Ar ddydd Iau 26 Mai cynhaliwyd ein hail Parti Enwebeion Gwobr Gemau yr Academi yng Nghymru. Techniquest ym Mae Caerdydd yn chwarae gartref i'r digwyddiad ar gyfer enwebeion , gwesteion a phartneriaid yn y cyfryngau , lle mae mynychwyr yn gallu chwarae'r gemau nomimated , rhwydwaith ac yn derbyn eu tystysgrifau . Gwesteion hefyd yn cael eu trin i canapés o Spiros a Gemau Rebel Tiny .
Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cynnal ail Barti Enwebeion Gwobrau Gemau’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn Techniquest yng Nghaerdydd, a noddwyd gan Games Dev a Phrifysgol Glyndŵr, Wrecsam; SEGA; Ubisoft; Spiros a Tiny Rebel Games.
Daeth enwebeion a gwesteion at ei gilydd i chwarae’r gemau enwebedig a derbyn eu tystysgrifau enwebu oddi wrth Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru.
Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru, “Mae’r diwydiant Gemau yng Nghymru yn ehangu i fod yn llwyddiannus iawn, ac rydym yn falch yn BAFTA Cymru ein bod ni heno’n arddangos doniau gwych a gwaith arloesol newydd, rhyfeddol. Eleni, derbyniom y nifer uchaf erioed o geisiadau, cynnydd o 25% ar ffigurau’r llynedd, sy’n wirioneddol ryfeddol. Hoffwn hefyd annog pawb sy’n gweithio yn y diwydiant cyffrous hwn i ymuno â BAFTA Cymru, gan y po fwyaf o aelodau sydd gennym, po fwyaf y gallwn sicrhau ein bod ni’n gallu cynorthwyo’r diwydiant yn ymarferol. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu yma heno, fel unigolion a chwmnïau. Rydym yn falch iawn o bopeth yr ydych yn ei gyflawni.”
Roedd yr enwebeion, ar draws pob categori canmoliaethau a’r gwobrau, yn awyddus i ddod at ei gilydd a dathlu gwaith y diwydiant dros y flwyddyn ddiwethaf ac ystyried datblygiad y sector yn y dyfodol.
Gofynnom i’r rheiny a oedd yn bresennol beth oedd cael eu henwebu am wobr yn ei olygu iddyn nhw a’u cwmni.
Dywedodd Aled Parry / Cyfarwyddwr Creadigol yn Cube Kids, “Rydym yn falch iawn o’r enwebiad, sef y cyntaf ar gyfer ein menter blant newydd, Cube Kids.”
“Gobeithiwn mai hwn fydd y cyntaf o nifer, wrth i ni barhau â’n gwaith gemau a theledu arloesol yn y farchnad blant. Mae’r diwydiant gemau yng Nghymru wrthi’n tyfu ac mae angen llawer o waith meithrin o hyd; mae datblygu doniau, mynediad at gyfalaf a materion allweddol eraill yn her o hyd. Mae gwobr BAFTA yn helpu i amlygu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yma yng Nghymru ac, yn ei dro, mae hynny’n helpu’r diwydiant cyfan i symud ymlaen a gallu cystadlu yn y farchnad gemau fyd-eang.”
Dywedodd Anton Faulconbridge, Sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol - Rantmedia / Rantmedia Games, “Mae bob amser yn wych cael eich cydnabod am greu rhywbeth rhagorol, ac mae cael eich enwebu am BAFTA yn enwedig, yn hwb mawr i ni. Caiff brand BAFTA ei gydnabod yn fyd-eang, ac mae hynny’n hynod o ddefnyddiol wrth ffurfio perthnasoedd newydd a chyffrous.”
