You are here

Cyfarwyddwr Celf/Dylunydd Cynhyrchu Star Wars, Alien, Raiders of the Lost Ark a The Abyss i'w anrhydeddu yng Ngwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru 2020

7 October 2020
Event: British Academy Cymru AwardsDate: Saturday 3 October 2020Venue: Boom Studio, Cardiff Bay, Cardiff, WalesHost: Alex Jones- Area: Special Award Recipient©Les Dilley

Bydd y Cyfarwyddwr Celf a’r Dylunydd Cynhyrchu, Leslie (Les) Dilley, a anwyd yn y Rhondda, yn derbyn y 29ain Wobr am Gyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu.

Bydd Gwobrau BAFTA Cymru yn cael eu darlledu ar sianeli cymdeithasol BAFTA am 19:00 BST ddydd Sul 25 Hydref 2020.

Rydym heddiw wedi datgelu derbynnydd y Wobr Cyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni, a gynhelir ar 25 Hydref 2020.

Bydd y 29ain Wobr Cyfraniad Rhagorol yn cael ei chyflwyno i’r Cyfarwyddwr Celf a’r Dylunydd Cynhyrchu, Les Dilley.

Ef yw’r Dylunydd Cynhyrchu cyntaf i’w anrhydeddu â’r Wobr.

Event: British Academy Cymru AwardsDate: Saturday 3 October 2020Venue: Boom Studio, Cardiff Bay, Cardiff, WalesHost: Alex Jones- Area: Special Award Recipient©Les DilleyGanwyd Les Dilley yn ystod yr Ail Ryfel Byd yng nghartref plentyndod ei fam, yn nhref Pontygwaith yng Nghwm Rhondda.

Enillodd Oscar ar gyfer Star Wars ym 1978 ac ar gyfer Raiders of the Lost Ark ym 1981, a rannwyd gydag aelodau eraill o’r tîm Dylunio Cynhyrchu. Fe’i henwebwyd am Oscar ar gyfer Cyfarwyddyd Celf Gorau ar Alien ym 1980; Star Wars – The Empire Strikes Back ym 1981 a The Abyss ym 1990.

Aeth Dilley i Goleg Technegol Willesden rhwng 13 a 23 oed. Pan oedd yn 15 oed, dechreuodd weithio fel prentis plastro yn yr Associated British Picture Corporation, ac anogodd un o’i gydfyfyrwyr ef i wneud cais am swydd yn Stiwdios Pinewood. Pan ddywedodd Pinewood wrtho nad oedd unrhyw swyddi ar gael, aeth Dilley ymlaen i gwblhau ei brentisiaeth blastro bum mlynedd yn ABPC.

Erbyn iddo gyrraedd 21 oed, roedd Dilley wedi ymuno â Pinewood fel prif blastrwr a gweithiodd ar nifer o ffilmiau etifeddiaeth, gan gynnwys From Russia With Love. Ym 1966, dechreuodd Dilley ei yrfa yn yr Adran Gelf, fel drafftsmon iau.

Gweithiodd ei ffordd i fyny i Gyfarwyddwr Celf ar The Three Musketeers ym 1973. Parhaodd i weithio fel Cyfarwyddwr Celf drwy gydol y 1970au a’r 1980au gyda ffilmiau fel Star Wars (1977), Superman (1978), Alien (1979), Raiders of the Lost Ark (1981), Empire Strikes Back (1980), Never Say Never Again (1983) a Legend (1985).

Yn ystod y 1990au a’r 2000au, gweithiodd Dilley yn bennaf fel Dylunydd Cynhyrchu, a’r ffilm gyntaf y gwahoddwyd ef i fod yn ddylunydd cynhyrchu ar ei chyfer oedd An American Werewolf in London (1981).

