You are here

Cadarnhad gwesteion ar gyfer Gwobrau 2017

2 October 2017
Event: British Academy Scotland AwardsDate: Sunday 6 November 2016Venue: Blu Radisson Hotel, GlasgowHost: Edith BowmanBAFTA/ Alan Peebles

Cadarnhau’r Enwebeion a’r Darllenwyr Cyhoeddiadau a fydd yn bresennol yng Ngwobrau Cymru ar 8 Hydref

Newydd ar gyfer 2017: Darlledu o’r Carped Coch ar Facebook

 

Heddiw, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi enwi rhai o’r enwebeion, cyflwynwyr a gwesteion arbennig eraill a fydd yn bresennol yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, a gynhelir nos Sul 8 Hydref yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Bydd sêr y sgrîn fawr a’r sgrîn fach yn bresennol yn 26ain seremoni BAFTA Cymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn perfformio a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru, a bydd llu o wynebau enwog yn ymuno â nhw.

Bydd y DJ a’r cyflwynydd, Huw Stephens, yn dychwelyd i gyflwyno’r seremoni am y trydydd tro, a fynychir gan sêr y dramâu teledu a wnaed yng Nghymru, sef Doctor Who, Casualty, Hinterland, Gwaith Cartref, Byw Celwydd a chynhyrchiad newydd Bad Wolf ar gyfer Sky, sef A Discovery of Witches.

Disgwyliwn weld y canlynol, ymhlith eraill, ar y carped coch: yr actorion Peter Capaldi (Doctor Who), Tom Cullen (Downton Abbey), Vicky McClure (The Replacement, Line of Duty, This is England), Richard Mylan (Waterloo Road, Byw Celwydd), Steffan Rhodri (Wonder Woman, Harry Potter and the Deathly Hallows) a Lloyd Everitt (Casualty).

Mae eraill yn cynnwys Alexandra Roach (The Iron Lady, Utopia, No Offence), Owen Teale (Game of Thrones), Scott Arthur (Borg/McEnroe, Victoria) a Teresa Palmer (Hacksaw Ridge, Berlin Syndrome, The Choice).

Bydd y gwesteion yn mwynhau perfformiadau byw gan seren Eurovision ac X-Factor, Lucie Jones, a’r gantores-gyfansoddwraig o Gymru, Betsy.

Mae’r cyflwynwyr a’r gwesteion eraill sydd wedi’u cadarnhau hyd yma yn cynnwys Ian ‘H’Watkins o Steps a’r actores/gantores Emma Wolford o Eden.

Mae’r enwebeion a fydd yn bresennol yn cynnwys Jonny Owen (Don’t Take me Home), gyda Jonathan Ford o Gymdeithas Bêl-droed Cymru; yr awduron Owen Sheers (Aberfan the Green Hollow) a Fflur Dafydd; (The Library Suicides), Arwel Wyn Jones o Sherlock (Dylunio Cynhyrchiad) a Claire Pritchard-Jones (Colur a Gwallt) sydd wedi cael ei henwebu teirgwaith. Bydd enwebeion o fyd cerddoriaeth yn bresennol hefyd, gan gynnwys James Dean Bradfield, Karl Jenkins a Caryl Parry Jones.

Bydd yr enwebeion canlynol ar gyfer y wobr Actor yn bresennol: Dyfan Dwyfor (Library Suicides), Jack Parry-Jones (Moon Dogs) a Mark Lewis Jones (The Lighthouse). Bydd yr enwebeion canlynol ar gyfer y wobr Actores yn bresennol: Carys Eleri (Parch); Kimberley Nixon (Ordinary Lies), Mali Jones (35 Diwrnod) ac Eiry Thomas (Aberfan The Green Hollow).

Bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook BAFTA Cymru, diolch i noddwyr y digwyddiad, sef Gorilla Post Production. Bydd y rhai nad ydynt yn gallu dod i wylio’r gwesteion yn cyrraedd yn gallu gwylio sylwebaeth o’r carped coch o 6:30pm ymlaen, a gyflwynir gan Elin Fflur.

Mae 26 o gategorïau rhaglen, crefft a pherfformiad yn rhan o Wobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilm a theledu yng Nghymru yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymuno â’r enwebeion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yng ngwobrau eleni. Mae tocynnau ar gael ar gyfer y derbyniad siampên, y seremoni a’r parti yng Ngwesty’r Radisson Blu, sydd newydd gael ei adnewyddu. Pris y tocynnau yw £95, sy’n cynnwys llyfryn Gwobrau unigryw.

Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant
029 20 878444 / www.stdavidshallcardiff.co.uk