
His Dark Materials yn ennill tair gwobr
Ymarferwyr benywaidd yn arwain y ffordd yn y categorïau crefft a thorri trwodd
Enillwyr tro cyntaf BAFTA yn dominyddu’r categorïau crefft a pherfformio
Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2020. Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau a theledu yng Nghymru, a chan bobl o Gymru ar gynyrchiadau’r Deyrnas Unedig, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol ddawnus.
Enillodd His Dark Materials dair gwobr, ar gyfer Ruth Wilson (Actores) a Suzie Lavelle (Ffotograffiaeth a Goleuo), a oedd yn ennill gwobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf, ac ar gyfer Joel Collins (Dylunydd Cynhyrchu), a enillodd drydedd wobr ei yrfa.
Yn y categorïau perfformio eraill, enillwyd y wobr Actor gan Jonathan Pryce ar gyfer The Two Popes a rhannwyd y wobr Cyflwynydd gan Emma Walford a Trystan Ellis-Morris ar gyfer Prosiect Pum Mil.
Enillodd In My Skin ddwy wobr; cyflwynwyd y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen i Lucy Forbes a’r wobr Awdur i gyfranogwr blaenorol Torri Trwodd BAFTA, Kayleigh Llewellyn.
Dominyddwyd y 10 categori crefft gan ymarferwyr benywaidd, wrth i Siân Jenkins ennill ei hail wobr Dylunio Gwisgoedd ar gyfer Eternal Beauty a Rebecca Trotman ennill ei gwobr Golygu gyntaf am ei gwaith ar Doctor Who: Ascension of the Cyberman.
Enillodd Melanie Lenihan ei gwobr Colur a Gwallt gyntaf ar gyfer War of the Worlds.
Derbynnydd gwobr Torri Trwodd 2020 oedd Lisa Walters am ei rôl fel cynhyrchydd ar On The Edge: Adulting.
Rhannwyd y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol gan Siôn Aaron a Timothy Lyn ar gyfer Eirlys, Dementia a Tim.
Enillwyd y wobr Sain gan y tîm cynhyrchu o Bang ar gyfer Good Omens a chyflwynwyd y wobr Cerddoriaeth Wreiddiol i’r cyfansoddwr o Bontypridd, Jonathan Hill, ar ôl ei farwolaeth, ar gyfer The Long Song.
Yn y categorïau cynhyrchu, cyflwynwyd y wobr Drama Deledu i The Left Behind.
Dyfarnwyd y wobr Rhaglen Blant i Deian a Loli am yr eildro, enillwyd y wobr Rhaglen Adloniant gan Cyrn ar y Mississippi, ac enillwyd y categori Ffilm Fer gan Salam.
Yn y categorïau ffeithiol, enillwyd y wobr Newyddion a Materion Cyfoes gan Channel 4 News - Flooding Strikes the South Wales Valleys; enillwyd y wobr Rhaglen Ddogfen Unigol gan The Prince and the Bomber; ac enillwyd y wobr Cyfres Ffeithiol gan Ysgol Ni: Maesincla.
Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Wrth i Wobrau BAFTA Cymru ddod i ben am flwyddyn arall, er hynny mewn fformat gwahanol, rwy’n falch iawn o weld cynifer o ymarferwyr crefft benywaidd yn cael eu cydnabod eleni, yn ogystal â’r ganran uchel o’r rhai a dderbyniodd eu gwobr BAFTA gyntaf. Llongyfarchiadau i’r holl enwebeion ac enillwyr.”
Cyflwynwyd 29ain Gwobrau BAFTA Cymru gan Alex Jones, a rhoddwyd 22 gwobr yn ystod y noson. Darlledwyd y seremoni ar sianeli Facebook, Twitter a YouTube BAFTA ac mae ar gael i’w gwylio yma.
Noddwyr a phartneriaid y digwyddiad oedd Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Boom, Buzz Magazine, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Cuebox, Decade 10, Deloitte, Whitelight, Gorilla, ITV Wales, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Trosol, Villa Maria a Working Word.
