Ddydd Llun 9 Rhagfyr cynhaliwyd noson mewn partneriaeth â BBC Wales ac Ystafell Awduron y BBC i gynnal sesiwn holi gyda Ruth Jones a Rob Brydon yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ymunodd DJ Huw Stephens â’r ysgrifennwr a’r actores glodwiw Ruth Jones a’r digrifwr Rob Brydon i drafod apêl barhaus un o gomedïau mwyaf gwerthfawr Prydain, cyn rhaglen arbennig Gavin a Stacey cael ei ddarlledu ar Ddydd Nadolig. Roedd y digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Awduron Cymru y BBC 2019.