Yn ystod y degawdau dilynol, roedd ffilmiau nodedig y bu’n ddylunydd cynhyrchu ar eu cyfer yn cynnwys The Abyss (1988) The Exorcist III (1990), Casper (1995), Peacemaker (1997), Men of Honor (2000), Pay It Forward (2000) a Cold Creek Manor (2003). Mae Dilley hefyd wedi gwneud ymddangosiadau cameo yn y ffilmiau y bu’n ddylunydd cynhyrchu ar eu cyfer, gan gynnwys Guilty by Suspicion (1991), Diabolique (1996), Deep Impact (1998) ac eraill. Gorffennodd Dilley ei yrfa yn y Deyrnas Unedig gyda’i brosiect olaf, y gyfres deledu Teacup Travels (2014-2017), y dyluniodd y cynhyrchiad yng Nghaeredin yn yr Alban.

Dywedodd Dilley, “Mae’n fraint fawr i gael fy nghydnabod gan fy nghyd-Gymry yn BAFTA Cymru ar gyfer y wobr hon. Gobeithiaf y bydd fy nhaith yn annog artistiaid uchelgeisiol i danio eu brwdfrydedd yn y maes hwn. Rydw i mor ffodus o fod wedi cael yr yrfa hon yn y diwydiant ffilmiau a’m bod wedi gallu cydweithio â llawer o unigolion dawnus i roi bywyd i gymaint o ffilmiau amrywiol.”

Derbynyddion blaenorol y Wobr yw Lynwen Brennan (2019) – Rheolwr Cyffredinol ac Is-lywydd Gweithredol Lucasfilm; Mavis Nicholson (2018) – Cyflwynydd/Darlledwr; John Rhys Davies (2017) – Actor; Terry Jones (2016) - Actor, Awdur, Cyfarwyddwr; Menna Richards (2015) – Darlledwr; Nerys Hughes (2014) – Actores; Dewi Llwyd (2013) – Newyddiadurwr/Cyflwynydd; John Hefin (2012) – Cyfarwyddwr; Gareth Gwenlan (2011) – Cynhyrchydd; Geraint Stanley Jones (2010) – Darlledwr; Margaret John (2009) – Actores; Glyn Houston (2008) – Actor; Andrew Davies (2007) – Awdur; John Humphrys (2006) – Newyddiadurwr/Cyflwynydd; Cliff Morgan (2005) – Actor; John Ogwen (2004) – Actor: Elaine Morgan (2003) – Actores; Jonathan Pryce (2002) – Actor; Siân Phillips (2001) – Actores; Chris Lawrence (2000) – Golygydd; Vincent Kane (1999) - Newyddiadurwr/Cyflwynydd; Geraint Morris (1998) – Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd; Geraint Rees (1997) – Cynhyrchydd; Pobol y Cwm (1996); Owen Edwards (1995) – Darlledwr; Kenneth Griffith (1994) – Actor; Syr Harry Secombe (1993) – Cyflwynydd; Rachel Thomas (1992).

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn dewis yr unigolion hynny sydd wedi rhagori yn y diwydiant ffilm a theledu rhyngwladol sy’n llysgenhadon gwych i Gymru a’r diwydiannau creadigol fel derbynyddion ein Gwobrau Arbennig.

Unwaith eto eleni, rydym yn dathlu gyrfa ddisglair unigolyn y mae ei yrfa wedi mynd ag ef o Gymoedd De Cymru i Hollywood a rhai o ffilmiau mwyaf adnabyddus ein hoes.

Mae Les Dilley yn ysbrydoliaeth enfawr. Ef oedd un o’r bobl oedd yn gwthio “y” garreg fawr honno yn Raiders of the Lost Ark. Roedd yn gyfrifol am R2D2 ar y set yn y ffilm Star Wars gyntaf a gweithiodd ar set cartref Luke yn Tunisia. Mae ganddo gymaint o straeon o’i bum degawd o waith ar fwy na 40 o wahanol brosiectau ffilm a theledu gyda’r enwau mwyaf yn y busnes – George Lucas, Ridley Scott, Steven Spielberg, John Landis, James Cameron a Mimi Leder. A dechreuodd y cyfan yng Nghymru.

Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ei wobr arbennig i Les ar 25 Hydref.”

Bydd 29ain seremoni Gwobrau BAFTA Cymru yn cael ei darlledu ar sianeli Facebook, Twitter a Youtube BAFTA am 19:00 BST ar 25 Hydref 2020. Caiff ei harwain gan y cyflwynydd teledu, Alex Jones, a fydd yn cael cwmni llu o westeion arbennig.

Bydd y seremoni’n cael ei chynnal fel sioe stiwdio gaeëdig lle y cedwir pellter cymdeithasol, a gwahoddir yr enwebeion i dderbyn eu gwobrau’n rhithwir. Mae BAFTA yn parhau i ddathlu rhagoriaeth ar draws y diwydiannau ffilm, gemau a theledu ac mae wedi cynnal sawl sioe Wobrau eleni mewn fformatau newydd digidol lle y cedwir pellter cymdeithasol; gan gynnwys Gwobrau Gemau’r Academi Brydeinig, Gwobrau Crefftau Teledu’r Academi Brydeinig a Gwobrau Teledu’r Academi Brydeinig Virgin Media.

Mae’r noddwyr digwyddiad a’r partneriaid canlynol wedi cael eu cadarnhau: Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Boom, Buzz Magazine, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Cuebox, Decade 10, Deloitte, ELP, Gorilla, ITV Wales, S4C, Trosol, Villa Maria a Working Word.


Gwaith Les Dilley (o IMDB.com)

DYLUNYDD CYNHYRCHU

Teacup Travels ((2015-17)

Tweezers (2017)

Spindle Whorl (2017)

Skyphos (2017)

Spouted Pot (2017)

Ice-Skates (2017)

Drew Peterson: Untouchable (TV Movie) (2012)

The Quinn-tuplets (TV Movie) (2010)

Little Man (2006)

Son of the Mask (2005)

Cold Creek Manor (2003)

Black Knight (2001)

Pay It Forward (2000)

Men of Honour (2000)

Inspector Gadget (1999)

Deep Impact (1998)

The Peacemaker (1997)

Diabolique (1996)

How to Make an American Quilt (1995)

Casper (1995)

Monkey Trouble (1994)

The Distinguished Gentleman (1992)

Honey, I Blew Up the Kid (1992)

What About Bob? (1991)

Guilty by Suspicion (1991)

The Exorcist III (1990)

The Abyss (1989)

Stars and Bars (1988)

Allan Quatermain and the Lost City of Gold (1986)

Invaders from Mars (1986)

Bad Medicine (1985)
 

 ADRAN GELF

 Never Say Never Again (supervising art director) (1983)

 Lucky Lady (assistant art director - uncredited) (1975)

 The Man with the Golden Gun (draughtsperson - uncredited) (1974)

 The Final Programme (assistant art director) (1973)

 Jesus Christ Superstar (assistant art director - uncredited) (1973)

 Scorpio (assistant art director - uncredited) (1973)

 Sitting Target (assistant art director - uncredited) (1972)

 The Boy Friend (assistant art director - uncredited) (1971)

 Macbeth (assistant art director - uncredited) (1971)

 The Devils (assistant art director - uncredited) (1971)

 Games That Lovers Play (assistant art director) (1971)

 Kelly's Heroes (assistant art director - uncredited) (1970)

 CYFARWYDDWR CELF

 Legend (supervising art director) (1985)

 Never Say Never Again (supervising art director) (1983)

 Eureka (supervising art director) (1983)

 An American Werewolf in London (1981)

 Raiders of the Lost Ark (1981)

 Star Wars: Episode V - The Empire Strikes Back (1980)

 Alien (1979)

 Superman (1978)

 The Last Remake of Beau Geste (1977)

 Star Wars: Episode IV - A New Hope (1977)

 The Four Musketeers: Milady's Revenge (1974)

 The Three Musketeers (1973)