You are here

BAFTA Cymru yn dathlu 10 mlynedd o Doctor Who

6 May 2015
Doctor Who (series 8) Ep4

BAFTA i ddathlu 10 mlynedd o Doctor Who yng Nghymru mewn digwyddiad arbennig gyda Steven Moffat yn Efrog Newydd, UDA

Dangosiad pen-blwydd a sesiwn holi ac ateb, i’w cynnal gan BAFTA Cymru, Cyngor Busnes Caerdydd, BBC America a BAFTA Efrog Newydd

Cyhoeddwyd heddiw gan yr Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, BAFTA Cymru, y cynhelir dangosiad arbennig o Doctor Who yn Efrog Newydd, UDA, dydd Iau, 14 Mai, i ddathlu 10 mlynedd ers adfywio rhyddfraint uchel ei glod Doctor Who, a gynhyrchir gan BBC Cymru Wales.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir mewn partneriaeth â BAFTA Efrog Newydd, Cyngor Busnes Caerdydd a BBC America, yn cynnig cyfle i 220 o westeion y diwydiant weld dangosiad ar y sgrin fawr o bennod ddiweddar, Listen, gyda Peter Capaldi fel y 12fed Doctor. Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y dangosiad, gyda’r cynhyrchydd gweithredol a’r awdur, Steven Moffat.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Rydym yn gyffrous iawn ynghylch cynnal y digwyddiad dathlu hwn ar y cyd yn Efrog Newydd, a fydd yn gyfle i arddangos doniau, sgiliau, lleoliadau ac arloesedd doniau diwydiannau creadigol Cymru, sy’n gweithio ar gyfres Doctor Who yng Nghymru.

“Gyda miliynau o edmygwyr ledled y byd, a ffigurau gwylio arwyddocaol yn yr UD ar BBC America, roeddem o’r farn bod pen-blwydd yn 10 oed yn achlysur gwych i ganmol y tîm sy’n gyfrifol am y rhyddfraint, a chynnig cipolwg i ymarferwyr y diwydiant yn yr UD i’r ffordd y mae’r gyfres wedi datblygu, yn ogystal â throsolwg o sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru.”

Dywedodd Steven Moffat, “Roeddwn i’n dwlu ar Doctor Who ar y sgrin, ymhell cyn i mi weithio ar y gyfres, yn union fel yr oeddwn yn hoff iawn o Efrog Newydd mewn ffilmiau, ymhell cyn i mi gael cyfle i fynd yno. Bydd yn bleser cyfuno’r ddau ffantasi.”

Roedd Doctor Who yn rhan arwyddocaol o ddiwylliant poblogaidd Prydain, ac mae wedi dod yn gyfres deledu ffasiynol boblogaidd mewn mannau eraill. Mae’r sioe wedi dylanwadu ar genedlaethau o weithwyr teledu proffesiynol ym Mhrydain, llawer ohonynt wedi tyfu i fyny’n gwylio’r gyfres. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol rhwng 1963 ac 1989, ac fe’i ail-lansiwyd gan BBC Cymru Wales yn 2005 gyda Russell T Davies fel cynhyrchydd gweithredol a phrif awdur ar gyfer pum mlynedd gyntaf ei hadfywiad, ochr yn ochr â Julie Gardner fel Pennaeth Drama BBC Cymru Wales ar y pryd. Ffilmiwyd cyfres gyntaf yr 21ain ganrif, gyda Christopher Eccleston yn y brif rôl, yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, gydag ardal de Cymru yn gefnlen ar gyfer nifer o leoliadau eraill, gan gynnwys Llundain. Cynhyrchwyd nifer o gyfresi deilliedig amlgyfrwng yn sgil Doctor Who, gan gynnwys Torchwood (2006–11) a The Sarah Jane Adventures (2007–11), ill dwy wedi cael eu creu gan Russell T Davies; K-9 (2009–10); ac un bennod peilot o K-9 and Company(1981). Caiff y gyfres ei chydnabod yn eang fel catalydd allweddol ar gyfer y cynnydd yn y dramâu a gynhyrchir yng Nghymru.

Bydd Cyngor Busnes Caerdydd, sef noddwyr y digwyddiad, yn cynnal derbyniad i hyrwyddo’r brifddinas fel y porth i Gymru, sef gwlad sydd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cynhyrchu ffilmiau, rhaglenni teledu, gemau a hysbysebion yn y blynyddoedd diweddar.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Busnes Caerdydd, Nigel Roberts, “Mae Caerdydd yn brifddinas ryngwladol ac mae’n bleser gennym gymryd ein lle ar lwyfan byd ar bob cyfle posibl i hyrwyddo rhanbarth ein prifddinas a Chymru gyfan. 

Mae’r diwydiannau creadigol yn ffurfio rhan fawr o’n heconomi lwyddiannus ac rydym ni eisiau i Gaerdydd fod fel y Doctor ‘yng nghanol y bydysawd’! Rydym yn falch o fod yn gartref i Doctor Who ac yn edrych ymlaen at gyfarfod â phobl ddylanwadol yn Efrog Newydd yn y digwyddiad mawreddog hwn.”

Dywedodd Ken Poole, Pennaeth Datblygu Economaidd ar gyfer Cyngor Dinas Caerdydd a Chyfarwyddwr Cyngor Busnes Caerdydd, “Gan weithio gyda’n partneriaid yn y Cyngor Busnes, mae’r Cyngor yn ymroddedig i godi ein proffil rhyngwladol i ysgogi buddsoddiad ym mhrifddinas Cymru. Mae gennym ni hanes da o ran denu’r diwydiant creadigol i Gaerdydd, gyda llwyddiant The Doctor Who Experience, Sherlock, Torchwood a Casualty, yn ogystal â’r newyddion diweddar am Pinewood yn sefydlu yng Nghaerdydd.

“Y diwydiant creadigol yw’r sector sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae oddeutu traean o swyddi'r diwydiant creadigol yng Nghymru yng Nghaerdydd, gyda dros 6,000 o swyddi yn y brifddinas. Byddwn yn parhau i achub ar bob cyfle i ddangos beth sydd gan Gaerdydd i’w gynnig, gan sefydlu’r brifddinas Ewropeaidd sy’n tyfu gyflymaf ar lwyfan y byd ymhellach.”

Bydd y digwyddiad, a gynhelir yn Efrog Newydd, UDA, ar 14 Mai, yn un o 60 o ddigwyddiadau y bydd BAFTA Cymru yn eu cynnal yn 2015 fel rhan o’i rhaglen o ddangosiadau a digwyddiadau dysgu trwy gydol y flwyddyn.


Mewn partneriaeth gyda: