You are here

Jeremy Bowen i'w anrhydeddu â Gwobr Siân Phillips yng Ngwobrau 2014 yr Academi Brydeinig yng Nghymru

2 October 2014
BBC

Bydd yr Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig (BAFTA) yng Nghymru yn anrhydeddu Jeremy Bowen, y newyddiadurwr amlwg o Gymru a Golygydd Dwyrain Canol y BBC, gyda Gwobr Siân Phillips yn 23ain seremoni flynyddol Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, a gynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul 26 Hydref 2014.

Rhoddir gwobr Siân Phillips bob blwyddyn i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wneud ffilmiau neu deledu rhwydwaith rhyngwladol.

Mae Jeremy Bowen, a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd ac sy’n fab i gyn newyddiadurwr y BBC a chyn olygydd newyddion Radio Wales, Gareth Bowen, wedi gweithio fel newyddiadurwr a darlledwr gyda’r BBC ers dros 30 mlynedd ac ef yw un o’r wynebau mwyaf cyfarwydd ar raglenni BBC News. Mae’n fwyaf adnabyddus fel un o ohebwyr rhyfel mwyaf profiadol ac effeithiol y gorfforaeth, gan ohebu o fwy na 70 o wledydd ac 20 o ryfeloedd yn y Gwlff, El Salvador, Lebanon, y Lan Orllewinol, Affganistan, Croatia, Bosnia, Chechnya, Somalia, Rwanda, Syria a Gaza. Mae hefyd wedi ymddangos fel cyflwynydd rhaglen Breakfast y BBC yn ogystal â chyflwyno nifer o gyfresi rhaglenni dogfen y BBC gan gynnwys Son of God.

Yn aml mae gwaith Bowen yn y maes wedi ei roi mewn perygl. Mae wedi ei saethu ato mewn ardaloedd rhyfelgar, yn fwyaf diweddar tra’i fod yn gohebu ar wrthryfel Arabaidd 2013. Yn ystod gwrthdystiadau yn yr Aifft, cafodd ei anafu gan wn peled ond llwyddodd i ddianc heb gael niwed difrifol ac aed ag ef i fan diogel gan ei gydweithwyr. Ar hyn o bryd, ef yw un o’r ychydig newyddiadurwyr tramor sydd yn Syria yn gohebu ar yr argyfwng yno. Yn sgil ei wybodaeth a’i brofiad fel Golygydd Dwyrain Canol y BBC ers 2005 cafodd ei ysgogi i ysgrifennu am ddigwyddiadau diweddar y rhanbarth yn ei lyfr, "The Arab Uprisings; the People Want the Fall of the Regime".

Mae Bowen eisoes wedi ennill nifer o wobrau am ei ddarlledu newyddion, gan gynnwys Newyddiadurwr Teledu y Flwyddyn RTS a’r Gohebydd Newyddion Gorau yng Ngŵyl Deledu Efrog Newydd, ac mae ei adroddiadau wedi helpu i ennill gwobrau Aur Sony, BAFTA, RTS ac Emmy rhyngwladol ar gyfer timau BBC News. Yn 2012, derbyniodd y wobr Heddwch trwy Gyfryngau yn y Gwobrau Cyfryngau Rhyngwladol yn Llundain.

Wrth glywed ei fod am dderbyn Gwobr Siân Phillips, dywedodd Jeremy Bowen: "Mae’n bleser ac yn anrhydedd mawr derbyn y wobr hon. Mae’n golygu llawer iawn i mi. Mae fy ngwaith yn gofyn am ymrwymiad mawr, ac mae’n fraint i mi gael y gydnabyddiaeth hon."

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae’n bleser o’r mwyaf i allu cyflwyno Gwobr Siân Phillips eleni i Jeremy. Ac yntau’n newyddiadurwr a darlledwr hynod ddawnus, mae wedi bod yn bresenoldeb cyson ar newyddion rhwydwaith y BBC yn ystod y tri degawd diwethaf, gan gyflwyno rhai o’r straeon rhyngwladol pwysicaf i’n cartrefi a’u hesbonio gydag eglurder a thosturi. Er gwaethaf ei dripiau tramor parhaus, mae bob amser wedi neilltuo amser i ddychwelyd i Gymru i gyfarfod a chefnogi ein cenhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr."

Yn ystod Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni, bydd gwobrau’n cael eu cyflwyno ar draws 28 o gategorïau rhaglenni, crefftau a pherfformiadau i anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu yn y byd ffilmiau a theledu yng Nghymru. Arweinir y seremoni gan y cyflwynydd radio a theledu, Jason Mohammad, a bydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan westeion arbennig a chyflwyniadau gwobrau gan enwogion.

Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru: 029 2063 6464 / www.wmc.org.uk

Tocynnau i’r cyhoedd: £10 (Yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd)

Aelod BAFTA: £60 (Yn cynnwys derbyniad Siampên Taittinger a dathliad ar ôl y Seremoni i aelodau’r diwydiant)

Y Diwydiant (Ddim yn Aelod): £80 (Yn cynnwys derbyniad Siampên Taittinger a dathliad ar ôl y Seremoni i aelodau’r diwydiant)