You are here

Bethan Jones a Lynwen Brennan i’w hanrhydeddu yng Ngwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru

2 October 2019

Y cynhyrchydd drama, Bethan Jones, ac Is-lywydd Gweithredol Lucasfilm, Lynwen Brennan, yw derbynyddion Gwobrau Arbennig 2019

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi enwi derbynyddion y Gwobrau Arbennig ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni, a gynhelir ar 13 Hydref 2019, fel y’u cyhoeddwyd ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru heno.

Y cynhyrchydd drama, Bethan Jones, y mae ei gwaith yn cynnwys Les Miserables, Sherlock a War and Peace, fydd 15fed derbynnydd Gwobr Siân Phillips. Noddir y Wobr gan Bad Wolf.

Ar ôl gweithio fel actor yn gyntaf ac yna fel cyfarwyddwr ar ei liwt ei hun ym maes y theatr a theledu, ymunodd Bethan â BBC Wales yn 2002 fel cynhyrchydd yn gyfrifol am ddramâu lleol, gan gynhyrchu Pobol Y Cwm a Baker Boys.

O 2005 ymlaen, fel Cynhyrchydd Gweithredol yn Adran Ddrama BBC Cymru Wales, gweithiodd Bethan ar nifer o raglenni drama unigol a chyfresi sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys Merlin, Sherlock, A Poet in New York, The Long Walk to Finchley, Room at The Top, Hamlet, War and Peace, Under Milkwood ac Aberfan: The Green Hollow, a chafodd ei henwebu am wobrau Emmy a BAFTA.

Ers 2017, mae gwaith Bethan fel Cynhyrchydd/Cynhyrchydd Gweithredol ar ei liwt ei hun wedi cynnwys Press Mike Bartlett ac addasiad Andrew Davies o Les Miserables gyda Lookoutpoint ar gyfer BBC One.

Mae hi hefyd wedi gweithio gyda Cuba Pictures ac, ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Creadigol Gweithredol yn Playground, lle mae’n gweithio ar gyfresi gan gynnwys Dangerous Liaisons ar gyfer Lionsgate/Starz. Mae Bethan yn datblygu cyfresi drama a dramâu unigol trwy ganolfan ddatblygu yng Nghymru a sefydlwyd yn gynharach eleni.

Dywedodd Bethan “Rydw i wedi edmygu Siân Phillips ar hyd fy oes, ac mae’n fraint enfawr cael fy nghynnwys yn y rhestr glodwiw o dderbynyddion y wobr hon sy’n dwyn ei henw.”

Yn y gorffennol, mae Gwobr Siân Phillips, a ddewisir gan Bwyllgor BAFTA Cymru, wedi cael ei dyfarnu i’r dylunydd gwisgoedd Lindy Hemming, yr awdures Abi Morgan, y golurwraig Siân Grigg, y cyfarwyddwr Euros Lyn, yr actor Rhys Ifans, yr awdur Russell T Davies, yr actor Michael Sheen, yr actor Ioan Gruffudd, yr awdures/actores/cynhyrchydd Ruth Jones, yr actor Rob Brydon, yr actor Matthew Rhys, yr actor Robert Pugh, y cynhyrchydd Julie Gardner a’r newyddiadurwr Jeremy Bowen.

Bydd Gwobr Arbennig BAFTA Cymru am Gyfraniad Eithriadol i Ffilm a Theledu yn cael ei chyflwyno i Reolwr Cyffredinol ac Is-lywydd Gweithredol Lucasfilm, sef Lynwen Brennan. Noddir y Wobr gan Lywodraeth Cymru.

A hithau’n Rheolwr Cyffredinol ac Is-lywydd Gweithredol Lucasfilm, mae Lynwen Brennan yn goruchwylio’r holl weithrediadau busnes ar gyfer Lucasfilm, Industrial Light & Magic a Skywalker Sound. 

Dechreuodd ei gyrfa gyda Lucasfilm ym 1999 fel Arweinydd Maes Technegol ar gyfer y Cyfarwyddwyr Technegol Graffeg Gyfrifiadurol yng nghwmni effeithiau gweledol storïol Lucasfilm, sef Industrial Light & Magic. Dringodd yr ysgol i ddod yn Llywydd ILM yn 2009. Ym mis Chwefror 2015, fe’i dyrchafwyd yn Rheolwr Cyffredinol ac Is-lywydd Gweithredol Lucasfilm.

Cyn ymuno â Lucasfilm, roedd gan Brennan 10 mlynedd o brofiad ym maes datblygu meddalwedd effeithiau gweledol mewn cwmnïau fel Parallax Software, Avid Technology ac Alias Wavefront. Mae Lynwen yn dod o Benalun, Sir Benfro, ac mae’n dychwelyd i Gymru yn rheolaidd i ymweld â’i theulu.

Dywedodd Lynwen, “Mae’n anrhydedd mawr a braidd yn swrrealaidd i gael gwobr mor fawreddog gan BAFTA Cymru. Rwy’n falch iawn o fod yn Gymraes, a doeddwn i byth wedi dychmygu y byddwn yn cael fy anrhydeddu yn y fath fodd gan y diwydiant a’r wlad sydd mor agos at fy nghalon. A minnau wedi gweithio gyda grŵp o weithwyr proffesiynol mor rhyfeddol o ddawnus yn Lucasfilm, ILM a Skywalker Sound am 20 mlynedd, mae wir yn ddiolch i’w creadigrwydd, eu harloesedd a’u dycnwch nhw y gallaf dderbyn y wobr fawr ei bri hon ar eu rhan.”

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn dewis yr unigolion hynny sydd ar frig eu gyrfaoedd rhyngwladol ac sy’n llysgenhadon gwych i Gymru a’r diwydiannau creadigol i dderbyn ein Gwobrau Arbennig.

Unwaith eto eleni, rydym yn dathlu gyrfaoedd disglair a chyfraniadau dau ymarferydd benywaidd sy’n uchel eu parch ac yn ddylanwadol iawn yn eu meysydd.

Edrychwn ymlaen at gyflwyno eu gwobrau arbennig iddynt ar 13 Hydref.”

Mae Parti Enwebeion BAFTA Cymru, lle y gwnaed y cyhoeddiad, yn dathlu’r enwebeion ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru sydd ar ddod ar draws categorïau cynhyrchu ffilmiau, gemau a theledu, crefft a pherfformio yng Nghymru.

Daeth unigolion a chwmnïau sy’n cynrychioli’r cynyrchiadau a enwebwyd at ei gilydd yn y parti, a gynhaliwyd yn y Cornerstone ac a noddwyd gan Mad Dog 2020 Casting. Mwynhaodd y gwesteion fwyd gan Spiros Fine Dining sydd wedi ennill gwobrau, a siampên gan bartner BAFTA, Champagne Taittinger.

Ymhlith y gwesteion yn mynychu’r Parti Enwebeion oedd yr actores Eiry Thomas (Enid a Lucy / Keeping Faith), Richard Elis (Pink Wall) yr awdur Fflur Dafydd (35 Awr/35 Diwrnod), Artist Colur Morfydd James Spinks (Doctor Who / Atlantis) a'r Dylunydd Gwisgoedd Dawn Thomas Mondo (Hidden/Craith) a'r gwneuthurwyr ffilm Jamie Jones (Obey) a Jamie Adams (Pink Wall / Black Mountain Poets), a enwebwyd yn y categori Breakthrough a'r categori Nodwedd Ffilm / Teledu yn y drefn honno.

Roedd y tîm y tu ôl i raglen ddogfen nodwedd Anorac, a dderbyniodd 6 enwebiad eleni, hefyd yn bresennol.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymuno â’r enwebeion a’r gwesteion arbennig yng ngwobrau eleni. Mae nifer gyfyngedig o docynnau ar gael o hyd ar gyfer y derbyniad siampên, y seremoni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a’r parti ar ôl y seremoni yng ngwesty Radisson Blu. Pris y tocynnau yw £98.

Bydd manylion yr enwebeion a’r gwesteion a fydd yn dod i’r seremoni yn cael eu cyhoeddi ar 9 Hydref.

Bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw i sianeli Facebook a YouTube BAFTA Cymru unwaith eto eleni, a bydd digwyddiad gwylio arbennig yn cael ei gynnal gan Gymry Efrog Newydd yn The Liberty ym Manhattan. Am y trydydd tro, bydd BAFTA hefyd yn ffrydio’n fyw o’r carped coch, lle y bydd gwylwyr yn gallu clywed gan y gwesteion wrth iddynt gyrraedd.


Cadarnhawyd mai noddwyr a phartneriaid y digwyddiad yw AB Acoustics, Prifysgol Aberystwyth, Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Bluestone Brewery, Buzz Magazine, Capital Law, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Clarins, Cuebox, Da Mhile Gin, Deloitte, DRESD, EE, Elstree Light and Power, Gorilla, Iceland, ITV Wales, Ken Picton Salon, Mad Dog 2020 Casting, Radisson Blu, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Neuadd Dewi Sant, Taylor Bloxham, The Social Club, Agency, Trosol, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Villa Maria, Waterstone Homes, Llywodraeth Cymru, Working Word a’r Egin.

Gellir prynu tocynnau o tickets.bafta.org