You are here

Ceisiadau am ein Gwobrau yn agor Mawrth 2015

4 March 2015

Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau Academi Brydeinig Cymru yn agor yn swyddogol 16 Mawrth, 2015, a cheisiadau ar gyfer Gwobr Academi Brydeinig Cymru Gemau a Phrofiad Ryngweithiol ar agored ar y 31 Mawrth, 2015

Sylwch isod ar y newidiadau deniadol ar gyfer eleni, gan gynnwys;

 categori newydd yng ngwobrau Cymru

 diwygiad ar y cymhwyster mynediad ar gyfer ffilmiau nodwedd – hyn er mwyn ehangu’r cyfleoedd cyflwyno

 gofyniant penodol ar gyfer cyflwyno deunydd ychwanegol ar gyfer rhai categorïau crefft – er mwyn galluogi ymgeiswyr i roi eu cyflwyniad gorau

 cyflwyno tystysgrifau ar gyfer yr holl enwebion.

Cyflwynwch eich ceisiadau drwy ein system fynediad ar-lein, lle bydd modd i chi gwblhau ffurflen, llwytho eich rhaglenni / ffilmiau / bysellau mynediad a thalu. Er mwyn darllen y rheolau a chanllawiau’n llawn, ac er mwyn cyflwyno eich cais, ewch i: awards.bafta.org/entry

Edrychwn ymlaen yn arw at gydnabod a dathlu gwaith rhagorol a gynhyrchir yma yng Nghymru.