Ddydd Sul 29 Medi cynhaliodd BAFTA Cymru ac IntoFilm Sgwrs gyda Rhys Ifans yn y Senedd, fel rhan o ŵyl GWLAD.
Cynhaliwyd yr ŵyl bum niwrnod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â rhestr hirfaith o bartneriaid dylanwadol a chreadigol, ac roedd yn rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli.
Yn adnabyddus am ei rolau rhyngwladol, arobryn, yn The Amazing Spider-Man, Harry Potter and the Deathly Hallows: Rhan 1, Nanny McPhee Returns, Mr Nice, Notting Hill, Twin Town a llawer mwy, soniodd Rhys am ei yrfa hyd yma , yr hyn sy'n ei ysbrydoli, ei gariad at Gymru a'i atgof o'r daith i ddatganoli gyda'r digrifwr, awdur a chyflwynydd Daniel Glyn.