“Mae’r diwydiant gemau yng Nghymru yn tyfu’n gyflym, ond mae’n gymharol ifanc o hyd. Mae cydnabod cyflawniadau yn helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd, ac yn darparu hwb cysylltiadau cyhoeddus a marchnata i hybu ymwybyddiaeth o waith da sy’n cael ei gyflawni – i gynulleidfa yng Nghymru ac yn rhyngwladol.“
Dywedodd David Banner, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wales Interactive, “Mae enwebu Soul Axiom ar gyfer gwobr y Gêm Orau yn galonogol tu hwnt ac yn gydnabyddiaeth wych o waith caled ein timau dros y flwyddyn ddiwethaf.Roedd yr enwebiad yn gadarnhaol iawn i broffil ein cwmni hefyd ac yn ychwanegu at ein henw da cynyddol yn y diwydiant gemau byd-eang. Hoffwn longyfarch ein cyd enwebeion a dymunwn bob lwc iddynt yn y Seremoni Wobrwyo ym mis Mehefin.”
“Mae cael eich enwebu ar gyfer gwobr BAFTA Cymru yn arwydd o fri yn rhyngwladol ac yn bendant yn chwarae rôl hanfodol mewn hyrwyddo’r diwydiant gemau cynyddol yng Nghymru. Mae’n helpu i amlygu datblygwyr o Gymru ac arddangos cwmnïau gemau llwyddiannus sy’n bodoli yng Nghymru heddiw sy’n gwneud gemau o ansawdd da sy’n cael eu gwerthu ledled y byd. Rydym ni’n ddatblygwyr gemau balch o Gymru sydd wedi bod yn ddigon ffodus i hyrwyddo Cymru trwy arddangos Soul Axiom yn rhai o ddigwyddiadau gemau mwyaf y byd. Mae’r gêm wedi cael ei harddangos gan Nintendo, Playstation a Xbox yn GDC San Francisco, Rezzed London a Tokyo Games Show. Mae’r enwebiad diweddaraf hwn yn gam cadarnhaol arall yn ein huchelgais i sefydlu Cymru ar fap byd-eang y diwydiant gemau. “
Dywedodd Ben Cawthorne, Cynhyrchydd Creadigol yn Thud Media, “Mae enwebiad ar gyfer gwobr y Gêm Orau yn gyflawniad gwych i ni. I’r tîm yma yn Thud Media, mae’n ddilysiad gwych o’r amser, yr ymdrech a’r creadigrwydd yr ydym wedi’i roi i’r prosiect. O’n prototeip cyntaf, roeddem wedi cael ein cyffroi gan botensial y gêm hon, ac aethom ati i sicrhau ei bod yn bodloni’r potensial hwnnw o ran y canlyniad terfynol. Rydym yn hapus ein bod ni mewn cwmni da ar gyfer y wobr hon, ac yn edrych ymlaen at y prif ddigwyddiad.”
“Er mwyn i’r diwydiant gemau yng Nghymru barhau i ddatblygu fel y mae wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mor hanfodol cael sefydliad fel BAFTA yn ein cefnogi ni. Mae’r enw da a’r cymorth y mae BAFTA yn ei gyflwyno i’r diwydiant trwy’r gwobrau, yn miniogi ffocws y gymuned datblygu leol. Fel y prif ddigwyddiad yn y Sioe Datblygu Gemau flynyddol, mae’r gwobrau hefyd yn cynorthwyo i dynnu sylw at y maes datblygu ehangach a gwaith sydd wrthi’n cael ei ddatblygu, a chwilio am gynulleidfa.”
Dywedodd Rhys Lewis, Sefydlydd/ Cyfarwyddwr, Squarehead Studios Ltd, “Mae cydnabyddiaeth BAFTA yn helpu i ddilysu’r ymdrech mawr i greu Star Ghost. Fel stiwdio un dyn, gall adeiladu ymwybyddiaeth yn y farchnad fod yn heriol. Mae enwebiadau fel hyn yn helpu i roi cydnabyddiaeth i’r stiwdio a’i gemau, y mae mawr ei hangen.”
“Mae cymorth mawreddog BAFTA yn denu sylw at faes cyffrous a blaengar o’n heconomi. Mae’n wych gweld y diwydiant gemau yng Nghymru yn ennill sylw ac yn ffynnu ar y llwyfan byd-eang.”
