Ar ddydd Sul 22 Medi yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd, fe wnaethom gynnal derbyniad diodydd â thema a dangosiad o ddiweddglo tymor 5 saga arobryn BAFTA, Peaky Blinders, ychydig cyn ei drosglwyddo ar BBC One, yr un noson.
Ar y panel Holi ac Ateb cawsom Chris Ballantyne (Cyd-Gynhyrchydd), Nicole Northridge (Dylunydd Cynhyrchu), Jonathan Midlane (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyntaf) ac arbenigwyr Effeithiau Arbennig, Danny Hargreaves ac Arran Glasser o Real SFX o Gaerdydd, mewn sgwrs â Jo Pearce.
Noddwyd y derbyniad diodydd gan Wales Screen a Real SFX.