You are here

MYNYCHWYR WEDI’U CADARNHAU AR GYFER GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU, DDYDD SUL

21 September 2015
Event: House of Fraser British Academy Television AwardsDate: Sun 10 May 2015Venue: Theatre Royal, Drury LaneHost: Graham Norton-Area: RED CARPET ARRIVALSBAFTA/Richard Kendal

Ffrydio’r Seremoni’n fyw ar wefan BAFTA Cymru, dydd Sul, 27 Medi

Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi datgelu heddiw enwau rai o’r enwebeion, cyflwynwyr a mynychwyr eraill Gwobrau Academi Brydeinig Cymru ddydd Sul, a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, Cymru.  

Bydd sêr y sgrin fawr a’r sgrin fach yn mynychu seremoni BAFTA Cymru, a fydd yn anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau a theledu yng Nghymru, a bydd llu o wynebau enwog o fyd y theatr, cerddoriaeth a chwaraeon yn bresennol hefyd. 

Bydd Huw Stephens, DJ a chyflwynydd, yn cyflwyno’r seremoni, a disgwylir i sêr dramâu teledu a gynhyrchir yng Nghymru – gan gynnwys Doctor Who, Hinterland/Y Gwyll, Casualty, Y Streic a Fi, Broadchurch a Parch, y mae rhai ohonynt wedi cael eu henwebu ar gyfer nifer o wobrau BAFTA Cymru eleni – fod yn bresennol.

Mae’r rheiny y disgwylir iddynt ymddangos ar y carped coch yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, Mali Harries a Rhian Morgan (wedi’u henwebu yn y categori Actores), Rhod Gilbert, Gruff Rhys, Celyn Jones, Kevin Allen, Mal Pope, Jamie Baulch, Connie Fisher, y cyfansoddwr, Karl Jenkins, y cyflwynwyr, Andrea Byrne, Jonathan Hill ac Aled Samuel, yr actoresau, Sharon Morgan, Nia Roberts a Catherine Ayres, Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Game of Thrones a Call the Midwife, Chris Seager, a’r beirdd, Gwyneth Lewis ac Owen Sheers.

Mae cyflwynwyr a mynychwyr eraill sydd wedi cadarnhau y byddant yn bresennol, hyd yn hyn, yn cynnwys James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers, Craig Roberts (Just Jim, Submarine), Kimberley Nixon (Fresh Meat), Alexander Vlahos (Merlin, The Indian Doctor), Russell T Davies (Doctor Who, Cucumber), Tom Rhys Harries, Aneurin Barnard (Cilla, The Scandalous Lady W, The White Queen), Matthew Gravelle (Broadchurch), Scott Quinnell, Lee Mead (Casualty) a Paris Barclay (cyfarwyddwr The Bastard Executioner, ER, Glee a The Shield).

Bydd adloniant y noson ar y llwyfan yn cynnwys y gantores-gyfansoddwraig, Amy Wadge, ac Only Men Aloud, ac yn ystod y derbyniad diodydd, RT Dixie Band,  y pumpawd, Seren Winds, a’r DJ Cian Ciaran o’r Super Furry Animals.

Cynhyrchir y seremoni, am y tro cyntaf, gan David Mahoney, sy’n fwyaf adnabyddus am ei waith fel cynhyrchydd digwyddiadau cerdd byw, rhaglenni teledu amrywiol ac fel aelod o’r ensemble lleisiol sydd wedi ennill Gwobr Classical BRIT, Only Men Aloud.

Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw ar wefan BAFTA Cymru, www.bafta.org/wales, a fydd yn bosibl yn sgil un o noddwyr y digwyddiad, sef AGFX. 

Mae 28 o gategorïau rhaglenni, crefft a pherfformiad wedi’u cynnwys yn y 24ain Gwobrau blynyddol Academi Brydeinig, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau a theledu yng Nghymru rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2015.

Mae cyfle i’r cyhoedd fynychu’r seremoni eleni, ac mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael o hyd. Gellir eu prynu o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant drwy ffonio 029 20 878444 / www.stdavidshallcardiff.co.uk