Dywedodd Kevin Moss, Cyfarwyddwr Creadigol TELL Player, “Roedd Mr. Quin yn brosiect heriol ac uchelgeisiol. Gan weithio’n agos gydag Agatha Christie Ltd, sylweddolom yn gynnar bod ein huchelgais greadigol o adrodd stori dirgelwch llofruddio glasurol mewn ffordd hollol newydd, yn cyflwyno rhai rhwystrau technegol enfawr, ond roeddem wrth ein boddau yn creu atebion a gyflwynodd profiad Christie gwirioneddol ar gyfer y genhedlaeth ap. Mae cael eich cydnabod ar gyfer yr holl waith caled a manylder ar gyfer yr ap, yn hynod werth chweil.”
“Mae Cymru yn llawn pobl greadigol, ddawnus, ac mae caniatáu iddyn nhw gael llais, llwyfan a chydnabyddiaeth yn bwysig. Mae’n caniatáu i gwmnïau ymdrechu i fod yn well, a thyfu a gweithio ar lwyfan rhyngwladol."
Dywedodd Iain Tweedale, Pennaeth Ar-lein a Dysgu, BBC Cymru Wales, Mae’n gyffrous iawn i ni gael ein henwebu ar gyfer BAFTA Cymru gan ei fod yn adlewyrchu pwysigrwydd gemau fel ffordd o gyrraedd pobl iau yng Nghymru. Mae cael hwyl gyda chodio trwy gydweithio â brandiau mawr fel Doctor Who hefyd yn bwysig iawn i ddyfodol yr economi digidol yma yng Nghymru. Mae’n wych bod BAFTA yn canolbwyntio ar gyflawniadau’r diwydiant gemau yng Nghymru, sydd wedi tyfu’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Cymru yn rhywle lle mae’r diwydiant gemau yn llawn doniau ac arbenigedd creadigol.”
Bydd enillydd gwobr y Gêm Orau a 4 o ganmoliaethau BAFTA Cymru, yn cael eu cyhoeddi yn Sioe Datblygu Gemau Cymru ar 18 Mehefin yn Tramshed yng Nghaerdydd.
ENWEBIADAU
Gêm Orau, a noddir gan Adran Datblygu Gemau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
WALES INTERACTIVE ar gyfer Soul Axiom
Thud Media / Toots Enterprises Ltd ar gyfer Toots Race
RANTMEDIA ar gyfer TV Sports Soccer
Canmoliaeth Cyflawniad Artistig, a noddir gan Ubisoft
Thud Media / Pesky Productions Ltd ar gyfer Boj Smoothies
Squarehead Studios Ltd ar gyfer Star Ghost
CUBE KIDS ar gyfer Teletubbies
Canmoliaeth Cyflawniad Technegol, a noddir gan SEGA
BBC Cymru/BBC Digital Creativity/Aardman Animations ar gyfer Doctor Who Game Maker
Tell Player Limited ar gyfer Mr Quin
Cube Kids ar gyfer Teletubbies
Canmoliaeth Dylunio Chwarae Gêm
Thud Media / Pesky Productions Ltd ar gyfer Boj Smoothies
Squarehead Studios Ltd ar gyfer Star Ghost
Cube Kids ar gyfer Teletubbies
Canmoliaeth Sain a Cherddoriaeth, a noddir gan Spiros
Thud Media / Pesky Productions Ltd ar gyfer Boj Smoothies
BBC Cymru Wales, BBC Digital Creativity, Aardman Animations ar gyfer Doctor Who Game Maker
Cube Kids ar gyfer Teletubbies
Mae tocynnau ar gael o http://www.walesgamesdevshow.org/
Mae seremoni Gwobrau Gemau yr Academi Brydeinig yng Nghymru, a sefydlwyd gynta’ yn 2013, yn gwobrwyo un Wobr ar gyfer y Gêm Orau ac yn canmol datblygwyr a chynhyrchwyr ar draws Dylunio Chwarae Gêm, Cyflawniad Artistig, Cyflawniad Technegol, a Sain a Cherddoriaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Gemau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, ewch i www.bafta.org/wales/awards