You are here

AMY DOWDEN, CALLUM SCOTT HOWELLS, MORFYDD CLARK, MYLEENE KLASS A NCUTI GATWA YN CYFLWYNO YNG NGWOBRAU BAFTA CYMRU 2022

6 October 2022

Mae’r cerddor clasurol a chyflwynydd teledu Myleene Klass, yr actor Callum Scott Howells sydd wedi ennill gwobr BAFTA, seren newydd Doctor Who Ncuti Gatwa a dawnswraig broffesiynol Strictly Amy Dowden yn arwain y sêr a fydd yn cyflwyno gwobrau yn y 31ain Gwobrau BAFTA Cymru ddydd Sul yma.

Mae’r cerddor clasurol a chyflwynydd teledu Myleene Klass, yr actor Callum Scott Howells sydd wedi ennill gwobr BAFTA, seren newydd Doctor Who Ncuti Gatwa a dawnswraig broffesiynol Strictly Amy Dowden yn arwain y sêr a fydd yn cyflwyno gwobrau yn y 31ain Gwobrau BAFTA Cymru ddydd Sul yma.

Mae’r cyflwynydd teledu o Gymru, Alex Jones, yn dychwelyd fel llywydd y gwobrau, a fydd yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar 9 Hydref. Dywedodd Alex, “Mae nid yn unig yn fraint ac yn anrhydedd llywyddu Gwobrau BAFTA Cymru eto eleni, ond mae hefyd mor gyffrous iddi fod yn seremoni fyw unwaith eto.”

Ychwanegodd, “Nid oes awyrgylch gwell i gydnabod a dathlu’r holl deledu a ffilm ryfeddol sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru – llongyfarchiadau mawr i’r holl enwebeion.”

Mae Myleene Klass hefyd yn enwebai Gwobrau BAFTA Cymru 2022 ar gyfer ei rhaglen ddogfen Myleene: Miscarriage and Me. Mae Callum Scott Howells (It’s A Sin), Ncuti Gatwa (Sex Education) ac enillydd Gwobr BAFTA Cymru, Amy Dowden (Strictly Amy: Crohn’s & Me), yn cyflwyno ochr yn ochr â’r actores Gymreig Morfydd Clark (Ring of Power, His Dark Materials), y perfformiwr drag Cymreig Tayce Szura-Radix (Ru Paul’s Drag Race UK), yr actores Gymreig Alexandra Roach (Killing Eve, Sanditon), yr actor Cymreig Tom Cullen (Weekend, Downton Abbey), yr actores a anwyd yng Nghaerdydd Abbie Hern (The Pact, Peaky Blinders), enillydd gwobr Teledu i Blant BAFTA 2019 Emily Burnett (Hollyoaks, Doctor Who: The Lonely Assassins), yr actores Gymreig Mali Ann Rees (Hidden, Tourist Trap), y cynhyrchydd a’r ysgrifennydd Shane Allen (Am I Being Unreasonable, Brass Eye), yr actores Miriam Isaac (Age of Outrage), yr ysgrifennydd Kiri Pritchard-McLean (Rob Gilbert’s Growing Pains), yr actores Shalisha James-Davis (Casualty, Mary Queen of Scots) a’r actor Ukweli Roach (Annika).

Dywedodd Amy Dowden, a enillodd wobr BAFTA Cymru yn 2021 ar gyfer ei rhaglen ddogfen Strictly Amy: Crohn’s & Me, “Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael fy ngofyn i gyflwyno gwobr yn BAFTA Cymru 2022. Roedd fy rhaglen ddogfen, Strictly Amy: Crohn’s & Me, yn ffilm bersonol a phwysig iawn i mi ac roedd yn gyffrous iawn pan gafodd ei chydnabod gan BAFTA Cymru y llynedd. Rydym wedi’n bendithio â thalent greadigol dros ben yng Nghymru ac alla’ i ddim aros i helpu i’w dathlu ar y noson arbennig hon.

Bydd y canwr-gyfansoddwr Cymreig newydd, MACY, a gyhoeddodd ei EP cyntaf EP ‘Word4Luv’ ddiwedd 2021, yn perfformio’n fyw ar y noson.

Bydd Gwobrau BAFTA Cymru eleni wyneb-yn-wyneb am y tro cyntaf ers dwy flynedd. Bydd y seremoni ar gael i’w gwylio’n fyw ar sianel YouTube BAFTA.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Am restr lawn o’r enwebeion, ewch yma.

Ffotograffiaeth

Mae detholiad o luniau yn ymwneud â’r datganiad hwn i’w gweld yma.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â’r enwebiadau a’r seremoni, cysylltwch â: Mark Boustead, IJPR

E: [email protected]

Ff: 07825 932 931

Ynglŷn â BAFTA

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yn elusen gelfyddydau annibynnol o’r radd flaenaf sy’n dod â’r gwaith gorau ym myd ffilmiau, gemau a theledu i sylw’r cyhoedd ac yn cefnogi twf doniau creadigol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Trwy ei seremonïau gwobrwyo a’i rhaglen o ddigwyddiadau a mentrau dysgu drwy gydol y flwyddyn – sy’n cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau, darlithiau a chynlluniau mentora yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America ac Asia – mae BAFTA yn amlygu a dathlu rhagoriaeth, yn darganfod, ysbrydoli a meithrin doniau newydd, ac yn galluogi dysgu a chydweithredu creadigol. I gael gwybod mwy, ewch i www.bafta.org. Mae BAFTA yn elusen gofrestredig (rhif 216726).

 Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol BAFTA ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru trwy amlygu ehangder a llwyddiant y diwydiant cynhyrchu yng Nghymru, amlygu a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent, a dod â’r enghreifftiau gorau o waith ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru i sylw’r cyhoedd yn fyd-eang. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw Gwobrau blynyddol BAFTA Cymru, sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau a theledu, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio www.bafta.org/television/cymru-awards.