You are here

Katherine Jenkins yn Seremoni Wobrwyo 2014 BAFTA Cymru

22 October 2014

Bydd y gantores glasurol, Katherine Jenkins, yn perfformio'n arbennig i westeion Seremoni Wobrwyo’r Academi Brydeinig yng Nghymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ddydd Sul nesaf (26 Hydref). Y seren ryngwladol o Gastell-nedd fydd yn agor y seremoni fawreddog a bydd yn ymddangos ar y llwyfan i berfformio cân o’i record hir newydd, Home Sweet Home.

Bydd Jenkins hefyd yn cyflwyno gwobr ymhlith nifer o sêr eraill gan gynnwys yr actor a’r digrifwr Sanjeev Bhaskar, Trystan Gravelle ac Amy Beth Hayes sy’n serennu yn Mr Selfridge, Tom Cullen o Downton Abbey a’r cynllunydd ffasiwn David Emanuel. Bydd 28 o wobrau ync ael eu cyflwyno i gyd ar gyfer rhaglenni, crefft a pherfformiadau sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu o fewn ffilm a theledu yng Nghymru.

Dywedodd Katherine Jenkins: “Rwy’n falch iawn o’m gwreiddiau felly mae’n anrhydedd i mi berfformio mewn digwyddiad mor fawreddog sy’n dathlu doniau rhyfeddol Cymru.”

Y cyflwynydd teledu a radio Jason Mohammad fydd yn cyflwyno’r seremoni ac, am y tro cyntaf, bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu mewn rhaglen uchafbwyntiau awr o hyd ar S4C.

Disgwylir i sêr dramâu teledu megis Da Vinci’s Demons, Y Gwyll / Hinterland a The Indian Doctor, sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau eleni, fod yn bresennol yn y seremoni. Yno ar y carped coch hefyd mae disgwyl awduron a chynhyrchwyr Doctor Who a Sherlock, Stephen Moffat a Sue Vertue; Ruth Jones, cyd-awdur a seren Stella a Gavin and Stacey ac enillydd gwobr Awdur BAFTA Cymru'r llynedd; a’r cerddor Gruff Rhys, sydd â'i ffilm ddogfen American Interior wedi’i henwebu yn y categori Ffilm Nodwedd/Ffilm Deledu eleni.

Ar ôl y seremoni, cynhelir derbyniad unigryw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a fydd yn cynnwys perfformiad annisgwyl arbennig a set gan y DJ Cymreig Gareth Potter.

Y cwmni cyfleusterau darlledu allanol, NEP Cymru, fydd Prif Noddwr y Digwyddiad eto eleni, a’r cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau, Gorila, yw Noddwr Allweddol y Digwyddiad.

Fel dathliad ychwanegol, bydd pob un o enillwyr a chyflwynwyr gwobrau BAFTA Cymru eleni’n llofnodi jeroboam o champagne a ddarperir gan Champagne Taittinger. Bydd hwn yn cael ei werthu mewn ocsiwn fel rhan o ddigwyddiad elusennol Dydd Gŵyl Dewi arbennig gan BAFTA Cymru yn Llundain ym mis Mawrth 2015.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau cyhoeddus ar gael ar gyfer Seremoni Wobrwyo’r Academi Brydeinig yng Nghymru, a’r pris yw £10. Gellir prynu’r tocynnau o Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru (ff: 029 2063 6464 / neu: www.wmc.org.uk ).