You are here

Cadarnhau mynychwyr ar gyfer Gwobrau 2019

8 October 2019

Yr Enwebeion a’r Cyflwynwyr a fydd yn bresennol wedi’u cadarnhau ar gyfer Gwobrau Cymru ar 13 Hydref, gan gynnwys Iwan Rheon ac actor C3PO, Anthony Daniels

Newydd ar gyfer 2019: Gwyliwch gyfweliadau cefn llwyfan gyda’r enillwyr yn fyw ar dudalen Facebook BAFTA Cymru

Heddiw, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi datgelu enwau rhai o’r enwebeion, y cyflwynwyr a’r gwesteion arbennig eraill a fydd yn bresennol yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar nos Sul 13 Hydref.

Unwaith eto, bydd llu o wynebau cyfarwydd yn cerdded y carped coch ar gyfer 28ain seremoni BAFTA Cymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth o ran perfformio a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru.

Bydd y DJ a’r cyflwynydd, Huw Stephens, yn dychwelyd i gynnal y seremoni am y pumed tro, ac mae hefyd wedi’i enwebu am gyflwyno’r ffilm ddogfen Anorac.

Mae’r rhai a ddisgwylir ar y carped coch yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, Ruth Jones (Gavin and Stacey, Stella), Joanna Scanlan (No Offence, Requiem, The Accident), Craig Roberts (Horrible Histories: Rotten Romans, Just Jim, Submarine) a Edward Bluemel (Killing Eve, A Discovery of Witches).

Bydd gwesteion eraill yn cynnwys yr actorion Cath Ayers (Keeping Faith, Byw Celwydd), Gwyneth Keyworth (Hidden, Bang, Black Mirror), Nia Roberts (Pili Pala, Bang, 35 Diwrnod), Suzanne Packer (Stella, Casualty, Keeping Faith), a Tosin Cole (Doctor Who, Star Wars).

Bydd Trystan Gravelle (Baptiste, Mr Selfridge), Rakie Ayola (Shetland, No Offence), y digrifwr Tudur Owen, Morfydd Clark (Dracula, His Dark Materials, Patrick Melrose) yn ymuno â Gwilym Lee (Bohemian Rhapsody, Jamestown) i gyflwyno gwobrau.

Bydd y gwesteion yn mwynhau perfformiad byw gan y gantores/gyfansoddwraig o ogledd Cymru, Casi Wyn, a bydd Jo Hartley (This is England, Eddie the Eagle, In My Skin), y cyflwynydd Elis James, cast Doctor Who a chyflwynwyr Emma Walford a Trystan Elis Morris (Priodas Pum Mil) yn mynychu i gefnogi’r enwebeion.

Mae’r enwebeion actio yn cynnwys Celyn Jones (Manhunt), Gabrielle Creevy (In My Skin), Jodie Whittaker (Doctor Who), Eiry Thomas (Enid a Lucy) a Sian Gibson (Peter Kay’s Car Share).

Mae’r enwebeion eraill ar draws y categorïau crefft a pherfformio, a gwesteion eraill, yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, yr awduron Andrew Davies (Les Miserables), Fflur Dafydd (35 Awr), Owen Sheers (NHS: To Provide all People) a Russell T Davies (A Very English Scandal).

Bydd y Dylunwyr Cynhyrchu Arwel Wyn Jones (Doctor Who), Catryn Meredydd (Black Mirror: Bandersnatch), James North (A Discovery of Witches) a Thomas Pearce (Apostle) yn bresennol hefyd.

Mae derbynyddion y Gwobrau Arbennig ar gyfer 2019 wedi cael eu cyhoeddi, sef y cynhyrchydd gweithredol Bethan Jones (War and Peace, Les Miserables), a fydd yn derbyn ei gwobr gan actor Games of Thrones, Iwan Rheon, ac Is-lywydd Gweithredol Lucasfilm, sef Lynwen Brennan, a fydd yn derbyn ei gwobr gan actor C3PO, Anthony Daniels.

Bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw unwaith eto ar dudalennau Facebook a YouTube BAFTA Cymru. Os na allwch ddod a gwylio’r gwesteion yn cyrraedd, gallwch wylio darllediad o’r carped coch o 6:00pm, wedi’i gyflwyno gan Elin Fflur unwaith eto, sydd hefyd wedi’i henwebu am ei rhaglen ddogfen ddiweddar am IVF.

Mae 24 o gategorïau rhaglen, crefft a pherfformio yn rhan o Wobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth o ran darlledu a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu yng Nghymru yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, “Mae safon ac amrywiaeth yr enwebeion a gynrychiolir yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni yn dystiolaeth wych o iechyd y diwydiant gemau a theledu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Eleni, rydym wedi defnyddio ein cyfnod gwobrau i ddathlu’r cysylltiadau sydd gan ein henwebeion â phob rhan o’r wlad - o Gaergybi ac Aberdaron i Gaerfyrddin a’r Fenni - er mwyn annog pobl o bob cefndir a phob rhan o Gymru i gael eu hysbrydoli gan eu creadigrwydd ac ystyried rolau yn ein diwydiant ffyniannus.”

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymuno â’r enwebeion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yng Ngwobrau eleni. Mae tocynnau ar gael ar gyfer y derbyniad siampên, y seremoni a’r parti yng Ngwesty’r Radisson Blu, sydd newydd gael ei adnewyddu, am £98.

Cadarnhawyd mai noddwyr a phartneriaid y digwyddiad yw AB Acoustics, Prifysgol Aberystwyth, Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Bluestone Brewery, Buzz Magazine, Capital Law, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Clarins, Cuebox, Da Mhile Gin, Deloitte, DRESD, Elstree Light and Power, Gorilla, Iceland, ITV Wales, Ken Picton Salon, Mad Dog 2020 Casting, Radisson Blu, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Neuadd Dewi Sant, Taylor Bloxham, The Social Club, Agency, Trosol, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Villa Maria, Waterstone Homes, Llywodraeth Cymru, Working Word a’r Egin.

Gellir prynu tocynnau o tickets.bafta.org tan ddydd Gwener 11 Hydref am 12pm.