You are here

A Mechanical Story yn ennill Gwobr BAFTA Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol

19 June 2015

Heddiw, cyhoeddodd yr Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, mai A Mechanical Story sydd wedi ennill Gwobr yr Academi Brydeinig yng Nghymru 2015 ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol. Arweinydd y seremoni, a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, oedd y comedïwr a’r darlledwr o Gymru, Chris Corcoran.

Mae A Mechanical Story, gan Skyfish Studios Ltd, yn gêm pos heriol, seiliedig ar ffiseg, lle mae teclynnau mecanyddol yn cyfarfod â chwarae amser real, ac mae’n rhaid i chwaraewyr ddatrys pos yn gywir trwy adeiladu teclynnau sy’n gweithio ar draws 48 o lefelau a saernïwyd yn ofalus. Sefydlwyd Skyfish Studios Ltd ym mis Mehefin 2014 gan Mel Wah, Lucy White-Lewis ac Yucel Karamanli, ac A Mechanical Story yw eu cydweithrediad cyntaf. 

Llwyddodd y gêm i guro cystadleuaeth gan The Doctor and the Dalek (BBC Cymru Wales Ar-lein a Dysgu / Somethin’ Else) ac Infinity Runner (Wales Interactive) i ennill y wobr.

Cyflwynwyd cymeradwyaeth i gydnabod rhagoriaeth mewn pedwar categori hefyd:  

enillydd Cymeradwyaeth ar gyfer Cyflawniad Artistig oedd Madron (Cube / Glasshead / S4C); dyfarnwyd Cymeradwyaeth ar gyfer Dyluniad Chwarae i Thud Media am Boj Digs, a gymeradwywyd yn y categori Sain a Cherddoriaeth hefyd, am Toot’s Harbour; ac enillydd Cymeradwyaeth ar gyfer Cyflawniad Technegol oedd Prosiect Rhith-wirionedd Nielson 360 gan Atticus Digital Ltd.

Dywedodd Rebecca Hardy, Rheolwr Gwobrau BAFTA Cymru: “Mae enwebeion ac enillwyr eleni yn amlygu’r sector gemau dawnus, ac yn adlewyrchu cryfder a thwf y diwydiant cyffrous hwn yng Nghymru.”

Sefydlwyd Gwobr yr Academi Brydeinig yng Nghymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol yn 2013, ac mae’n cydnabod, anrhydeddu a gwobrwyo unigolion am gyflawniad creadigol eithriadol yn eu maes.  

Mae’r seremoni wobrwyo ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol yn un o uchafbwyntiau Sioe Datblygu Gemau Cymru, sef digwyddiad uchel ei barch y diwydiant creadigol sy’n denu oddeutu 500 o bobl o’r diwydiant a phobl sy’n frwd dros gemau bob blwyddyn.

Cynhaliwyd parti cyntaf BAFTA Cymru i enwebeion y Wobr Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol ar 5 Mehefin, yn y Doctor Who Experience ym Mae Caerdydd.

Caiff Gwobr yr Academi Brydeinig yng Nghymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol ei noddi gan Brifysgol Glyndŵr, Ymgyrch .cymru .wales, Just Perfect Catering, First Great Western, Ethos, Sioe Datblygu Gemau Cymru, Grolsch, Mint Motion, Gorilla ac Elin Rees PR.

 


RHESTR LAWN O ENWEBEION AC ENILLWYR 


GWOBR YR ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU AR GYFER GEMAU A PHROFIAD RHYNGWEITHIOL
a noddir gan Brifysgol Glyndŵr ac Ymgyrch .cymru .wales

A MECHANICAL STORY Skyfish Studios Ltd

THE DOCTOR AND THE DALEK BBC Cymru Wales Ar-lein a Dysgu / Somethin’ Else

INFINITY RUNNER Wales Interactive


CYMERADWYAETH AR GYFER CYFLAWNIAD ARTISTIG

MADRON Cube / Glasshead / S4C

BOJ DIGS Thud Media

TOOT’S HARBOUR Thud Media


CYMERADWYAETH AR GYFER DYLUNIAD CHWARAE

BOJ DIGS Thud Media

CHICKEN COOP FRACTIONS eChalk Ltd

PYRAMID Boom Kids & Thud Media


CYMERADWYAETH AR GYFER SAIN A CHERDDORIAETH

TOOT’S HARBOUR Thud Media

BOJ DIGS Thud Media

MADRON Cube / Glasshead / S4C


CYMERADWYAETH AR GYFER CYFLAWNIAD TECHNEGOL

PROSIECT RHITH-WIRIONEDD NIELSON 360 Atticus Digital Ltd

MADRON Cube / Glasshead / S4C