You are here

BAFTA Cymru’n Cyhoeddi’r Enwebiadau Ar Gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig Yng Nghymru 2014

3 September 2014
British Academy Cymru Awards 2013BAFTA Cymru

Y Gwyll / Hinterland yn arwain y ffordd gydag NAW enwebiad, a Sherlock a 35 Diwrnod ill dau wedi’u henwebu BUM gwaith;

Mae cystadleuaeth frwd rhwng Stella, Y Gwyll / Hinterland a Sherlock yn y categori Drama Deledu;

Jason Mohammad fydd yn cyflwyno’r seremoni eleni

BAFTA Cymru Nominations 2014 - Sponsors updated (465.6 KB)

Caerdydd, 05/09/2014: Heddiw, mae Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer 23ain Seremoni Wobrwyo’r Academi Brydeinig yng Nghymru.

Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni i ddathlu a fydd yn cael ei chyflwyno gan Jason Mohammad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar ddydd Sul 26 Hydref 2014.

Mae 28 o gategorïau ar gyfer gwobrwyo rhaglenni, crefftau a pherfformiad eleni i anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu o fewn Ffilm a Theledu yng Nghymru.

Mae Jason yn adnabyddus am gyflwyno Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn ddiweddar, y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, Y Cwpan Ryder a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS yn ddiweddar yn ogystal ag am ei rolau darlledu gyda’r BBC (rhaglen foreol ar Radio Wales) ac mae’n rhugl yn y Gymraeg.

Mae gan ddramâu trosedd bresenoldeb amlwg eleni gyda’r ddrama noir ddwyieithog Y Gwyll / Hinterland yn derbyn naw enwebiad, gan gynnwys enwebiadau unigol i Mali Harries yng nghategori’r Actores Orau a Richard Harrington yng nghategori’r
Actor Gorau. Mae’r cyfarwyddwr Marc Evans a’r awdur Jeff Murphy wedi’u henwebu hefyd yng nghategorïau Cyfarwyddwr Ffuglen Gorau ac Awdur Gorau yn y drefn honno.

Yn dilyn ei llwyddiant diweddar yn y Gwobrau Emmy, mae’r ddrama dditectif Sherlock, wedi derbyn pum enwebiad, ac felly hefyd y gyfres ddirgelwch llofruddiaeth 35 Diwrnod. Mae drama ffantasi hanesyddol Da Vinci’s Demons wedi derbyn pedwar enwebiad.

Yn ymuno â Richard Harrington ar y rhestr enwebiadau ar gyfer yr Actor Gorau mae Mathew Gravelle am ei berfformiad fel Patricia, y nyrs drawsrywiol, yn 35 Diwrnod, a Tom Riley, am ei berfformiad yn y brif rôl yn Da Vinci’s Demons. Gyda Mali Harries ar y rhestr enwebiadau ar gyfer yr Actores Orau mae cyd-sêr Gwaith Cartref, Rhian Blythe a Siw Hughes, am eu perfformiadau fel yr athrawes Grug Matthews a’r ysgrifenyddes Gemma Haddon yn y ddrama sydd wedi’i lleoli mewn ysgol.

Mae cystadleuaeth frwd eto eleni yn y categori Drama Deledu gydag Y Gwyll / Hinterland a Sherlock i fyny yn erbyn enillydd 2013, Stella, sydd wedi’i chynhyrchu gan Tidy Productions ar gyfer Sky 1. Mae Ruth Jones, Stella, hefyd wedi’i henwebu ynghyd â Jeff Murphy, Y Gwyll/Hinterland, a Siwan Jones a Will Roberts, 35 Diwrnod, yng nghategori’r Awdur Gorau.

Mae cyfres ddogfen pry-ar-y-wal boblogaidd, The Call Centre, yn ogystal a The Hill Farm a Taith Fawr y Dyn Bach wedi derbyn enwebiadiau yng nghategori’r Gyfres Ffeithiol Orau.

Gallai’r wobr am y Cyflwynydd Gorau fynd naill ai i Griff Rhys Jones am A Great Welsh Adventure with Griff Rhys Jones, i Ifor ap Glyn am Pagans and Pilgrims: Britain’s Holiest Places, neu i Rhys Jones am Rhys Jones’s Wildlife Patrol.

Mae’r wobr am y categori Rhaglen Nodwedd/Ffilm Deledu Orau wedi dychwelyd ac mae’r ffilm ddogfen American Interior gan Gruff Rhys wedi’i henwebu, yn ogystal â biopic hyd ffilm nodwedd Wyndham Price, Playing Burton, a ffilm deledu deuluol Kevin Allen, Y Syrcas.

Yr enwebiadau ar gyfer Gwobr Gwyn Alf Williams am y rhaglen orau neu’r gyfres o raglenni gorau sydd wedi cyfrannu fwyaf at ddeall a gwerthfawrogi hanes yng Nghymru yw Cofio Senghennydd, Fishlock’s Wales – Senghennydd a The Miners’ Strike – A Personal Memoir by Kim Howells.

I gydnabod gweithwyr proffesiynol sy’n dod i’r amlwg sydd wedi gwneud argraff sylweddol mewn teledu neu ffilm yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, bydd y seremoni eleni’n cynnwys y Wobr Torri Drwodd. Wedi’u henwebu ar gyfer y wobr hon y mae Keri Collins, am gyfarwyddo ei ffilm nodwedd gyntaf Convenience, James Lusted am gyflwyno Taith Fawr y Dyn Bach gan Gwmni Da a Dr Elin Jones am ei gwaith yn cyflwyno Cofio Senghennydd.

Bydd cyflwyniadau arbennig ar y noson ar gyfer Gwobr Siân Phillips a Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad Rhagorol i Deledu.

  • Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru:

“Mae wedi bod yn flwyddyn ragorol i dalentau teledu a ffilm sy’n gweithio yng Nghymru ac rydym yn llawn cynnwrf wrth gyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer y 28 categori, sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o raglenni ac unigolion – sy’n cwmpasu’r ddwy iaith ac yn amrywio o’r rhai sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd hyd at unigolion profiadol dros ben. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid a’n noddwyr ar noson arall o ddathlu.”

Hefyd mae BAFTA Cymru’n falch iawn i gyhoeddi mai Noddwr Swyddogol y Digwyddiad unwaith eto at gyfer gwobrau eleni yw’r cwmni adnoddau darlledu allanol NEP CYMRU, gyda chefnogaeth Noddwr Allweddol y Digwyddiad, sef y cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau Gorilla.

Bydd y Seremoni Wobrwyo’n cynnwys gwesteion arbennig a chyflwynwyr enwog yn cynrychioli’r gorau ymhlith diwydiannau creadigol a chyfryngau’r DU.

  • Mae nifer gyfyngedig o docynnau cyhoeddus ar gael ar gyfer y seremoni.

Maent yn costio £10 a gellir eu prynu o Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru.
Ffôn: 029 2063 6464 neu ar-lein yn www.wmc.org.uk