You are here

Enwebiadau BAFTA Yng Nghymru Ar Gyfer Gwobrau Academi Brydeinig Cymru Sy’n 21ain Oed Eleni

6 September 2012
Alex Jones

Bydd Alex Jones yn cyflwyno 21ain Seremoni Wobrwyo BAFTA yng Nghymru ar 30 Medi, 2012.

Mae rhestr lawn yr enwebiadau ar gael yn yr atodiad ac ar ein gwefan: Bafta Cymru Nominations 2012 (295.8 KB)

[[MEDIA:{"IMAGE":"http:\/\/static.bafta.org\/images\/width250\/alex-jones-crop-18787.jpg","WIDTH":"250","ALIGN":"RIGHT","ALT":"Alex Jones [landscape]","CREDIT":null}]]- Gwaith Cartref ar S4C, a gynhyrchwyd gan Fiction Factory, sy’n arwain y ffordd gyda CHWE enwebiad

- Mae’r ffilm Patagonia gan Marc Evans, gyda Matthew Rhys yn serennu, wedi cael PUM enwebiad

Mae’r rhaglen ddogfen Code-Breakers: Bletchley Park's Lost Heroes, a gynhyrchwyd gan BBC Cymru, hefyd wedi cael PUM enwebiad

Wrth i BAFTA yng Nghymru baratoi ar gyfer pen-blwydd arbennig eleni yn 21 oed, cyhoeddir yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau blynyddol noddedig Academi Brydeinig Cymru yn anrhydeddu rhagoriaeth ym meysydd darlledu, rhyngweithio a ffilm yng Nghymru.

Mae 29 o gategorïau eleni ar gyfer rhaglenni, crefft a pherfformiad. Cyhoeddir yr enillwyr yn y seremoni a gaiff ei chyflwyno gan Alex Jones o raglen The One Show yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ddydd Sul, 30 Medi, 2012. John Owen Jones, sydd â rhan yn Phantom of the Opera, fydd gwestai arbennig y noson, a bydd yn ymuno â ni’n syth o daith y sioe hynod boblogaidd sy’n 25 oed eleni.

Meddai Alex Jones: "Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno’r seremoni wobrwyo fawreddog hon a dathlu’r dalent orau ym myd ffilm, teledu a’r cyfryngau rhyngweithiol yng Nghymru”.

Mae cynyrchiadau ffilm a dramâu teledu’n parhau i fod yn flaenllaw eleni gyda’r rhaglen Gwaith Cartref sydd ar S4C, a gynhyrchir gan Fiction Factory, yn derbyn y nifer uchaf o enwebiadau - 6 i gyd. Mae ffilm Marc Evans, Patagonia, gyda Matthew Rhys yn serennu ynddi - ac enillydd Gwobr BAFTA Siân Phillips 2011, hefyd wedi’i henwebu BUM gwaith. Ymysg y rhaglenni eraill sy’n cael sylw y mae rhaglen ddogfen Timewatch BBC 2, a gynhyrchwyd gan BBC Cymru - Code-Breakers: Bletchley Park's Lost Heroes - dyma hanes dau ddyn a haciodd i mewn i beiriant codau Hitler a newid tynged yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r enwebiadau ar gyfer yr Actor Gorau’n cynnwys Mark Lewis Jones (Baker Boys), Richard Harrington (Burton: Y Gyfrinach), Craig Roberts (Submarine) tra bod yr enwebiadau ar gyfer yr Actores Orau yn cynnwys Eve Myles (Baker Boys), Rhian Morgan (Gwaith Cartref) a Sharon Morgan (Resistance).

Wrth edrych ymlaen at ddathlu’r Gwobrau ar achlysur mor arbennig, dywedodd Allison Dowzell, Cyfarwyddwr Dros Dro BAFTA yng Nghymru: “Mae’n flwyddyn bwysig i BAFTA Cymru ac mae gennym gynlluniau cyffrous ac ambell syrpreis i fyny ein llawes ar gyfer digwyddiad arbennig eleni. Go brin fod ffordd well o ddathlu ein pen-blwydd yn 21 na thrwy gydnabod yr holl amser, egni, ymroddiad a’r gwaith caled sy’n rhan o greu a chynhyrchu cyfryngau creadigol, rhaglenni teledu a ffilmiau yng Nghymru."

Bydd cyflwyniadau arbennig yn ystod y noson hefyd ar gyfer Gwobr Siân Phillips a’r Wobr am Gyflawniad Gydol Oes. Yr enwebiadau ar gyfer Gwobr Gwyn Alf Williams am y rhaglen neu’r gyfres orau o raglenni sydd wedi cyfrannu fwyaf at ddeall a gwerthfawrogi hanes yng Nghymru yw Fishlocks Wales, Wyneb Glyndŵr a Lions 71.

Mae’n bleser gan BAFTA yng Nghymru gyhoeddi hefyd mai NEP Cymru fydd ei brif noddwr ar gyfer gwobrau eleni unwaith eto ac rydym yn ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth barhaus. Croeso hefyd i Gorilla sydd wedi ymuno â’n teulu o noddwyr fel un un o brif noddwyr y digwyddiad. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi gyd o NEP Cymru a Gorilla ar y noson wobrwyo er mwyn i’r seremoni bwysig hon fod yr orau erioed.

Fel anrheg ben-blwydd arbennig i’r diwydiant ffilm, teledu a chyfryngau yng Nghymru, bydd BAFTA yng Nghymru yn cynnig tocynnau i’r diwydiant ar gyfer seremoni wobrwyo eleni am bris llawer is £75.00 yr un a £50.00 i aelodau. Ychwanegodd Allison Dowzell, Cyfarwyddwr Dros Dro BAFTA yng Nghymru: “Mae prisiau’r tocynnau yn 2012 yn golygu bod pawb sydd wedi cyfrannu at y diwydiant yn gallu mynd i’r seremoni. Mae BAFTA yng Nghymru hefyd yn sylweddoli mai busnesau bychain ac unigolion sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain yw cyfran helaeth o’r diwydiant Ffilm a Theledu yng Nghymru, ac maent yn aml yn gorfod talu am docynnau o’u pocedi eu hunain.”

Mae nifer bychan o docynnau ar gyfer digwyddiad arbennig eleni ar gael ar gyfer y cyhoedd a gellir eu prynu yng nghanolfan docynnau Canolfan Mileniwm Cymru neu drwy ffonio 02920 636364. Bydd tocynnau ar werth ar 8 Medi 2012

NODDWYR BAFTA YNG NGHYMRU 2012

Mae ymrwymiad BAFTA yng Nghymru at ragoriaeth yn dibynnu i raddau helaeth ar deyrngarwch ac ymroddiad ein partneriaid. Hoffem hefyd gydnabod cefnogaeth NEP Cymru, Audi, NSSAW, a chanolfan siopa Dewi Sant.

Diolch hefyd i’r darlledwyr: BBC CYMRU, ITV CYMRU, S4C

  • Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â: Manon Edwards Ahir yn Mela Media.

Ffôn: 07711 095470 / [email protected]

I brynu tocynnau ar gyfer y diwydiant, cysylltwch â Chanolfan Mileniwm Cymru - 02920 636364
Dilynwch ni ar Trydar a Gweplyfr yma: https
https