio, cyflwyno safbwyntiau newydd a dadansoddi. Mae’r teitl wedi’i ddiweddaru yn cynnwys meini prawf materion cyfoes yn ogystal â materion pynciol. Gwnaed y newid hwn i gynyddu nifer y rhaglenni ffeithiol sy’n ymgeisio ac i barhau i ddatblygu’r categori.  

Golygu

Mae’r categori Golygu yn cael ei rannu’n ‘Ffuglen’ a ‘Ffeithiol’. Gwnaed y newid hwn yn dilyn adborth gan y diwydiant, cynnydd yn nifer y rhaglenni ffeithiol sy’n cael eu gwneud yng Nghymru a chynnydd parhaus yn nifer y ceisiadau.

O 1 Mawrth ymlaen, bydd crynodeb o’r rheolau a’r meini prawf newydd ar gael isod. Gweler http://awards.bafta.org/entry

Dyddiadau Allweddol

Dydd Mawrth 1 Mawrth – Safle Ymgeisio’n Agor (09.00 GMT)

Dydd Mawrth 6 Medi – Cyhoeddi’r enwebiadau

Mis Hydref – Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2022

 

DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:

E [email protected]

Ff (0)2920 223 898

Ynglŷn â BAFTA

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yn elusen gelfyddydau annibynnol o’r radd flaenaf sy’n dod â’r gwaith gorau ym myd ffilmiau, gemau a theledu i sylw’r cyhoedd ac yn cefnogi twf doniau creadigol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Trwy ei seremonïau gwobrwyo a’i rhaglen o ddigwyddiadau a mentrau dysgu drwy gydol y flwyddyn – sy’n cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau, darlithiau a chynlluniau mentora yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America ac Asia – mae BAFTA yn amlygu a dathlu rhagoriaeth, yn darganfod, ysbrydoli a meithrin doniau newydd, ac yn galluogi dysgu a chydweithredu creadigol. I gael gwybod mwy, ewch i www.bafta.org. Mae BAFTA yn elusen gofrestredig (rhif 216726).

Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol yr Academi ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw seremoni flynyddol Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sef llwyfan annibynnol sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau, teledu a gemau, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio www.bafta.org/television/cymru-awards