You are here

Hywel Gwynfryn i’w anrhydeddu â Gwobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2023

28 September 2023
Event: BAFTA Cymru AwardsDate: Sunday 15 October 2023Venue: The Celtic Manor Resort, Caerleon, Newport, U.K.  Host: Alex Jones-Area:BAFTA/Francesca Jones

Heddiw, mae BAFTA Cymru yn cyhoeddi mai’r darlledwr enwog o Gymru, Hywel Gwynfryn, fydd yn derbyn y Wobr Cyfraniad Arbennig eleni. Dyma un o anrhydeddau mwyaf BAFTA Cymru, a chyflwynir y Wobr eleni i Gymro sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at ddarlledu.

Ers dros hanner canrif, mae Hywel Gwynfryn wedi bod yn enw cyfarwydd yng Nghymru fel un o’r bobl fwyaf adnabyddus yn y wlad ym myd teledu, radio, ac adloniant. Ac yntau’n ddarlledwr, saer geiriau ac awdur dylanwadol, gellir gweld, clywed, a theimlo ei ôl ym mhob agwedd ar ddiwylliant poblogaidd Cymru.

Dechreuodd weithio i’r BBC ym 1964, ac ym 1968 cyflwynodd y sioe Helo Sut Dach Chi?, sef y rhaglen bop Gymraeg gyntaf ar y radio. Ychydig iawn o gerddoriaeth bop Gymraeg oedd yn cael ei chwarae ar y radio ar y pryd, felly roedd hwn yn gam arloesol, ac yn y pen draw, roedd Hywel Gwynfryn yn derbyn ac yn chwarae tapiau demo gan fandiau ac artistiaid ledled Cymru. Cyflwynodd arddull fwy ‘sgyrsiol’ i ddarlledu hefyd, a oedd yn wahanol iawn i’r Gymraeg fwy ‘ffurfiol’ a ddefnyddiwyd mewn darlledu ar y pryd, a denodd gynulleidfa iau. Ym 1970, roedd yn un o gyflwynwyr Bilidowcar, sef sioe deledu gylchgrawn i blant ac ateb Cymru i Blue Peter.

Ers i BBC Radio Cymru ddechrau ym 1977, mae Hywel Gwynfryn hefyd wedi bod yn un o’i gyflwynwyr mwyaf hoff ac adnabyddus, gan gyflwyno ei raglen foreol flaenllaw Helo Bobol a chyflwyno sioeau fel Hywel a Nia, ynghyd ag adrodd o’r Eisteddfod  bob blwyddyn. Ochr yn ochr â’i yrfa radio, mae ef hefyd wedi cyflwyno rhaglenni teledu materion cyfoes fel Heddiw Rhaglen Hywel Gwynfryn ac ym 1990 fe gyflwynodd Ar Dy Feic, sef rhaglen deledu yn dilyn ffawd teuluoedd o Gymru a oedd wedi mynd i fyw mewn gwledydd eraill. Ysgrifennodd ef y ffilm ‘Y Dyn ’Nath Ddwyn y ’Dolig’ gyda Caryl Parry Jones hefyd ar gyfer S4C ym 1985, sy’n cael ei hystyried yn glasur cwlt a ddarlledir yn rheolaidd ar y sianel yn ystod y Nadolig.

Dywedodd Hywel Gwynfryn: “Am y trigain mlynedd diwethaf, dwi wedi bod yn eistedd a gwrando ar bobl yn siarad â mi am bopeth dan haul. Dwi wedi teithio’r byd a chael tâl am gael amser bendigedig. A nawr dwi’n mynd i gael BAFTA. Does dim byd gwell na hynny.”

Ganwyd Hywel Gwynfryn yn Llangefni, Ynys Môn a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, lle mae’n byw bellach. Mae hefyd wedi ysgrifennu sawl bywgraffiad ar Gymry enwog, sef yr actores glodfawr Siân Phillips (i’w ryddhau y Nadolig hwn), y deuawd comedi enwog Ryan a Ronnie, y diweddar actor Hugh Griffith a enillodd Oscar, ynghyd â’r soprano Margaret Williams. Ac yntau’n saer geiriau nodedig ac uchel ei barch, ysgrifennodd Gwynfryn Anfonaf Angel – un o’r caneuon Cymraeg fwyaf llwyddiannus erioed gyda cherddoriaeth a gyfansoddwyd gan Robat Arwyn. I ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed yn 2022, neilltuodd Noson Lawen ar S4C raglen gyfan i’w waith – gan gynnwys caneuon a ysgrifennodd ar gyfer ffilmiau a'r llwyfan dros y degawdau wedi’u perfformio gan rai o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru. 

