Ar ddydd Llun 1 Chwefror cynhaliodd BAFTA Cymru a BBC Cymru dangosiad rhagolwg o ddiweddglo y gyfres drama epig War and Peace. Cafodd hyn ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda James Norton, Ade Edmondson, Aneurin Barnard, Tom Harper (Cyfarwyddwr) Andrew Davies (Sgriptiwr), George Steel (Sinematograffydd), Julie Stannard (Cynhyrchydd) a Bethan Jones (Uwch Gynhyrchydd), dan arweiniad y cyflwynydd Jason Mohammad. Bydd podcast o'r sesiwn cwestiwn ac ateb, a ffilm fer o'r noson ar gael yn ystod wythnos Chwefror 8 ar ein wefan BAFTA Guru.