Daw i ddarganfod fod y dref hardd, sy'n hafan ddelfrydol iddi hi a'i theulu, hefyd yn gwarchod cyfrinachau tywyll sy'n fygythiad i'w dyfodol. Ar drywydd y gwir, mae Faith yn newid byd. Mae hi'n camu o'i bodolaeth gyfforddus, fel mam a gwraig ddefosiynol, ac yn troi'n dditectif digyfaddawd. Am y tro cyntaf, mae hi'n fodlon wynebu perygl a chymryd risg a brwydro er mwyn ei theulu i ddarganfod y gwir.
Ymhlith y cast mae; Eve Myles, Matthew Gravelle (35 Diwrnod, Y Gwyll/Hinterland, Broadchurch), Mali Harries (Y Gwyll/Hinterland), Mark Lewis Jones (Byw Celwydd, Stella, National Treasure) ac Aneirin Hughes (Y Gwyll/Hinterland, Pobol y Cwm).
Nodwch bydd y ddarllediad hwn wedi ei is-deitlo.
18.45 - derbyniad
19.30 - dangosiad
Mewn partneriaeth gyda: