You are here

BAFTA yng Nghymru yn cyhoeddi Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru 2011

6 April 2011
The BAFTA Cymru Awards, 23 May 2010 (© BAFTA/Huw John).BAFTA/Huw John

Heddiw fe gyhoeddodd BAFTA yng Nghymru fanylion ynglyn â'r 20fed Seremoni Wobrywo'r Academi Brydenig yng Nghymru.

Cynhelir y seremoni drawiadol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sul, Mai 29ain, 2011 - gyda derbynwest i ddathlu yng Ngwesty Holland House yng Nghaerdydd i ddilyn.

Eleni mae 26 o gategoriau crefft, perfformio a rhaglenni i gyd. Gwneir cyflwyniadau hefyd ar gyfer Gwobr Sian Phillips, Gwobr Arbennig BAFTA yng Nghymu a Gwobr Gwyn Alf Williams.

Cyhoeddir y rhestr fer derfynol o enwebeion gan BAFTA yng Nghymru mewn digwyddiad arbennig ar Ebrill 14eg, 2011, pan ddatgelir hefyd manylion ynglyn â chyflwynwyr a noddwyr seremoni wobrywo'r Academi.

Mae cyn-enillwyr a gwestai arbennig Seremoni Gwobrwyo'r Academi Brydeinig yng Nghymru yn cynnwys Syr Anthony Hopkins, Catherine Zeta Jones, Michael Sheen, Jonathan Pryce, Ruth Jones, Eve Myles, Rhys Ifans, David Tennant, Ioan Gruffudd, yr Arglwydd Richard Attenborough, Katherine Jenkins, Mike Leigh, Russell T Davies, John Humphrys, Martin Freeman, Rob Brydon, Huw Edwards, Charlotte Church and Ken Russell.

Mae BAFTA yng Nghymru am sicrhau y bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael i'r cyhoedd. Bydd rhain ar werth o swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 029 2063 6464 o Ebrill 8fed ymlaen ar sail y cyntaf i'r felin!

Am fwy o wybodaeth ynglyn â'r Gwobrau cysylltwch â: Fiona Lynch/Lois Jones, BAFTA yng Nghymru. Ffôn: 02920223898 Ffacs: 02920664189 / E-bost: [email protected]

Am ymholiadau'r wasg a chyfryngau cysylltwch â: Manon Edwards Ahir
Ffôn: 07711 095470 / E-bost:[email protected]