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA: “Rydw i wrth fy modd i glywed bod BAFTA Cymru yn anrhydeddu Hywel Gwynfryn â Gwobr Cyfraniad Arbennig eleni. Does neb wedi ymroi ei fywyd cymaint i ddarlledu Cymraeg nag ef. Ac yntau’n eicon ym myd darlledu Cymraeg, mae nid yn unig wedi ffurfio’r Radio Cymru sy’n gyfarwydd i ni heddiw ond wedi cyfrannu at gymaint o agweddau diwylliannol ar ein bywydau. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch wedi dod ar draws ei waith, rywbryd. Edrychwn ymlaen at ddathlu gyda Hywel yn y Gwobrau ym mis Hydref.”

Gellir clywed Hywel yn cyflwyno Swyn y Sul ar BBC Radio Cymru, sydd bellach ar ei 4edd gyfres, gyda’r soprano o Gymru, Elin Manahan Thomas, bob dydd Sul.

Ychwanegodd Hywel Gwynfryn: “Y peth pwysig, a minnau’n 81 oed, yw ’mod i’n dal i fod yn egnïol, yn dal i ysgrifennu, darlledu, a chynhyrchu – ac mae hynny’n gymaint o fendith. Mae fy ngyrfa a’r Wobr hon nid yn unig yn deillio o’m gwaith i, ond gwaith yr holl gynhyrchwyr, ymchwilwyr, gweithredwyr sain a chriwiau cyfan sydd wedi fy nghefnogi ac aros gyda mi dros y blynyddoedd. Dwi’n eithriadol o ddiolchgar iddyn nhw ac i BAFTA Cymru am y wobr hon. Diolch.”

Bydd y Wobr Cyfraniad Arbennig yn cael ei chyflwyno i Hywel Gwynfryn yng Ngwobrau BAFTA Cymru ar 15 Hydref. Bydd y seremoni’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd am y tro cyntaf a bydd ar gael i’w gwylio’n fyw ar sianel YouTube BAFTA.

<ENDS>

Nodiadau i Olygyddion

Ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â Gwobrau BAFTA Cymru 2023, cysylltwch â: Nia Medi (Medi Public Relations)

E: [email protected]

Ff: 07706860925

Mae detholiad o ddelweddau ar gael trwy wefan Thirdlight BAFTA yma

 

Ynglŷn â BAFTA

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yn elusen gelfyddydau annibynnol o’r radd flaenaf sy’n dod â’r gwaith gorau ym myd ffilmiau, gemau a theledu i sylw’r cyhoedd ac yn cefnogi twf doniau creadigol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Trwy ei seremonïau gwobrwyo a’i rhaglen o ddigwyddiadau a mentrau dysgu drwy gydol y flwyddyn – sy’n cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau, darlithiau a chynlluniau mentora yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America ac Asia – mae BAFTA yn amlygu a dathlu rhagoriaeth, yn darganfod, ysbrydoli a meithrin doniau newydd, ac yn galluogi dysgu a chydweithredu creadigol. I gael gwybod mwy, ewch i www.bafta.org. Mae BAFTA yn elusen gofrestredig (rhif 216726).

Yng Nghymru, mae cenhadaeth elusennol BAFTA yn cefnogi cymunedau creadigol ar draws y wlad trwy amlygu ehangder a llwyddiant y diwydiant cynhyrchu, amlygu a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent, a dod â’r enghreifftiau gorau o waith ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru i sylw’r cyhoedd yn fyd-eang. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw Gwobrau blynyddol BAFTA Cymru, llwyfan annibynnol sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau a theledu, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio. Dysgwch fwy yn www.bafta.org/awards/cymru-awards.