You are here

Lindy Hemming a Mavis Nicholson i’w hanrhydeddu yng Ngwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru

4 October 2018
Special Recipients 2018

Lindy Hemming, y dylunydd gwisgoedd sydd wedi cael ei henwebu am BAFTA ac wedi ennill Oscar, a Mavis Nicholson, y cyflwynydd a’r darlledwr mawr ei chlod, yw derbynyddion y Gwobrau Arbennig

 

Rydym wedi enwi derbynyddion y Gwobrau Arbennig yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni, a gynhelir ar 14 Hydref 2018, fel y cyhoeddwyd ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru heno.

Lindy Hemming, y dylunydd gwisgoedd sydd wedi cael ei henwebu am BAFTA ac wedi ennill Oscar (y mae ei gwaith mwyaf diweddar yn cynnwys Wonder Woman a Wonder Woman 1984, ffilmiau Paddington a Casino Royale) fydd 14eg derbynnydd Tlws Siân Phillips.

Mae Hemming, a anwyd yn Sir Gaerfyrddin, yn cael ei hanrhydeddu â’r wobr – a noddir gan Pinewood – fel Cymraes sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol at wneud ffilmiau yn rhyngwladol.

Yn y gorffennol, mae Tlws Siân Phillips, a ddewisir gan Bwyllgor BAFTA Cymru, wedi cael ei ddyfarnu i’r awdur Abi Morgan, y golurwraig Siân Grigg, y cyfarwyddwr Euros Lyn, yr actor Rhys Ifans, yr awdur Russell T Davies, yr actor Michael Sheen, yr actor Ioan Gruffudd, yr awdur/actores/cynhyrchydd Ruth Jones, yr actor Rob Brydon, yr actor Matthew Rhys, yr actor Robert Pugh, y cynhyrchydd Julie Gardner a’r newyddiadurwr Jeremy Bowen.

Bydd Gwobr Arbennig BAFTA Cymru am Gyfraniad Eithriadol i Deledu yn cael ei rhoi i’r cyflwynydd a’r darlledwr mawr ei chlod Mavis Nicholson.

Mae Mavis, sy’n dod o Gastell-nedd yn wreiddiol, yn adnabyddus i lawer am fod yn gyflwynydd sioe sgwrsio benywaidd cyntaf y Deyrnas Unedig, a chyfwelodd sêr gan gynnwys David Bowie, Margaret Thatcher, Elizabeth Taylor, Lauren Bacall, Nina Simone, Kenneth Williams, Bette Davis, Peter Cook a Dudley Moore yn y 1970au-1990au. Ystyrir yn gyffredinol mai ei chyfweliad â David Bowie ym mis Chwefror 1979 oedd un o’r cyfweliadau gorau erioed a gynhaliwyd â’r canwr.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn cydnabod doniau sylweddol Lindy Hemming a’i chyfraniad enfawr at amrywiaeth o ffilmiau fel ffilmiau Wonder Woman, triawd The Dark Knight, Paddington 1 a 2, Harry Potter, Topsy-Turvy, Casino Royale, Four Weddings and a Funeral a llawer mwy. 

Cafodd ei henwebu am BAFTA ar gyfer ei gwaith ar The Dark Night, Four Weddings and a Funeral a Porterhouse Blue, ac enillodd Oscar yn 2000 am ei gwaith ar Topsy Turvy.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu gyrfa helaeth y darlledwr a’r cyflwynydd Mavis Nicholson a’i statws fel y cyflwynydd sioe sgwrsio benywaidd cyntaf yn y DU.”

Mae Parti Enwebeion BAFTA Cymru, lle y gwnaed y cyhoeddiad, yn dathlu’r enwebeion ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru sydd ar ddod ar draws categorïau cynhyrchu ffilmiau a theledu, crefft a pherfformio yng Nghymru.

Daeth unigolion a chwmnïau sy’n cynrychioli’r cynyrchiadau a enwebwyd at ei gilydd ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru, a gynhaliwyd yn y Cornerstone ac a noddwyd gan Mad Dog 2020 Casting. Mwynhaodd y gwesteion fwyd gan Spiros Fine Dining sydd wedi ennill gwobrau, a siampên gan bartner BAFTA, Champagne Taittinger.

Roedd y gwesteion ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru yn cynnwys Annes Elwy, Amanda Mealing, Mark Lewis Jones, cyfarwyddwr Bang a Downton Abbey Philip John, dylunwyr gwisgoedd Sarah-Jane Perez (Keeping Faith) a Zoe Howerska (Bang) yn ogystal ac awduron Fflur Dafydd (Parch) a Roger Williams (Bang). Ymunodd enwebeion y Wobr Gêm Ben Cawthorne, David Banner a Richard Pring.

Cyhoeddir manylion yr enwebeion a’r gwesteion a fydd yn dod i’r seremoni yn ystod wythnos y Gwobrau, a gynhelir ar 14 Hydref.

Bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw i dudalen Facebook BAFTA Cymru unwaith eto eleni, a bydd digwyddiadau gwylio arbennig yn cael eu cynnal gan Gymry Efrog Newydd yn The Liberty yn Manhattan, Galeri yng Nghaernarfon a’r Egin yng Nghaerfyrddin, a noddir gan Iceland. Am yr eildro, bydd BAFTA hefyd yn ffrydio’n fyw o’r carped coch, lle y bydd gwylwyr yn gallu clywed gan y gwesteion wrth iddynt gyrraedd.

Mae cwmni Gorilla yn dychwelyd fel prif noddwr y digwyddiad a noddwyr a phartneriaid eraill yn cynnwys AB Acoustics, Prifysgol Aberystwyth, Audi UK, BBC Cymru Wales, Bluestone Brewery, Buzz Magazine, Capital Law, Cardiff Council, Champagne Taittinger, Channel 4, Clarins, Cuebox, Da Mhile Gin, Deloitte, DRESD, Elstree Light and Power, FOR Cardiff, Genero, Prifysgol Glyndŵr, Hotel Chocolat, Iceland, ITV Wales, Ken Picton Salon, Mad Dog 2020 Casting, Pinewood, Radisson Blu, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Neuadd Dewi Sant, Taylor Bloxham, The Social Club, Agency, Trosol, Prifysgol De Cymru, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Villa Maria, Waterstone Homes, Llywodraeth Cymru a Working Word.


Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymuno â’r enwebeion a’r gwesteion arbennig yng ngwobrau eleni.

Mae nifer gyfyngedig o docynnau ar gael o hyd ar gyfer y derbyniad siampên, y seremoni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a’r parti ar ôl y seremoni yng ngwesty Radisson Blu. Pris y tocynnau yw £55 - £100, sy’n cynnwys llyfryn arbennig y Gwobrau.