You are here

CYHOEDDI ENILLWYR GWOBRAU BAFTA CYMRU 2023

15 October 2023
BAFTA Cymru Awards, Backstage, Cardiff, Wales, UK - 02 Oct 2016Mei Lewis/BAFTA

Y Sŵn, Greenham a Save the Cinema yn ennill dwy wobr yr un

Taron Egerton a Rakie Ayola ymhlith enillwyr BAFTA Cymru am y tro cyntaf

Dydd Sul, 15 Hydref 2023, Caerdydd: Mae enillwyr 32ain Gwobrau BAFTA Cymru wedi cael eu cyhoeddi heno mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd, dan arweiniad y cyflwynydd teledu o Gymru, Alex Jones. Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu talent ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.

Derbyniodd Y Sŵn ddwy wobr, sef Ffilm Nodwedd/Deledu a Golygu: Ffuglen, a enillwyd gan Kevin Jones. Enillodd Greenham y wobr Cyfres Ffeithiol ac enillodd Rhys ap Rhobert y wobr Golygu: Ffeithiol am ei waith ar y gyfres.

Enillodd Save the Cinema ddwy wobr gyda Jo Thompson yn ennill y wobr Dylunio Gwisgoedd a Jonathan Houlding yn ennill y wobr Dylunio Cynhyrchiad.

Enillodd derbynnydd Gwobr Siân Phillips, sef Rakie Ayola, ei gwobr BAFTA Cymru gyntaf am Actores ar gyfer ei pherfformiad yn The Pact ac enillodd Taron Egerton ei Wobr BAFTA Cymru gyntaf am Actor yn Black Bird. Rhoddwyd y wobr Cyflwynydd i Lisa Jên, sy’n ymuno â’r enillwyr tro cyntaf, ar gyfer Stori’r Iaith.

Enillwyd y wobr Rhaglen Adloniant gan Luke Evans: Showtime! ac enillodd The Lazarus Project y wobr ar gyfer Drama Deledu.

Enillodd Sally El Hosaini y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen ar gyfer The Swimmers. Yn dilyn ei llwyddiant y llynedd yn ennill gwobr Torri Trwodd Cymru, enillodd Chloe Fairweather y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol ar gyfer Scouting for Girls: Fashion's Darkest Secret.

Enillydd gwobr Torri Trwodd Cymru eleni yw Mared Jarman ar gyfer ei drama gomedi  How This Blind Girl… y gwnaeth ysgrifennu ac actio ynddi.

Enillodd Bjørn Bratberg y wobr Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen am ei waith ar y ffilm Gwledd/ The Feast ac enillodd y Tîm Sain y wobr Sain ar gyfer The Rising.

Enillodd Brothers in Dance: Anthony and Kel Matsena y wobr ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol, cyflwynwyd y wobr Ffotograffiaeth: Ffeithiol i Sam Jordan-Richardson ar gyfer Our Lives - Born Deaf Raised Hearing, ac enillodd Y Byd ar Bedwar: Cost Cwpan Y Byd Qatar y wobr Newyddion, Materion Cyfoes a Phynciol.

Cyflwynwyd y wobr Rhaglen Blant i Mabinogi-ogi am yr eildro ac enillwyd y categori Ffilm Fer gan Heart Valley.

Cyflwynodd Rhuanedd Richards y wobr Cyfraniad Arbennig i un o enwogion y diwydiant, Hywel Gwynfryn. Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Dyfarnwyd Gwobr Siân Phillips i Rakie Ayola gan Syr Jonathan Pryce CBE. Mae rhagor o wybodaeth am y wobr hon, sef un o anrhydeddau mwyaf BAFTA, a Rakie Ayola, ar gael yma.

Cyflwynwyd cyfanswm o 22 o wobrau cystadleuol yn ystod y noson yn ogystal â dwy wobr arbennig BAFTA. Darlledwyd y seremoni ar sianel YouTube BAFTA ac mae ar gael i’w gwylio yma.

Partneriaid a chefnogwyr Gwobrau BAFTA Cymru yw Acqua Panna, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Champagne Taittinger, Channel 4, Coco & Cwtsh, Deloitte, EE, Eric James Travel Services, Gorilla, ITV Cymru Wales, Lancôme, San Pellegrino, S4C a Villa Maria.

Nodiadau i Olygyddion

Gellir gweld y rhestr lawn o enillwyr YMA.

Ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â’r enwebiadau a’r seremoni, cysylltwch â: 

Nia Medi 
E: [email protected]
Ff: 07706 860925

BAFTA Swyddfa'r Wasg
E: [email protected]
Ff: 020 7292 5863

Ffotograffiaeth BAFTA

Bydd detholiad o ddelweddau o garped coch, seremoni ac ardal ystafell wasg enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru 2023 ar gael hefyd i’w lawrlwytho o lyfrgell ffotograffiaeth BAFTA yma o tua 18:00PM (BST) ymlaen, ddydd Sul 15 Hydref 2023, a bydd setiau llawn o ddelweddau ar gael i’w syndicetio’n uniongyrchol oddi wrth Getty Images.

Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â lleoli unigryw a delweddau defnydd personol, cysylltwch â [email protected]/

Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol BAFTA ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru trwy amlygu ehangder a llwyddiant y diwydiant cynhyrchu yng Nghymru, amlygu a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent, a dod â’r enghreifftiau gorau oll o waith ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru i sylw’r cyhoedd yn fyd-eang. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw Gwobrau blynyddol BAFTA Cymru, sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau a theledu, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio. www.bafta.org/television/cymru-awards.

I gael gwybod mwy, ewch i www.bafta.org. Mae BAFTA yn elusen gofrestredig (rhif 216726).