Dydd Iau, 25 Hydref
Cineworld, Caerdydd, CF10 2EN
Mae MORFYDD yn ffilm biopic sy'n seiliedig ar hanes trasig y gantores,y pianydd a’r gyfansoddwraig dalentog o Drefforest Morfydd Owen. Ar ôl symud i Lundain i astudio yn yr Academi Frenhinol syrthiodd mewn cariad ag Ernest Jones, un o ddilynwyr amlwg Sigmund Freud. Ond yn 1918, ychydig dros flwyddyn ar ôl iddyn nhw briodi mae Morfydd yn marw yn dilyn llawdriniaeth ar fwrdd y gegin yng nghartref ei theulu yng nghyfraith yn Mwmbwls.
Mae hon yn stori am briodas rhwng dau berson hollol wahanol. Y seicdreiddiwr clyfar yn ei dridegau a merch ramantus, fywiog yn ei hugeiniau. Yr anghrediniwr a'r gapelwraig ffyddlon. Mae hefyd yn stori am fywyd cerddor athrylithgar,bywyd a ddaeth i ben a hithau ond yn 26 oed.
Dilynir y dangosiad gan sesiwn holi gyda'r awdur Siwan Jones a’r actores Rhian Blythe.
Mewn partneriaeth gyda: