Yr actor, Luke Evans yn trafod ei yrfa hyd yma mewn digwyddiad Noson yng Nghwmni… yng Nghaerdydd
Mae Luke wedi addo cefnogi gwaith elusennol BAFTA sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol i hyrwyddo rolau yn y diwydiant ffilmiau, gemau a theledu
Rydym wedi cyhoeddi bod yr actor Luke Evans bellach yn llysgennad i’r elusen, a bydd yn cefnogi BAFTA i estyn llaw i unigolion o bob cefndir ledled Cymru i’w hannog i ystyried rolau yn y diwydiant ffilmiau, gemau a theledu.
Cafodd y rôl newydd ei chyhoeddi mewn digwyddiad arbennig i 300 o aelodau’r cyhoedd a gwesteion o’r diwydiant yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, lle siaradodd Luke am ei yrfa hyd yma a phwysigrwydd ei wreiddiau yng Nghymru gyda’i gyd-actor, Celyn Jones.
Roedd y digwyddiad, gyda chefnogaeth Sgrîn Cymru, yn cynnig cyfle i bobl ifanc o Brifysgolion yng Nghymru ac Into Film Cymru glywed am flynyddoedd cynnar Luke yn hyfforddi yng Nghaerdydd a’i daith gyflym i rolau mewn ffilmiau fel Beauty and the Beast, The Girl on the Train a High Rise a’r gyfres deledu The Alienist.
Bwriad BAFTA Cymru yw dathlu, ysbrydoli a hysbysu’r rhai sy’n gweithio yn niwydiant y cyfryngau creadigol, trwy gynnal Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru bob blwyddyn, sydd bellach yn ei 27ain blynedd, a 100 o ddigwyddiadau amrywiol bob blwyddyn.
Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig mynediad i bobl sy’n gweithio ar frig eu proffesiwn, a llawer ohonynt yn enwebeion ac yn enillwyr gwobrau BAFTA. Yn 2018 yn unig, bydd y digwyddiadau hyn wedi cyrraedd 7,500 o unigolion ac wedi arwain at gyflogaeth, datblygu rhwydweithiau personol a rhoi arwyddbyst tuag at gymorth ychwanegol i rai sy’n dechrau ar eu gyrfa. Hefyd, mae BAFTA Cymru’n agor ei rhwydwaith aelodau i fyfyrwyr a rhai sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd, gan gynnig mynediad i gyngor a digwyddiadau i’w helpu i ddatblygu eu llwybr i’r diwydiant.
Dywedodd Luke, sy’n dod o Aberbargoed yn wreiddiol: “Nid dosbarth sydd wrth wraidd actio, ond angerdd. Os yw actio yn eich gwaed ac os ydych chi’n teimlo’n angerddol amdano, does dim ots o ble rydych chi’n dod, byddwch yn llwyddo. Mae fy nhad yn adeiladwr, ac roedd Mam yn lanhawr. Felly os galla’ i lwyddo, gall unrhyw un wneud. Rwy’n edrych ymlaen at helpu BAFTA i estyn llaw i gymunedau ledled Cymru ac annog pawb i ddysgu mwy am yr elusen hon ac ymchwilio i’w dyfodol posibl yn y diwydiant hwn sy’n tyfu yng Nghymru.”
Ganwyd Luke Evans ym Mhont-y-pŵl a chafodd ei fagu yn Aberbargoed, de Cymru. Symudodd i Gaerdydd yn 17 oed. Yna enillodd ysgoloriaeth i’r London Studio Centre, a graddiodd yn 2000.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rydym ni’n falch iawn o Luke a’i lwyddiant, ac rydym wrth ein bodd i’w weld yn serennu yn ein hysbysebion marchnata twristiaeth yn ddiweddar. Yn ogystal â bod yn llysgennad gwych dros Gymru ac yn Gymro balch, bydd yn Llysgennad rhagorol i BAFTA Cymru. Mae cael mwy o amrywiaeth yn y diwydiant yn bwysig iawn i fi ac, yn ddiweddar, cynhaliom ddigwyddiad mawr ar amrywiaeth mewn ffilm a theledu yng Nghaerdydd, â’r bwriad o gyflwyno llwybrau mynediad i yrfaoedd mewn cynhyrchu i bobl greadigol sy’n cael eu tangynrychioli. Mae’n wych clywed bod Luke hefyd yn helpu i hyrwyddo rolau yn y diwydiant ffilmiau, gemau a theledu i gynulleidfa fwy amrywiol o lawer, ac rwy’n dymuno’n dda iddo yn ei rôl.”
Dywedodd Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, Hannah Raybould:
“Mae BAFTA Cymru wedi bod yn dathlu talent yn y cyfryngau creadigol trwy ein Gwobrau blynyddol ers 27 blynedd, ac rydym yn rhan o sector sy’n tyfu o ran cwmpas, cyrhaeddiad, maint a llwyddiant. Fel un o brif elusennau Cymru, mae angen i ni chwarae ein rhan i annog talent newydd, o bob cefndir ac o bob cwr o’r wlad, i ystyried gyrfa yn y diwydiant, ac yna eu cefnogi i wneud eu cysylltiadau cyntaf.
Fel sefydliad aelodaeth, gallwn gynnig strwythur cymorth a rhwydwaith sy’n cynnwys gwneuthurwyr ffilmiau rhyngwladol, cynhyrchwyr teledu, cynhyrchwyr gemau a mwy, ac rydym ni eisiau pwysleisio ein bod ni’n agored i bawb – aelodau a’r cyhoedd.”
“Y sefyllfa ddelfrydol fyddai gweld gwneuthurwyr ffilmiau’n ymuno pan fyddant yn y coleg neu’r brifysgol, fel bod modd i ni eu helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cysylltiadau sydd eu hangen i ddatblygu eu gyrfa, ac mewn rhai blynyddoedd, byddant yn sefyll ar y llwyfan yn ein Gwobrau yn rhoi eu diolchiadau. Yna, gallwn eu hannog i roi dosbarth meistr, ac mae’r cylch yn dechrau eto!”
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rydym ni’n falch iawn o Luke a’i lwyddiant, ac rydym wrth ein bodd i’w weld yn serennu yn ein hysbysebion marchnata twristiaeth yn ddiweddar. Yn ogystal â bod yn llysgennad gwych dros Gymru ac yn Gymro balch, bydd yn Llysgennad rhagorol i BAFTA Cymru - ac rwy’n dymuno’n dda iddo yn ei rôl. Mae cael mwy o amrywiaeth yn y diwydiant yn rhywbeth pwysig iawn i fi ac rwy’n siŵr y bydd Luke yn ysbrydoli llawer mwy o bobl i ystyried gyrfa yn ein sector creadigol.”