You are here

CYHOEDDI ENWEBIADAU: GWOBRAU A CHANMOLIAETHAU GEMAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU

10 May 2016

Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Gemau’r Academi Brydeinig yng Nghymru (sef teitl newydd y gwobrau), ynghyd â’r rhestrau byr ar gyfer pedair canmoliaeth y seremoni.

Gareth David Lloyd o Torchwood wedi’i gadarnhau’n gyflwynydd y seremoni.

Derbyniwyd y nifer fwyaf erioed o geisiadau ar gyfer 2016, sef cynnydd mawr o 25% ar ffigurau 2015, ac mae rheithgor y diwydiant wedi ystyried a chytuno ar yr enwebeion ar gyfer y wobr Gêm Orau a'r rhestrau byr ar gyfer Cyflawniad Artistig, Cyflawniad Technegol, Dylunio Chwarae Gêm a Sain a Cherddoriaeth. Cynhelir seremoni Gwobrau Gemau'r Academi Brydeinig yng Nghymru yn Tramshed yn rhan o bumed Sioe Datblygu Gemau Cymru ar 18 Mehefin, 2016.

Yn ôl adroddiad gan NESTA a gyhoeddwyd yn 2014, mae diwydiant gemau'r Deyrnas Unedig yn werth £1.7 biliwn, ac yn tyfu 22% o flwyddyn y flwyddyn. Y diwydiant gemau yng Nghymru yw un o'i diwydiannau creadigol sy'n datblygu gyflymaf, ac mae mewn sefyllfa berffaith i elwa ar genhedlaeth o swyddi newydd a chyfrannu'n uniongyrchol at yr economi ddigidol yng Nghymru.

Mae Wales Interactive, a enwebwyd am y wobr yn 2015, yn ymuno â Thud Media a Rantmedia fel yr enwebeion ar gyfer Gêm Orau yn 2016, ar gyfer Toots Race a TV Sports Soccer yn ôl eu trefn.

Mae Thud Media ar y rhestr fer am dair canmoliaeth, ar gyfer Boj Smoothies, ac mae Cube Kids ar y rhestr fer gyda pedair canmoliaeth ar gyfer ei gêm, Teletubbies. Mae BBC Cymru/BBC Digital Creativity ac Aardman Animations ar y rhestr fer am ddwy canmoliaeth ar gyfer Doctor Who Game Maker, ac mae Squarehead Studios ar y rhestr fer am ddwy ganmoliaeth ar gyfer Star Ghost.

Mae BAFTA Cymru hefyd wedi cyhoeddi mai Gareth David Lloyd fydd yn cyflwyno seremoni Gwobrau Gemau'r Academi Brydeinig yng Nghymru. Daeth Gareth i enwogrwydd fel Ianto Jones yn y gyfres deledu Torchwood, sy'n dathlu ei 10fed pen-blwydd ers i ffilmio ddechrau eleni. Mae Gareth hefyd yn adnabyddus am ei waith cysylltiedig â gemau ar Dragon Age: Inquisition - Trespasser fel llais Solas a Red Faction Armageddon fel llais Adam Hale, a bu'n ymwneud â'r gêm Torchwood Mission yn 2008.

“Mae'n fraint i mi gyflwyno seremoni Gwobrau Gemau'r Academi Brydeinig yng Nghymru ar 18 Mehefin, gan fy mod i wedi bod yn gwneud gwaith lleisiol yn y diwydiant gemau yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig ers 2008.” meddai Gareth David Lloyd.

“Rydw i wedi gweld twf sylweddol yn y diwydiant gemau yma dros gyfnod byr iawn, ac mae'n amlwg bod mwy o gwmnïau'n creu gemau gwych ar draws amrywiaeth o lwyfannau bob blwyddyn. Rwy'n edrych ymlaen at gael gafael ar y gemau yn Sioe Datblygu Gemau Cymru a rhoi prawf arnyn nhw fy hun. Pob lwc i bawb sydd wedi'u henwebu eleni!”


ENWEBIADAU

Gêm Orau, a noddir gan Adran Datblygu Gemau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 

Wales Interactive ar gyfer Soul Axiom
Thud Media / Toots Enterprises Ltd ar gyfer Toots Race
Rantmedia ar gyfer TV Sports Soccer


Canmoliaeth Cyflawniad Artistig, a noddir gan

Thud Media / Pesky Productions Ltd ar gyfer Boj Smoothies
Squarehead Studios Ltd ar gyfer Star Ghost
Cube Kids ar gyfer Teletubbies


Canmoliaeth Cyflawniad Technegol, a noddir gan 

BBC Cymru/BBC Digital Creativity/Aardman Animations ar gyfer Doctor Who Game Maker
Tell Player Limited/Agatha Christie Limited ar gyfer Mr Quin
Cube Kids ar gyfer Teletubbies


Canmoliaeth Dylunio Chwarae Gêm

Thud Media / Pesky Productions Ltd ar gyfer Boj Smoothies
Squarehead Studios Ltd ar gyfer Star Ghost
Cube Kids ar gyfer Teletubbies


Canmoliaeth Sain a Cherddoriaeth, a noddir gan

Thud Media / Pesky Productions Ltd ar gyfer Boj Smoothies
BBC Cymru Wales, BBC Digital Creativity, Aardman Animations ar gyfer Doctor Who Game Maker
Cube Kids ar gyfer Teletubbies


Mae tocynnau ar gael o http://www.walesgamesdevshow.org/

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Gemau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, ewch i www.bafta.org/wales/awards