You are here

Rhag-ddangosiad: Years and Years + sesiwn holi gyda Russell T Davies

Years and YearsBBC/Red Productions/Guy Farrow
Thursday, 2 May 2019 - 6:45pm
Chapter, Caerdydd
Wrth i ddatblygiadau gwleidyddol, economaidd a thechnolegol ansefydlu Prydain, rydym yn dilyn y teulu Lyons wrth i'w bywydau cymhleth cyd-gyfarfod ar un noson hanfodol yn 2019. Yna, dros y 15 mlynedd nesaf, mae troeon bywyd bob dydd yn cael eu harchwilio wrth i ni ddarganfod os allai'r teulu cyffredin hwn newid y byd.

Cyfres ddrama newydd Russell T Davies ar gyfer BBC One a gynhyrchwyd gan gwmni cynhyrchu RED ar gyfer BBC One a HBO, yn serennu Emma Thompson, Rory Kinnear, Jessica Hynes, Ruth Madeley, TNN Miller, Anne Reid a Russell Tovey.

Yn dilyn y dangosiad bydd sesiwn holi ac ateb gyda Russell T Davies.

Mae gennym ddyraniad o docynnau cyflenwol ar gael i'r aelodau. Ebostiwch Vicki i gael tocyn.

Mae modd i'r cyhoedd archebu tocyn gan swyddfa docynnau Chapter.


Mewn partneriaeth gyda: