- Bydd y gyfres o ddigwyddiadau yn cychwyn Llun Hydref 18ain yn cynnwys sesiynau fel Actorion yn Sgwrsio, Creu Ffilm Fer Llwyddiannus, Gwneud Rhaglen Ddogfen a'r Greft o Olygu
- Mae Callum Scott Howells (It's A Sin), Alexandria Riley (The Pembrokeshire Murders), a Mark Lewis Jones (Gangs of London) yn sgwrsio, a sawl un arall i'w cardarnau
- Cofrestrwch heddiw events.bafta.org
Caerdydd, 6ed Hydref 2021: Mae Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Prydain yng Nghymru heddiw wedi cyhoeddi pwy fydd yn cymryd rhan yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2021: Y Sesiynau, sef cyfres o ddigwyddiadau yn dathlu’r unigolion a’r rhaglenni a enwebwyd am wobrau BAFTA Cymru.
Cynhelir y gyfres ar-lein rhwng y 18fed a'r 22ain o Hydref, yn dilyn at Seremoni Wobrwyo BAFTA Cymru 2021 ar y 24ain o Hydref am 7pm ar sianeli Twitter, YouTube a Facebook BAFTA Cymru.
Am yr ail flwyddyn, bydd BAFTA Cymru yn cynnal y sesiynau hyn ar-lein, gan ganiatáu i drafodaethau'r panel gyrraedd cynulleidfa fyd-eang o aelodau BAFTA, i'r rhai ar gychwyn gyrfa, y genhedlaeth nesaf o dalent a chefnogwyr Ffilm/Teledu. Bydd paneli o enwebeion ac arbenigwyr o’r diwydiant yn rhoi cipolwg ar eu crefft a’r rhaglenni a’r ffilmiau enwebiedig mae nhw wedi gweithio arnynt, gan gynnwys The Pembrokeshire Murders, Gangs of London, It’s A Sin a His Dark Materials.
Mae'r Sesiynau yn rhoi cipolwg y tu ôl i'r llenni i ni werthfawrogi y grefft o greu rhai o'r ffilmiau a rhaglenni teledu gorau eleni yng Nghymru. Gwahoddir siaradwyr gwadd i drafod eu gwaith a bydd cyfle i aelodau'r gynulleidfa ofyn cwestiynau i'r panel.
Bydd uchafbwyntiau o bob rhan o'r gwahanol sesiynau yn cynnwys yr actorion Callum Scott Howells ac Andria Doherty o It's A Sin, Yr Actor Mark Lewis Jones a'r Golygydd Sara Jones yn trafod Gangs of London a'r Cyfarwyddwr Luke Pavey a'r Golygydd Al Edwards yn rhoi siawns i ni weld sut y gwnaethpwyd y rhaglen Critical: Coronavirus in Intensive Care.
Rhestrir amserlen y digwyddiadau isod. Mae pob sesiwn ar agor i westeion o'r diwydiant ac aelodau'r cyhoedd, gyda thocynnau ar gael yn rhad ac am ddim yma. Cofrestrwch yma - events.bafta.org.
Amserlen Ddigwyddiadau GWOBRAU CYMRU: Y SESIYNAU 2021 (gyda mwy o siaradwyr i'w cyhoeddi):
Actorion yn Sgwrsio
Dydd Llun 18fed Hydref
18:00 – 19:00
Cyfle unigryw i glywed gan actorion eleni wrth iddynt drafod eu gwaith enwebiedig.
Siaradwyr:
ANDRIA DOHERTY (It’s A Sin)
ALEXANDRIA RILEY (The Pembrokeshire Murders)
CALLUM SCOTT HOWELLS (It’s A Sin)
MARK LEWIS JONES (Gangs of London)
MORFYDD CLARK (Saint Maud)
…
Creu Ffilm Fer Llwyddiannus
Mawrth 19fed Hydref
18:00 – 19:00
Cipolwg ar sut y crëwyd y ffilmiau fer ag enwebwyd eleni. Dysgwch sut mae'r enwebeion hyn yn swyno cynulleidfa mewn 40 munud neu lai. L
Siaradwyr:
ALICE MCKEE (The Nest)
LINDSAY WALKER (The Welshman)
TINA PASOTRA & ALICE LUSHER (I Choose)
…
Gwneud Rhaglen Ddogfen
Dydd Mercher 20fed Hydref
18:00-19:00
Clywch gan wneuthurwyr y Rhaglenni Dogfen Sengl a enwebwyd eleni. Cipolwg ar eu crefft a sut maen nhw'n ail-adrodd straeon bywyd go iawn ar y sgrin.
Siaradwyr:
LAURA MARTIN ROBINSON (Strictly Amy: Crohn's and Me)
LIANA STEWART (Black and Welsh)
LUKE PAVEY (Critical: Coronavirus in Intensive Care)
…
Y Grefft o Olygu
Dydd Iau 21ain Hydref
18:00 – 19:00
Ymunwch â ni am drafodaeth fanwl gyda'r Golygyddion y tu ôl i'r rhaglenni a enwebwyd eleni o rai wedi sgriptio i rai ffeithiol. Byddent yn trafod y broses greadigol, yr heriau dan sylw a sut y maent yn helpu i lunio'r cynnyrch terfynol hwnnw.
Siaradwyr:
AL EDWARDS (Critical: Coronavirus in Intensive Care)
ELEN PIERCE LEWIS (White Lines)
SARA JONES (Gangs of London and His Dark Materials)
…
Y Diwedd
Nodyn i'r olygyddion
Gellir gweld rhestr llawn yr enwebiadau www.bafta.org/media-centre
Mae’r enwebiadau’n gywir ar yr adeg argraffu. Mae BAFTA yn cadw’r hawl i newid yr enwau a restrir ar unrhyw adeg hyd at 24 Hydref 2021.
Ar gyfer yr ymholiadau pellach cysylltwch â:
Swyddfa'r Wasg BAFTA Cymru
T: (0)20 7292 5863
Ffotograffiaeth
Mae detholiad o ffotograffiaeth sy'n ymwneud â'r datganiad hwn ar gael ar Thirdlight. Bydd llyniau o bob sesiwn ar gael y bore canlynol yma- bafta.thirdlight.com/link/BAFTAPressImages/@/
Ynglŷn â BAFTA
Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yn elusen gelfyddydau annibynnol o’r radd flaenaf sy’n dod â’r gwaith gorau ym myd ffilmiau, gemau a theledu i sylw’r cyhoedd ac yn cefnogi twf doniau creadigol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Trwy ei seremonïau gwobrwyo a’i rhaglen o ddigwyddiadau a mentrau dysgu drwy gydol y flwyddyn – sy’n cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau, darlithiau a chynlluniau mentora yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America ac Asia – mae BAFTA yn amlygu a dathlu
rhagoriaeth, yn darganfod, ysbrydoli a meithrin doniau newydd, ac yn galluogi dysgu a chydweithredu creadigol. I gael cyngor ac ysbrydoliaeth gan y meddyliau creadigol gorau sy’n gweithio ym myd ffilm, teledu a gemau, ewch i www.bafta.org/guru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bafta.org
Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol yr Academi ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw seremoni flynyddol Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sef llwyfan annibynnol sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau, teledu a gemau, gan wneud