You are here

Taith "Debuts" BAFTA - A Way of Life + sesiwn holi ac ateb gyda Amma Asante

Photo shoot celebrating women in film for the EE British Academy Film Awards brochure given to attendees on the night (Sun 8 Feb 2015)BAFTA/Chris Floyd
Wednesday, 12 July 2017 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Fel rhan o'r daith perfformiadau cyntaf BAFTA byddwn yn croesawu Amma Asante i Gaerdydd i drafod ei ffilm nodwedd gyntaf A Way of Life. Bydd y noson hefyd yn cynnwys teyrnged i'r cynhyrchydd y ffilm, y diweddar Peter Edwards.

Mae tocynnau cyhoeddus ar gael i’w prynu drwy’r Chapter. 

Yn adnabyddus am ei sgiliau ar ail-fframio ein barn am Brydain fodern mewn ffilmiau gan gynnwys Belle ac A United Kingdom, mae A Way of Life yn gweld cyfarwyddwr a'r awdur Amma Asante yn rhoi sylw ar Gymru gyfoes. Enillodd Asante BAFTA am ei chyfraniad i linach realaeth "kitchen sink" Prydeinig, ac yn serennu un o actorion gorau y genre Brenda Blethyn (Secrets a Lies, Little Voice) yn ogystal â chast gyfoethog o newydd-ddyfodiaid.

Mae'r stori o hiliaeth a bywydau ar y cyrion yn berthnasol i'w ailddarganfod ym Mhrydain Brexit. Mae A Way of Life yn canolbwyntio ar fam yn ei harddegau Leigh-Anne Williams (Stephanie James); ei brawd Gavin (Nathan Jones), sydd yn ddwy ar bymtheg oed, a'i cyfaill Robbie (Gary Sheppeard), dwy ar bymtheg mlwydd oed ac yn benderfynol i symud y tu hwnt i'w gymuned a Stephen (Dean Wong), ymtheg mlwydd oed ac yn dyheu am hunaniaeth Gymreig.

Mae pob un ohonynt ar hyd ymylon cymdeithas...tan un diwrnod mae paranoia, diflastod, rhwystredigaeth a dicter yn ffurfio'n gyfuniad marwol. Pan fydd dyfodol merch fach Leigh-Ann yn ymddangos o dan fygythiad gan gymydog Mwslimaidd Twrceg mae ef yn troi i fewn i darged o ddicter bychanol. Mae A Way of Life yn stori dreisgar ond pwerus am fam ifanc a'i phlentyn, o ramant yn eu harddegau a chyfeillgarwch.

Gwylio'r rhagflas:


Mae'r daith ffilm perfformiadau cyntaf BAFTA yn rhan o ddathliadau pen-blwydd BAFTA ar 70. Gyda chymorth y BFI, Y Loteri Genedlaethol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Independent Cinema Office ac Into Film