- Gangs of London yn ennill pedair gwobr
- It’s A Sin, The Pembrokeshire Murders a Rhod Gilbert’s Work Experience yn ennill dwy wobr yr un
- Morfydd Clark a Callum Scott Howells ymhlith y rhai a enillodd wobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf
Dydd Sul, 24 Hydref 2021: Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi enillwyr 30ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru. Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau a theledu yng Nghymru, a chan bobl o Gymru ar gynyrchiadau’r Deyrnas Unedig, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol.
Enillodd Gangs of London bedair gwobr, ar gyfer Matt Flannery (Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen) a enillodd wobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf, Sara Jones (Golygu), Tom Pearce (Dylunio Cynhyrchu) a’r Tîm Sain (Sain).
Enillodd It’s A Sin ddwy wobr; cyflwynwyd y wobr Actor i’r enillydd tro cyntaf Callum Scott Howells a’r wobr Awdur i Russell T Davies.
Enillodd Rhod Gilbert y wobr Cyflwynydd ar gyfer Rhod Gilbert’s Work Experience, a enillodd y wobr ar gyfer Cyfres Ffeithiol hefyd. Enillodd The Pembrokeshire Murders y wobr Drama Deledu ac enillodd Marc Evans y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen ar ei chyfer hefyd, sef yr 8fed tro iddo ennill yn ei yrfa.
Enillodd Morfydd Clark ei gwobr BAFTA Cymru gyntaf ar gyfer Actores am ei pherfformiad yn Saint Maud. Cyflwynwyd y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol i Liana Stewart, a enwebwyd am y tro cyntaf, ar gyfer Black & Welsh.
Enillydd gwobr Torri Trwodd eleni yw Michael Kendrick Williams am ei rôl fel cynhyrchydd ar Britannia's Burning: Fire on the Bridge/Britannia: Tân ar y Bont.
Enillodd Strictly Amy: Crohn’s and Me y wobr ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol. Cyflwynwyd y wobr Ffotograffiaeth: Ffeithiol i’r Tîm Camera ar gyfer Critical: Coronavirus in Intensive Care. Enillodd Pawb a’i Farn – Black Lives Matter y wobr ar gyfer Newyddion a Materion Cyfoes.
Enillwyd y wobr Colur a Gwallt gan Claire Pritchard-Jones ar gyfer Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse. Enillodd Caroline McCall y wobr Gwisgoedd ar gyfer ei gwaith ar His Dark Materials.
Cyflwynwyd y wobr Rhaglen Blant i Deian a Loli am y trydydd tro; enillwyd y wobr Rhaglen Adloniant gan Dolig Ysgol Ni: Maesincla; ac enillwyd y categori Ffilm Fer gan The Welshman. Cyflwynwyd y wobr Ffilm Nodwedd/Deledu i Eternal Beauty.
Cyflwynwyd 30ain Gwobrau BAFTA Cymru gan Alex Jones, a rhoddwyd 22 o wobrau yn ystod y noson. Darlledwyd y seremoni ar sianeli Facebook, Twitter a YouTube BAFTA, ac mae ar gael i’w gwylio yma.
Noddwyr a phartneriaid y digwyddiad yw Acqua Panna, BBC Cymru Wales, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Coray and Co, Cuebox, Cywain, Menter a Busnes, Decade 10, Deloitte, Eric James Transport Services, Facilities by ADF, Gorilla, Cyfreithwyr Hugh James, IJPR, S4C, S.Pellegrino, Sugar Creative, Trosol, Urban Myth Films a Villa Maria, gyda chyllid a chymorth gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol.
Mae rhestr lawn o’r enillwyr yn cyd-fynd â’r datganiad hwn.
Mae delweddau ar gyfer y wasg ar gael yn https://bafta.thirdlight.com/link/BAFTAPressImages/@/folder/3
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Mark Boustead, IJPR
Ff: 07825 932 931
- **
ENILLWYR GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU 2021
(enillwyr mewn teip TRWM)
Rhestr lawn o’r Enwebeion ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2021
ACTOR
CALLUM SCOTT HOWELLS It's A Sin - Red Production Company / Channel 4
KEITH ALLEN The Pembrokeshire Murders - World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV
MARK LEWIS JONES Gangs of London - Pulse Films, SISTER / Sky Atlantic
MICHAEL SHEEN Quiz - Left Bank Pictures / ITV
ACTORES Noddwyd gan Urban Myth Films
ALEXANDRIA RILEY The Pembrokeshire Murders - World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV
ANDRIA DOHERTY It's A Sin - Red Production Company / Channel 4
JUDI DENCH Six Minutes to Midnight - Mad as Birds/ Reliance Entertainment Productions 6 / Ella Communications / Lionsgate / Sky Cinema
MORFYDD CLARK Saint Maud - Escape Plan Productions / Film4 / BFI Film Fund
TORRI TRWODD Noddwyd gan Lywodraeth Cymru
ENLLI FYCHAN OWAIN (Cynhyrchydd) The Welshman - Ebb in Joy Pictures
JAMES PONTIN (Cyfarwyddwr) The Merthyr Mermaid - BBC Cymru Wales / BBC One Wales
MICHAEL KENDRICK WILLIAMS (Cynhyrchydd) - Britannia's Burning: Fire on the Bridge / Britannia: Tân ar y Bont- Rondo Media / BBC One Wales / S4C
RHAGLEN BLANT Noddwyd gan Gyfreithwyr Hugh James
DEIAN A LOLI - Cwmni Da / S4C
JAMIE JOHNSON OUTSIDE THE BOX - Short Form Film Company / iPlayer
MABINOGI-OGI A MWY - Boom Cymru / S4C
DYLUNIO GWISGOEDD
CAROLINE MCCALL His Dark Materials - Bad Wolf/ BBC Studios / HBO / BBC ONE
DAWN THOMAS-MONDO The Pembrokeshire Murders - World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV
LUCINDA WRIGHT Six Minutes to Midnight- Mad as Birds / Reliance Entertainment Productions 6 / Ella Communications / Lionsgate / Sky Cinema
SARAH ARTHUR A Discovery of Witches - Bad Wolf / Sky One
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL Noddwyd gan Gyngor Caerdydd
HANNAH BERRYMAN Rockfield: The Studio on the Farm – ie ie productions ltd / BBC Four
LIANA STEWART Black and Welsh – ie ie Productions ltd / BBC One Wales
LUKE PAVEY Critical: Coronavirus in Intensive Care - Frank Films / BBC One Wales
NIA DRYHURST DRYCH: Chwaer Fach Chwaer Fawr - Dogma / S4C
CYFARWYDDWR: FFUGLEN Noddwyd gan Champagne Taittinger
ASHLEY WAY White Lines - Left Bank Pictures / Vancouver Media / Netflix
GARETH EVANS Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
JON JONES We Hunt Together - BBC Studios / Alibi
MARC EVANS The Pembrokeshire Murders - World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV
GOLYGU Noddwyd gan Gorilla
AL EDWARDS Critical: Coronavirus in Intensive Care - Frank Films / BBC One Wales
ELEN PIERCE LEWIS White Lines - Left Bank Pictures / Vancouver Media / Netflix
SARA JONES Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
SARA JONES His Dark Materials - Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC ONE
RHAGLEN ADLONIANT Noddwyd gan Cywain, Menter a Busnes
AM DRO! - Cardiff Productions / S4C
DOLIG YSGOL NI: MAESINCLA - Darlun / S4C
PRIODAS PUM MIL - Boom Cymru / S4C
SGWRS DAN Y LLOER - KRISTOFFER HUGHES - Teledu Tinopolis / S4C
CYFRES FFEITHIOL Noddwyd gan Channel 4
A SPECIAL SCHOOL - Slam Media / BBC One Wales
CORNWALL: THIS FISHING LIFE - Frank Films / BBC Two
CRITICAL: INSIDE INTENSIVE CARE - Frank Films / BBC One Wales
RHOD GILBERT’S WORK EXPEREIENCE - Zipline Media Limited / BBC One Wales
FFILM NODWEDD/DELEDU
ETERNAL BEAUTY - Cliff Edge Pictures, Sefydliad Ffilm Prydain, Llywodraeth Cymru / Ffilm Cymru Wales / Ymddiriedolaeth Wellcome
NUCLEAR - Yellow Nuclear
ROCKFIELD: THE STUDIO ON THE FARM - ie ie productions ltd / BBC Four
COLUR A GWALLT
CLAIRE WILLIAMS Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
CLAIRE PRITCHARD-JONES Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse - Hartswood Films / Sky One
JACQUELINE FOWLER His Dark Materials - Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC ONE
NEWYDDION A MATERION CYFOES Noddwyd gan IJPR
CHANNEL 4 NEWS - WALES & THE COVID-19 PANDEMIC ITN Channel 4 News Wales Bureau / Channel 4
LLOFRUDDIAETH MIKE O'LEARY - ITV Cymru Wales / S4C
PAWB A’I FARN- BLACK LIVES MATTER - Teledu Tinopolis / S4C
FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL
Y TÎM CAMERA Critical: Coronavirus in Intensive Care - Frank Films / BBC One Wales
EMILY ALMOND BARR Black and Welsh - ie ie Productions ltd / BBC One Wales
NATHAN MACKINTOSH Hidden Wales with Will Millard - Lazerbeam / Frank Films / BBC One Wales
TUDOR EVANS The Story of Welsh Art - Wildflame Productions / BBC Two Wales
FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN
BAZ IRVINE The Pembrokeshire Murders - World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV
JOHN CONROY Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse - Hartswood Films / Sky One
MATT FLANNERY Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
MILOS MOORE Industry - Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC Two
CYFLWYNYDD Noddwyd gan Deloitte
ELIN FFLUR yn Sgwrs Dan y Lloer - Kristoffer Hughes - Teledu Tinopolis / S4C
NATHAN BLAKE yn Wales' Black Miners - Cardiff Productions / BBC One Wales
RHOD GILBERT yn Rhod Gilbert's Work Experience - Zipline Media Limited / BBC One Wales
RICHARD PARKS yn Richard Parks: Can I Be Welsh & Black? - Hello Deer Productions / Silver Star Productions / ITV Cymru Wales
DYLUNIO CYNHYRCHU Noddwyd gan Sugar Creative
JAMES NORTH A Discovery of Witches - Bad Wolf / Sky One
TOM PEARCE Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
TOM PEARCE Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse - Hartswood Films / Sky One
FFILM FER
FATHER OF THE BRIDE - Deivos Films
I CHOOSE – ie ie Productions / BBC Two Wales
THE NEST - It's My Shout / BBC Two Wales
THE WELSHMAN - Ebb in Joy Pictures
RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL
BLACK AND WELSH - ie ie Productions / BBC One Wales
CRITICAL: CORONAVIRUS IN INTENSIVE CARE - Frank Films / BBC One Wales
RHOD GILBERT: STAND UP TO INFERTILITY - Wales & Co Media / Llanbobl Vision / BBC One Wales
STRICTLY AMY: CROHN’S AND ME - Wildflame Productions / BBC One Wales
SAIN
Y TÎM CYNHYRCHU Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
Y TÎM CYNHYRCHU His Dark Materials - Bad Wolf / BBC Studios/ HBO / BBC ONE
Y TÎM CYNHYRCHU The Pembrokeshire Murders - World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV
Y TÎM CYNHYRCHU Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse - Hartswood Films / Sky One
DRAMA DELEDU Noddwyd gan Facilities by ADF
HIS DARK MATERIALS - Bad Wolf, BBC Studios / HBO / BBC ONE
INDUSTRY- Bad Wolf / BBC Studios / HBO / BBC Two
THE PEMBROKESHIRE MURDERS - World Productions mewn cysylltiad â Severn Screen / ITV
UN BORE MERCHER/KEEPING FAITH - Vox Pictures / S4C / BBC One Wales
AWDUR Noddwyd gan Decade 10
BARRY JONES Rybish - Cwmni Da / S4C
GARETH EVANS, MATT FLANNERY Gangs of London - Pulse Films / SISTER / Sky Atlantic
RUSSELL T DAVIES It's A Sin - Red Production Company / Channel 4
Ynglŷn â BAFTA
Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yn elusen gelfyddydau annibynnol o’r radd flaenaf sy’n dod â’r gwaith gorau ym myd ffilmiau, gemau a theledu i sylw’r cyhoedd ac yn cefnogi twf doniau creadigol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Trwy ei seremonïau gwobrwyo a’i rhaglen o ddigwyddiadau a mentrau dysgu drwy gydol y flwyddyn – sy’n cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau, darlithiau a chynlluniau mentora yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America ac Asia – mae BAFTA yn amlygu a dathlu rhagoriaeth, yn darganfod, ysbrydoli a meithrin doniau newydd, ac yn galluogi dysgu a chydweithredu creadigol. I gael cyngor ac ysbrydoliaeth gan y meddyliau creadigol gorau sy’n gweithio ym myd ffilm, teledu a gemau, ewch i www.bafta.org/guru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bafta.org
Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol yr Academi ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw seremoni flynyddol Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sef llwyfan annibynnol sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau, teledu a gemau, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio. www.bafta.org/wales