Ar nos Lun 25 Tachwedd yn Galeri, Caernarfon fe wnaethom gynnal dangosiad arbennig o The Crown (Pennod 6) ac yna sesiwn holi-ac-ateb gyda'r actorion Mark Lewis Jones, Nia Roberts a Suzanne Mackie (cynhyrchydd gweithredol). Saethwyd peth o'r bennod hon ar leoliad yng Nghaernarfon ac Aberystwyth. Dechreuodd y digwyddiad gyda derbyniad diodydd gyda chefnogaeth Wales Screen ar gyfer aelodau BAFTA Cymru a gwesteion Wales Screen.
Mewn partneriaeth â Netflix UK, Galeri a Wales Screen.