You are here

NEP Cymru: Noddwr y Digwyddiad, Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru

15 April 2011
NEP CYMRU

Mae BAFTA yng Nghymru yn hynod falch o gael cyhoeddi ei Noddwr Digwyddiad ar gyfer Gwobrau Cymru yr Academi Brydeinig 2011 eleni. Cwmni cyflenwi adnoddau stiwdio ag OB yw NEP Cymru - cwmni newydd ond ag iddi wynebau cyfarwydd. Rydym yn falch iawn o gael croesawu NEP Cymru fel un o'n prif noddwyr.

Dywed Tony Cahalane, Rheolwr Gyfarwyddwr NEP Cymru:

Ffurfiwyd y cwmni yn Haf 2010 i wasanaethu'r diwydiant ar draws Cymru, y DU ac Ewrop. NEP Cymru yw'r cyflenwr mwyaf o adnoddau darlledu allanol a stiwdios yn y rhanbarth â'i chanolfan yng Nghroes Cyrlwys, Caerdydd.

Mae ystod eang i waith y cwmni - o ddigwyddiadau cerddorol clasurol - Frankenstein's Wedding y BBC a Chyngherddau Calan Mai Cerddorfa'r Berlin Philharmonic, i chwaraeon rhyngwladol - Cwpan Heineken a LV i S4C ac adnoddau i Rownd Derfynol Cwpan FA i ITV, i ddigwyddiadau newyddion a gwleidyddol - Y Briodas Frenhinol i Sky a Rhaglenni Canlyniad Etholiad BBC Cymru.

Mae'r cwmni newydd ennill cytundeb i gyflenwi adnoddau i BBC Canwr y Byd Caerdydd 2011.

Mae NEP Cymru yn gwmni NEP Broadcasting - rhan o grwp Ewropeaidd o gwmniau sy'n perthyn i'r cyflenwyr mwya o adnoddau darlledu allanol yng Ngogledd America.

NEP Cymru