You are here

GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU YN ANRHYDEDDU GEMAU

30 January 2017

Bydd gwobr BAFTA Cymru ar gyfer gemau – a gyflwynwyd mewn digwyddiad ar wahân yn flaenorol – yn cael ei chynnwys yn y seremoni wobrwyo flynyddol fawreddog yn yr hydref o hyn ymlaen.

Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng  Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi y bydd yn dathlu ac anrhydeddu pobl ddawnus o Gymru ym maes gemau, yn ogystal â ffilm a theledu, yn ei Gwobrau blynyddol o hyn ymlaen, gan ddechrau â’r seremoni nesaf ar 8 Hydref 2017.

Mae gwobr BAFTA Cymru am y gêm orau o Gymru wedi cael ei chyflwyno ers 2012, ac ers 2013 fe’i cyflwynwyd mewn digwyddiad ar wahân yn ystod Sioe Datblygu Gemau Cymru ble noddwyd y wobr gan Datblygu Gemau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Fodd bynnag, yn dilyn cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y ceisiadau am y wobr ac mewn ymgynghoriad ag enillwyr ac enwebeion blaenorol, cynghorwyr ac aelodau etholedig Pwyllgor BAFTA Cymru, bydd y wobr yn cael ei chyflwyno o hyn  ymlaen yn rhan o seremoni flynyddol Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n denu hyd at 1,000 o fynychwyr bob blwyddyn.

Mae BAFTA Cymru yn awyddus i barhau i gydnabod cyflawniad creadigol eithriadol mewn gemau o unrhyw genre. Mae’r penderfyniad i symud y wobr i Wobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru hefyd yn galluogi unigolion ym maes gemau i ymgeisio am y Wobr Torri Trwodd, a fu ar gael i ymgeiswyr ffilm a theledu yn unig yn flaenorol.

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Mae’n adeg gyffrous i’r diwydiant cyfryngau creadigol yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at ddod â chymheiriaid sy’n gweithio ym mhob maes cynnwys creadigol at ei gilydd i ddathlu a chydnabod eu gwaith mewn un digwyddiad mawreddog. Mae trawsgroesi a chydweithredu er mwyn manteisio i’r eithaf ar eiddo deallusol ar draws sawl platfform wedi dod yn fwy cyffredin yn y blynyddoedd diweddar, sydd wedi bod yn amlwg yn y ceisiadau am y wobr gemau yn flaenorol, a gobeithiwn y bydd y cam cyffrous hwn yn annog mwy o ryngweithio o’r fath.”

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn agor yn gynnar ym mis Mawrth 2017. Mae BAFTA Cymru yn annog cwmnïau ac unigolion sy’n gymwys i gyflwyno eu gwaith ar gyfer gwobr.

Mae BAFTA Cymru hefyd yn cynnig aelodaeth i’r rhai hynny sy’n gweithio ym meysydd ffilm, teledu a gemau.
Mae aelodaeth ar gael ar hyd y flwyddyn ac yn cynnig amrywiaeth o fanteision a hawliau pleidleisio yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Aelodaeth