You are here

Matthew Rhys I’w Anrhydeddu Gyda Thlws Siân Phillips 2011

25 May 2011
Matthew Rhys

BAFTA yng Nghymru wrth ei bodd i anrhydeddu seiliedig Hollywood , actor o Gymru ; Matthew Rhys , gyda'i Gwobr Siân Phillips 2011 .

Mae’n bleser gan BAFTA yng Nghymru gyhoeddi mai’r actor Hollywood Cymreig, Matthew Rhys, fydd yn cael ei anrhydeddu gyda Thlws Siân Phillips 2011. Cyflwynir y wobr yn 20fed Seremoni Wobrwyo’r Academi Brydeinig yng Nghymru a chynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd ar Ddydd Sul 29ain o Fai 2011.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Matthew wedi ennill canmoliaeth uchel ac yn enw cyfarwydd erbyn hyn ar ddwy ochr i Fôr yr Iwerydd am ei rôl yn y gyfres Americanaidd boblogaidd “Brothers and Sisters”.

Dywed Matthew:“Mae derbyn Tlws Siân Phillips gan BAFTA yng Nghymru yn golygu cymaint i mi. Yn ddigon eironig, Siân chwaraeodd rôl fy mam yn fy swydd actio cyntaf, felly mae’r anrhydedd hyn yn golygu cymaint mwy i mi gan mai ei gwobr hi ydyw…. Mae derbyn cydnabyddiaeth o gartref yn beth arbennig iawn.”

Dywed Lisa Nesbitt, Cyfarwyddwraig BAFTA yng Nghymru:“Cyflwynir Tlws Siân Phillips i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol mewn unai ffilm nodwedd ryngwladol neu gyfres deledu rwydwaith. Mae Matthew wedi cyflawni’r ddau yn ddiweddar gyda’i rôl adnabyddus yn “Brothers and Sisters” - ac fel Dylan Thomas yn “The Edge of Love”. Rydym yn hynod o falch o gael y cyfle i’w anrhydeddu fel hyn.”

Sector Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn cefnogi Tlws Siân Phillips: “ Rydym yn falch iawn o gael ein cysylltu gyda’r wobr hyn unwaith eto eleni. Mae Matthew Rhys yn bendant yn deilwng o’r anrhydedd hyn ac mae’n fendigedig gweld talent Gymreig yn derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol - dyw e ond yn iawn felly ein bod ni’n cael y cyfle i’w anrhydeddu nôl yma’n Gymru.”



Cyflwynir Tlŵs Siân Phillips yn ystod y seremoni wobrwyo fydd yn cydnabod enillwyr y 26 categori crefft, perfformiad, a rhaglenni Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni. Siân Williams a Jason Mohammad yw cyflwynwyr y noson a'r tenor Cymreig poblogaidd, Wynne Evans, fydd yr Artist Gwadd.

Am ymholiadau'r wasg a chyfryngau cysylltwch â: Manon Edwards Ahir
Ffôn: 07711 095470 / E-bost: [email protected]