ENILLWYR GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU YN 2020
(wedi’u rhestru yn ôl y drefn gyflwyno gyda’r enillwyr mewn teip TRWM)
RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL
GARETH THOMAS: HIV AND ME
THE MURDER OF JILL DANDO
THE PRINCE AND THE BOMBER
TUDUR OWEN; O FÔN I’R LLEUAD
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL
SIÔN AARON a TIMOTHY LYN ar gyfer Eirlys, Dementia a Tim
MARC EVANS ar gyfer The Prince and the Bomber
MEI WILLIAMS ar gyfer Tudur Owen: O Fôn i’r Lleuad
LAURA MARTIN ROBINSON ar gyfer Warriors: Our Homeless World Cup
DYLUNIO CYNHYRCHU
ARWEL WYN JONES ar gyfer Dracula
JOEL COLLINS ar gyfer His Dark Materials
TIM DICKEL ar gyfer Eternal Beauty
RHAGLEN BLANT
CIC
DEIAN A LOLI
PROJECT Z
AWDUR (a noddir gan Decade 10)
ALAN HARRIS ar gyfer The Left Behind
HANNA JARMAN a MARI BEARD ar gyfer Merched Parchus
KAYLEIGH LLEWELLYN ar gyfer In My Skin
RUSSELL T DAVIES ar gyfer Years and Years
COLUR A GWALLT
JILL CONWAY ar gyfer The Left Behind
MELANIE LENIHAN ar gyfer War of the Worlds
PAMELA HADDOCK ar gyfer His Dark Materials
FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN (a noddir gan ELP)
BJORN BRATBERG FNF ar gyfer Bang
DAVID HIGGS ar gyfer His Dark Materials
DAVID WILLIAMSON ar gyfer War of the Worlds
SUZIE LAVELLE ar gyfer His Dark Materials
ACTORES (a noddir gan Champagne Taittinger)
DAFNE KEEN fel Lyra Belacqua YN His Dark Materials
GABRIELLE CREEVY fel Bethan Gwyndaf YN In My Skin
RUTH WILSON fel Mrs Coulter YN His Dark Materials
SALLY HAWKINS fel Jane YN Eternal Beauty
CYFRES FFEITHIOL
CORNWALL: THIS FISHING LIFE
WALES: LAND OF THE WILD / CYMRU WYLLT
WARRIORS: OUR HOMELESS WORLD CUP
YSGOL NI: MAESINCLA
NEWYDDION A MATERION CYFOES (a noddir gan Working Word)
CHANNEL 4 NEWS: FLOODING STRIKES THE SOUTH WALES VALLEYS
WALES INVESTIGATES INSIDE THE UK’S PUPPY FARM CAPITAL
Y BYD AR BEDWAR
SAIN
ALEX ASHCROFT ar gyfer The Last Tree
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Good Omens
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Sex Education
CERDDORIAETH WREIDDIOL (a noddir gan Gyngor Caerdydd)
MARK THOMAS ar gyfer Last Summer
JONATHAN HILL ar gyfer The Long Song
JOHN HARDY MUSIC ar gyfer Steel Country
KARL JENKINS a JODY JENKINS ar gyfer Wales: Land of the Wild / Cymru Wyllt
TORRI TRWODD (a noddir gan Bad Wolf)
HANNA JARMAN a MARI BEARD ar gyfer Merched Parchus
LISA WALTERS ar gyfer On the Edge: Adulting
MARTIN READ ar gyfer The Insomniacs
SEBASTIAN BRUNO a DAVID BARNES The Dynamic Duo
FFILM FER (a noddir gan Boom Cymru)
THE ARBORIST
CREEPY PASTA SALAD
PALE SAINT
SALAM
RHAGLEN ADLONIANT
CYRN AR Y MISSISSIPPI
HENO
PRIODAS PUM MIL
THE TUCKERS
CYFLWYNYDD (a noddir gan Deloitte)
CARYS ELERI YN Carys Eleri’n Caru
ELIS JAMES YN Elis James – Funny Nation
EMMA WALFORD a TRYSTAN ELLIS-MORRIS YN Prosiect Pum Mil
HAYLEY PEARCE YN Hayley Goes…Sober
GOLYGU (a noddir gan Gorilla)
GERAINT HUW REYNOLDS ar gyfer The Prince and the Bomber
NIVEN HOWIE a STEPHEN HAREN ar gyfer His Dark Materials
REBECCA TROTMAN ar gyfer Doctor Who, Ascension of the Cyberman
STEPHEN HAREN ar gyfer Eternal Beauty
CYFRANIAD RHAGOROL I FFILM A THELEDU
LES DILLEY (CYFARWYDDWR CELF/DYLUNYDD CYNHYRCHU)
CYFARWYDDWR: FFUGLEN
CRAIG ROBERTS ar gyfer Eternal Beauty
JOSEPH BULLMAN ar gyfer The Left Behind
LEE HAVEN JONES ar gyfer Doctor Who (Spyfall Part 2)
LUCY FORBES ar gyfer In My Skin
ACTOR (a noddir gan AUDI)
ANTHONY HOPKINS fel Pope Benedict XVI YN The Two Popes
JONATHAN PRYCE fel Cardinal Jorge Mario Bergoglio/Pope Francis YN The Two Popes
ROB BRYDON fel Rob YN The Trip to Greece
SIÔN DANIEL YOUNG fel Gethin YN The Left Behind
DYLUNIO GWISGOEDD
CAROLINE MCCALL ar gyfer His Dark Materials
RAY HOLMAN ar gyfer Fleabag
SIAN JENKINS ar gyfer Eternal Beauty
DRAMA DELEDU
HIS DARK MATERIALS
IN MY SKIN
THE LEFT BEHIND
UN BORE MERCHER / KEEPING FAITH