The Doctor and the Dalek, Infinity Runner ac A Mechanical Story yn cystadlu am y wobr
Cyhoeddi enwebeion ar gyfer Cymeradwyaethau hefyd
Caerdydd, 22 Mai 2015:
Heddiw, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi'r enwebiadau ar gyfer Gwobr Academi Brydeinig Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol. Mae’r wobr, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2013, yn cydnabod, yn anrhydeddu ac yn gwobrwyo unigolion am gyflawniad creadigol eithriadol yn y maes.
Dyma’r enwebiadau ar gyfer Gwobr Academi Brydeinig Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol: The Doctor and the Dalek (BBC Cymru Wales Ar-lein a Dysgu / Somethin’ Else), sef gêm llechen a bwrdd gwaith sy’n cynnig cyfle i selogion ymdrochi ym myd y Doctor - trwy weithio fel tîm, rhaid i’r Doctor a’r unig Dalek da yn y bydysawd atal y Starbane rhag mynd i’r dwylo anghywir; Infinity Runner (Wales Interactive), sef gêm rhedeg gynhyrfus ffug-wyddonol, aml blatfform ag iddi 14 lefel, ymladd cyflym a all gynnal hyd at 32 o chwaraewyr yn y modd amlchwaraewr, wedi’i hysbrydoli gan ddisgyblaethau parkour a chrefftau ymladd cymysg; ac A Mechanical Story (Skyfish Studios Ltd), sef gêm bos heriol, yn seiliedig ar ffiseg, lle mae peiriant mecanyddol yn cyfarfod â chwarae amser real, â chwaraewyr yn gorfod datrys y pos yn gywir trwy adeiladu peiriannau sy’n gweithio ar draws 48 o lefelau wedi’u saernio’n ofalus.
Bydd pedair Cymeradwyaeth yn cael eu cyhoeddi gan BAFTA Cymru hefyd, i gydnabod rhagoriaeth yn y categorïau canlynol: Cyflawniad Artistig, Dyluniad Gêm, Sain a Cherddoriaeth, a Chyflawniad Technegol.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, nos Wener, 19 Mehefin, fel un o uchafbwyntiau Wales Games Development Show, sef digwyddiad uchel ei barch y diwydiant creadigol, sy’n denu oddeutu 500 o weithwyr y diwydiant a selogion gemau, bob blwyddyn.
Mae sioe eleni yn cynnwys prif araith Gemau BAFTA Cymru gyda Katherine Bidwell o State of Play Games, a enillodd Wobr Gemau’r Academi Brydeinig am Gyflawniad Artistig ar gyfer Lumino City yn gynharach eleni. Bydd sesiynau a gweithdai eraill yn y sioe yn cael eu cynnal gan rai o bobl fwyaf disglair y diwydiant, a chyfle i weld prosiectau diweddaraf amrywiaeth o gwmnïau gemau yng Nghymru, yn ogystal â chymorthfeydd un i un a chyfleoedd rhwydweithio.
Dywedodd Rebecca Hardy, Rheolwr Gwobrau BAFTA Cymru: “Mae enwebeion Gwobr Academi Brydeinig Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol eleni yn amlygu’r sector gemau dawnus ac yn adlewyrchu cryfder a thwf y diwydiant cyffrous hwn yng Nghymru.”
Mae BAFTA Cymru hefyd wedi cyhoeddi Parti i Enwebeion y Wobr Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol agoriadol ar 5 Mehefin, yn Doctor Who Experience ym Mae Caerdydd.
Caiff Gwobr Academi Brydeinig Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol ei noddi gan Brifysgol Glyndŵr, Yr Ymgyrch .cymru .wales, Just Perfect Catering, First Great Western, Ethos, Wales Games Development Show, Grolsch ac Elin Rees PR.
ENWEBIADAU
GWOBR ACADEMI BRYDEINIG CYMRU AR GYFER GEMAU A PHROFIAD RHYNGWEITHIOL
noddir gan
THE DOCTOR AND THE DALEK BBC Cymru Wales Ar-lein a Dysgu / Somethin’ Else
INFINITY RUNNER Wales Interactive
A MECHANICAL STORY Skyfish Studios LTD
CYMERADWYAETH AR GYFER CYFLAWNIAD ARTISTIG
BOJ DIGS Thud Media
MADRON Cube / Glasshead / S4C
TOOT’S HARBOUR Thud Media
CYMERADWYAETH AR GYFER DYLUNIAD GÊM
BOJ DIGS Thud Media
CHICKEN COOP FRACTIONS eChalk Ltd
PYRAMID Boom Kids a Thud Media
CYMERADWYAETH AR GYFER SAIN A CHERDDORIAETH
BOJ DIGS Thud Media
MADRON Cube / Glasshead / S4C
TOOT’S HARBOUR Thud Media
CYMERADWYAETH AR GYFER CYFLAWNIAD TECHNEGOL
MADRON Cube / Glasshead / S4C
NEILSON 360 VR PROJECT Atticus Digital Ltd