You are here

Michael Sheen yn ymuno gyda BAFTA Cymru i alw am enwebiadau i'r gwobrau

28 March 2017
BAFTA CYMRU, CARDIFF,  29/09/2013HUW JOHN

Yr actor, sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, yn annog talent o Gymru i’w henwebu eu hunain ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni

Bydd y noson wobrwyo yn digwydd Ddydd Sul 8 Hydref 2017

Mae enillydd BAFTA Cymru, yr actor Michael Sheen, wedi ymuno â BAFTA Cymru i annog talent o Gymru sy’n gweithio yn y diwydiannau ffilm, teledu a gemau bywiog, i’w henwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau eleni, a gynhelir ddydd Sul 8 Hydref.

Mae Michael Sheen, sydd wedi derbyn saith enwebiad ar gyfer Gwobrau Ffilm a Theledu BAFTA a BAFTA Cymru, ac a dderbyniodd Wobr Sian Phillips BAFTA Cymru yn 2007, wedi ymuno â’r elusen wrth iddyn nhw annog y rhai hynny sy’n gweithio ym maes ffilm, teledu a gemau i ystyried enwebu eu hunain, gan gynnwys enwebiad ar gyfer y Wobr Torri Drwodd, sy’n cydnabod ymarferwr newydd yn unrhyw ran o’r broses gynhyrchu.

Meddai Michael Sheen: “Mae derbyn enwebiad ar gyfer ennill Gwobr BAFTA Cymru, neu ei hennill, yn gosod unigolion a chwmnïau ar lwyfan byd eang gydag un o’r gwobrau diwydiant mwyaf chwenychedig yn y byd.

“Byddwn i’n annog pob un o’r rheiny sydd wedi creu cynhyrchiad y maen nhw’n arbennig o falch ohono eleni - a dwi’n gwybod y bydd llawer ohonynt - i ystyried enwebu eu hunain. Dylai unigolion hollol dalentog Cymru sy’n gweithio mewn ystod eang o gategorïau o ran crefftau, o golur a gwallt, cynllunio gwisgoedd i effeithiau gweledol, cyfarwyddo, ac wrth gwrs y categorïau perfformio fel actor, actores a chyflwynydd, weithio gyda BAFTA Cymru i dynnu sylw at uchafbwyntiau creadigol y flwyddyn. Peidiwch â bod yn wylaidd. Gadewch i ni ddangos i’r byd beth rydym wedi ei wneud!”, ychwanegodd.

Mae modd gwneud cais ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru nawr a 10 Ebrill yw’r dyddiad cau. Gallai pobl broffesiynol ar draws pob un o’r 16 categori, sydd wedi eu geni yng Nghymru neu’n byw yng Nghymru, fod yn gymwys i wneud cais ar gyfer gwaith a gynhyrchwyd yn y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gallai’r rhai hynny sydd wedi gweithio ar gynhyrchiad o Gymru ac sydd o’r tu allan i Gymru fod yn gymwys hefyd. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phwy sy’n gymwys, ewch i’r Rheolau a Chanllawiau.

Eleni, er mwyn i gronfa ehangach o waith gael ei chynrychioli a’i chydnabod, bydd BAFTA Cymru yn gwneud yr un fath â seremonïau BAFTA eraill ac, ar gyfer y categorïau fydd yn derbyn 12 neu ragor o geisiadau, bydd 4 enwebiad ac 1 enillydd erbyn hyn - gan gynyddu’r cyfle i chi neu’ch gwaith gael ei enwebu.

Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi eleni y bydd yn awr yn dathlu ac yn anrhydeddu talent yng Nghymru ym maes gemau, yn ogystal â ffilm a theledu, yn ei noson flynyddol ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru. Mae’r penderfyniad i symud y wobr i Wobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru hefyd yn galluogi unigolion ym maes gemau i wneud cais am y Wobr Torri Drwodd oedd yn agored i ymgeiswyr ym maes ffilm a theledu yn unig yn flaenorol.


Neges fideo gan Michael:

 

Sut mae Real SFX yn meddwl am Gwobrau BAFTA Cymru