Yn adnabyddus am ei rolau rhyngwladol, arobryn yn The Amazing Spider-Man, Harry Potter a'r Deathly Hallows: Part 1, Nanny McPhee Returns, Mr Nice, Notting Hill, Twin Town a llawer mwy, bydd Rhys yn siarad am ei yrfa hyd yma, beth sy'n ei ysbrydoli, ei gariad at Gymru a'i gof am y daith i ddatganoli gyda'r digrifwr, yr awdur a'r cyflwynydd Daniel Glyn.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o raglen GWLAD.
Mae GWLAD yn gymysgedd bywiog o sgyrsiau a darlithoedd, celf, comedi, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth sy’n gyfle i ddathlu Cymru a thrafod y dyfodol o safbwynt themâu gwahanol.
Mae’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â nifer o bartneriaid dylanwadol a chreadigol. Mae’n rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli, sydd hefyd yn cynnwys tri digwyddiad undydd GWLAD mewn tri lleoliad ar draws Cymru yn yr hydref.
Mae tocynnau i’r cyhoedd ar gael o 29 Awst yma.
Cyflwynir mewn cyd-weithrediad gyda: