You are here

CYHOEDDI’R ENILLWYR: GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU 2019

13 October 2019
British Academy Cymru Awards, St David's Hall, Cardiff, Wales, UK - 13 Oct 2018Tom Nicholson/BAFTA/Shuttertstock

Anorac sy’n arwain y ffordd gyda phedair Gwobr

Ffilmiau nodwedd yw prif enillwyr y categori crefft

Heddiw (13/10/19) rydym wedi cyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2019. Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth o ran darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddoniau creadigol.

Cynhaliwyd y seremoni unwaith eto gan gyflwynydd BBC Radio 1, Huw Stephens, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, lle’r oedd y cyflwynwyr yn cynnwys Ruth Jones (Gavin and Stacey, Stella), Joanna Scanlan (No Offence, Requiem, The Accident), Craig Roberts (Horrible Histories: Rotten Romans, Just Jim, Submarine) a Edward Bluemel (Killing Eve, A Discovery of Witches).

Roedd gwesteion eraill a oedd yn bresennol yn cynnwys Cath Ayers (Keeping Faith, Byw Celwydd), Gwyneth Keyworth (Hidden, Bang, Black Mirror), Nia Roberts (Pili Pala, Bang, 35 Diwrnod), Suzanne Packer (Stella, Casualty, Keeping Faith), a Tosin Cole (Doctor Who, Star Wars).

Roedd Trystan Gravelle (Baptiste, Mr Selfridge), Rakie Ayola (Shetland, No Offence), y digrifwr Tudur Owen, Morfydd Clark (Dracula, His Dark Materials, Patrick Melrose) hefyd wedi ymuno â Gwilym Lee (Bohemian Rhapsody, Jamestown) i gyflwyno gwobrau.

Mwynheuodd y gwesteion berfformiad byw gan y gantores/gyfansoddwraig o ogledd Cymru, Casi Wyn, ac roedd Jo Hartley (This is England, Eddie the Eagle, In My Skin), cast Doctor Who a’r actor/cyfarwyddwr tro cyntaf Tom Cullen (Downton Abbey, Knightfall) a Elis James yn bresennol i gefnogi’r enwebeion.

Cyflwynwyd 26 Gwobr yn ystod y seremoni gerbron cynulleidfa o 1000 o westeion. Darparwyd cynnwys ychwanegol ar-lein gyda ffrwd fyw o’r seremoni ac, am y tro cyntaf eleni, cynhaliwyd cyfweliadau cefn llwyfan â’r enillwyr a’r cyflwynwyr ar sianeli cyfryngau cymdeithasol BAFTA.

Enillodd Anorac bedair gwobr – ar gyfer Golygu (Madoc Roberts), Ffotograffiaeth: Ffeithiol (Joni Cray a Gruffydd Davies), Cyflwynydd (Huw Stephens) a Sain (Jules Davies).

Yn y categorïau perfformio eraill, enillwyd y wobr actores gan yr enwebai tro cyntaf Gabrielle Creevey am ei rôl yn In My Skin, a enillodd y categori Drama Deledu hefyd. Cyflwynwyd y wobr actor i Celyn Jones am ei rôl fel Levi Bellfield yn nrama ITV Manhunt, yr enillodd y cyfarwyddwr Marc Evans y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen amdani.

Roedd ffilmiau a wnaed yng Nghymru wedi’u cynrychioli’n dda eleni: cyflwynwyd y Wobr Ffilm Nodwedd/Deledu i Last Summer, enillodd awdur/cyfarwyddwr OBEY, sef Jamie Jones, y wobr Torri Trwodd, ac enillodd y ffilm nodwedd gyfnod sydd wedi’i lleoli yn Eryri, sef Gwen, ddwy wobr am Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen (Adam Etherington) a Dylunio Gwisgoedd (Dinah Collin). Enillodd ffilm nodwedd Netflix, sef Apostle, ddwy wobr hefyd am Golur a Gwallt (Claire Williams) ac Effeithiau Arbennig a Gweledol (Bait Studio).

Enillodd unigolion o Gymru a fu’n gweithio ar gynyrchiadau yn y Deyrnas Unedig wobrau eleni hefyd. Enillodd Catrin Meredydd o Bont-y-clun wobr BAFTA Cymru am Ddylunio Cynhyrchu ar gyfer ei gwaith ar Black Mirror: Bandersnatch a chyflwynwyd y wobr Awdur i Russell T Davies am A Very English Scandal.

Yn y categorïau ffeithiol, roedd iechyd yn thema gyffredin ymhlith y rhaglenni buddugol. Enillodd Mei Williams y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol am The Incurable Optimist, enillodd Velindre – Hospital of Hope y wobr Cyfres Ffeithiol a derbyniodd Critical: Inside Intensive Care y wobr Rhaglen Ddogfen Unigol.

Enillwyd y wobr Gêm am yr ail flwyddyn gan Wales Interactive ar gyfer Time Carnage VR.

Enillwyd y wobr Rhaglen Blant gan Going for Gold a’r wobr Rhaglen Adloniant gan Priodas Pum Mil, ac enillodd The Universal Credit Crisis gan BBC Wales/BBC One y wobr Newyddion a Materion Cyfoes.

Enillwyd y wobr Ffilm Fer gan Lowri Roberts, a raddiodd o Brifysgol Gorllewin Lloegr, ar gyfer Girl.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae’r dalent aruthrol yn y diwydiant ffilm, gemau a theledu yn parhau i ragori ar draws yr holl feysydd crefft, perfformio a chynhyrchu a gynrychiolir yn ein Gwobrau. Bu’n galonogol gweld yr ymgysylltiad mwyaf erioed o ran nifer y ceisiadau a dderbyniwyd eleni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r enwebeion a’r enillwyr i gynnig cyngor ac ysbrydoliaeth i’r rhai sy’n awyddus i weithio yn y meysydd hyn trwy ein rhaglen ddigwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.”

Cadarnhawyd mai noddwyr a phartneriaid y digwyddiad yw AB Acoustics, Acuity Law, Prifysgol Aberystwyth, Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Bluestone Brewery, Buzz Magazine, Capital Law, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Clarins, Cuebox, Da Mhile Gin, Deloitte, DRESD, EE, Elstree Light and Power, Gorilla, Iceland, ITV Wales, Ken Picton Salon, Mad Dog 2020 Casting, Radisson Blu, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Neuadd Dewi Sant, Taylor Bloxham, The Social Club, Agency, Trosol, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Villa Maria, Waterstone Homes, Llywodraeth Cymru, Working Word a’r Egin.


ENILLWYR GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU 2019


(wedi’u rhestru yn ôl y drefn gyflwyno)

RHAGLEN ADLONIANT

Priodas Pum Mil

DRAMA DELEDU (a noddwyd gan Gyngor Caerdydd)

In My Skin

NEWYDDION A MATERION CYFOES (a noddwyd gan Working Word)

The Universal Credit Crisis

FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL (a noddwyd gan Genero)

Joni Cray a Gruffydd Davies ar gyfer Anorac

RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL (a noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth)

Critical: Inside Intensive Care

FFILM FER (a noddwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

Girl

GWOBR TORRI TRWODD

Jamie Jones

GOLYGU (a noddwyd gan Gorilla)

Madoc Roberts ar gyfer Anorac

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL (a noddwyd gan Capital Law)

Mei Williams ar gyfer The Incurable Optimist

CYFRES FFEITHIOL (a noddwyd gan Acuity Law)

Velindre – The Hospital of Hope

GWOBR SIÂN PHILLIPS (a noddwyd gan Bad Wolf)

Bethan Jones

SAIN (a noddwyd gan AB Acoustics)

Jules Davies ar gyfer Anorac

CYFLWYNYDD (a noddwyd gan Deloitte)

Huw Stephens ar gyfer Anorac

GÊM

Time Carnage VR

COLUR A GWALLT (a noddwyd gan Ken Picton)

Claire Williams ar gyfer Apostle

DYLUNIO CYNHYRCHU (a noddwyd gan DRESD)

Catrin Meredydd ar gyfer Black Mirror: Bandersnatch

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN (a noddwyd gan ELP)

Adam Etherington ar gyfer Gwen

CYFARWYDDWR: FFUGLEN (a noddwyd gan Champagne Taittinger)

Marc Evans ar gyfer Manhunt

FFILM NODWEDD/DELEDU (a noddwyd gan Ysgol Ffilm a Theledu Cymru)

Last Summer

AWDUR (a noddwyd gan The Social Club. Agency)

Russell T Davies ar gyfer A Very English Scandal

EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL (a noddwyd gan Bomper Studio)

Bait Studio ar gyfer Apostle

RHAGLEN BLANT (a noddwyd gan Ganolfan S4C yr Egin)

Going for Gold

DYLUNIO GWISGOEDD

Dinah Collin ar gyfer Gwen

CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU (a noddwyd gan Lywodraeth Cymru)

Lynwen Brennan, Lucasfilm

ACTORES (a noddwyd gan Waterstone Homes)

Gabrielle Creevy ar gyfer In My Skin

ACTOR (a noddwyd gan AUDI UK)

Celyn Jones ar gyfer Manhunt