You are here

Gwobr Torri Drwodd

27 October 2011

Bwriad y wobr hon yw cydnabod y rhai sydd wedi cael dylanwad sylweddol ar fyd rhaglenni / ffilmiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

DIFFINIAD O’R WOBR:
Cyflwynir i ymarferwr gwirioneddol newydd mewn unrhyw ran o’r broses gynhyrchu, boed yn fyfyriwr neu yn weithiwr proffesiynol newydd yn gweithio yn y maes perthnasol am y tro cyntaf.

Diben y wobr yw cydnabod y rhai sydd wedi gwneud effaith sylweddol mewn rhaglenni/ffilmiau a ddarlledwyd/rhyddhawyd/dangoswyd rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Rhagfyr 2011 (ac sydd yn diwallu’r meini prawf a’r rheolau ymgeisio llawn sydd yn berthynol i bob cais rhaglen/ffilm – gweler Llyfr Rheolau Academi Cymru Prydeinig 2011_2012).

British Academy Cymru Awards Rule Book 2011 2012 Final (61.2 KB)

Gall cais gynnwys un darn o waith neu nifer o gynyrchiadau, a rhaid i bob un fod wedi’i ddarlledu yn ystod y cyfnod cymhwyso ac arddangos gwerthoedd cynhyrchu cryf.

Y BROSES/CANLLAW GWNEUD CAIS:
Gall cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr neu’r person sydd yn gyfrifol am gynhyrchiad yn berthynol i’r ymarferwr a enwebwyd gyflwyno cais. Gall ymgeiswyr hefyd enwebu eu hunain.

Caiff unigolion sydd yn ymgeisio am y’ Wobr Torri Drwodd’ eu datgan yn anghymwys os ydynt wedi ymgeisio am unrhyw gategori prif wobr arall.

Mae angen datganiad 500 gair, yn ogystal â CV cyfredol y person a enwebir a chopi gwylio o’r cynhyrchiad perthnasol.

Mae’n bwysig nodi pam y dylid ystyried y person(au) ar gyfer y wobr hon.

Os yw’n gredyd ar y cyd yna mae angen i’r ddau berson gymhwyso ac mae angen i’r ddau fod wedi cyfrannu yn gyfartal.

Gellir gwneud cais ar-lein drwy wefan ddiogel – Porth Mynediad BAFTA: http

DYDDIAD CAU: Llun 9 Ionawr 2012

Y BROSES FEIRNIADU:
Caiff y ceisiadau ysgrifenedig a’r deunydd gwylio eu gwerthuso gan banel o arbenigwyr a fydd yn cyflwyno’r enwebiadau (tri) yn cynnwys ennillydd.

FFI YMGEISIO: £50+TAW