Wrth i ni agor ceisiadau ar gyfer Gwobrau Cymru rydym yn edrych ar rai negeseuon a newidiadau ar gyfer eleni.
Un o'n negeseuon allweddol ar gyfer 2017 yw bod Hunan-Enwebiad yn bosibilrwydd - a ydych yn ymwybodol y gallwch chi gystadlu yn y Gwobrau eich hun a nid oes angen i ddarlledwr neu cwmni wneud ar eich rhan?
Cymhwysedd
Os cawsoch eich geni yng Nghymru neu'n byw yng ac wedi gweithio ar gynhyrchiad yng Nghymru neu gweddill y DU y tebygolrwydd yw y gallech fod yn gymwys i ymgeisio.
Neu, os ydych wedi gweithio ar gynhyrchiad Cymraeg ac yn dod o tu allan i Gymru gallech hefyd fod yn gymwys.
Categorïau
Mae 16 categori crefft y gall unigolion neu sefydliadau ymgeisio ar ey cyfer.
Mae ein Rheolau a Chanllawiau yn dangos yr holl meini prawf felly cymerwch olwg i weld os yw eich gwaith yn gymwys yma
Cynnydd mewn enwebeion cydnabyddedig
Eleni am y tro cyntaf ar gyfer categorïau sy'n derbyn 12 neu fwy o gofnodion byddwn yn cydnabod 4 enwebai ac 1 enillydd - sydd yn cynyddu'r cyfle i chi neu eich gwaith i gael ei enwebu ac i gronfa ehangach o waith gael eu cynrychioli a'u cydnabod.
Gwobr gemau
Erbyn hyn mae'r Wobr Gemau yn rhan o Wobrau Cymru a ceisiadau yn cael eu gwneud drwy gyfrwng yr un safle mynediad.
Newid mawr arall yw y gall unigolion sy'n gweithio mewn gemau hefyd ymgeisio am ein gwobr Breakthrough, sy'n cael ei gyflwyno i ymarferydd sy'n wirioneddol newydd mewn unrhyw ran o'r broses gynhyrchu mewn ffilm / teledu neu gemau.
A pheidiwch ag anghofio, byddwch yn gallu hunan-enwebu ar gyfer y Wobr 'Breakthrough hefyd.
Dyddiadau Allweddol
Bydd modd cychwyn ar eich cais o 6 Mawrth ymlaen a bydd ceisiadau yn cau ar 3 Ebrill ar gyfer darlledwyr a 10 Ebrill ar gyfer Unigolion a Chwmniau.
Mae Gwobrau Academi Brydeinig Cymru yn parhau i fod y digwyddiad diwydiant mwyaf mawreddog yma yng Nghymru - yn denu sylw cenedlaethol a rhyngwladol hefyd.
Felly am beth ydych chi'n aros?
Rhowch gais i fewn a gadael i'r byd weld eich gwaith.