You are here

Rhagddangosiad: 35 Diwrnos + C&A

Monday, 27 February 2017 - 7:00pm
Cineworld Cardiff
Rhag-ddangosiad o bennod cyntaf y gyfres 35 Diwrnod sydd wedi enill nifer o wobrau BAFTA Cymru.

Dôl Wen. Hen dŷ mawreddog yng nghanol dyffryn cyfoethog, gwyrddlas. Mae'r drysau wedi cau a llieiniau gwynion wedi'u taenu dros y celfi. Wedi i Gwyndaf farw rai blynyddoedd yn ôl,  penderfynodd ei wraig, Mair barhau i fyw yn y tŷ tra'n rhentu'r tir i'w brawd- yng- nghyfraith. Wedi ei marwolaeth hithau bu'r tŷ yn wag ac yn gragen ddigysur cyn i'r plant a'u teuluoedd ddychwelyd yn ystod gwyliau'r haf i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol Dôl Wen.

Mae yma gyfrinachau teuluol. Hen hanes. Hen gynnen. Stori sy'n llawn o greithiau emosiynol a seicolegol. Stori am deulu yn dod ynghyd o dan yr un to . Yn grochan berw am 35 diwrnod dros yr haf .  Mae'r caeau o gwmpas yn eu llawnder ond rhwng pedair wal dywyll Dôl Wen, mae 'na dyndra a thristwch chwerw sy'n arwain yn y pendraw at lofruddiaeth.


Sesiwn cwestiwn ag ateb rhwng Siwan Jones a aelodau'r cast Mali Jones ac Owain Gwynn.


Mewn partneriaeth gyda: